Diharebion 15 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XV.

1Atteb arafaidd a ddetrŷ lîd: ond gair Pen.25.15.garw a gyffru ddigofaint.

2Tafod y synhwyrol a draetha ŵybodaeth yn dda: ond genaû y ffyliaid a dywallt ffolineb.

3Ym mhob lle y mae llygaid yr Arglwydd yn canfod y drygionûs a’r daionûs.

4Pren y bywyd yw tafod iach: ond trawsedd yr hwn sydd ynddo ef sydd megis terfysc gwynt.

5Dŷn ffôl a ddiystyra addysc ei dad, ond y neb a ddioddefo gerydd sydd gall.

6Yn nhŷ’r cyfiawn y bydd mawr gyfoeth: ond am olud yr annuwiol y mae trallod.

7Gwefûsau y doethion a wascarant ŵybodaeth: ond calon y ffŷliaid y peth nid yw iniawn.

8Aberth yr annuwiol sydd ffiaîdd gan yr Arglwydd: ond gweddi’r iniawn sydd gymeradwy ganddo ef.

9Ffordd yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr Arglwydd: ond efe a gâr y neb a ddilyn gyfiawnder.

10Cerydd sydd flin gan y neb a drŷ oddi ar y ffordd: a’r neb a gasâo gospedigaeth a fydd marw.

11Uffern a dinistr ydynt gerbron yr Arglwydd: pa faint mwy calonnau plāt dynnion?

12Ni châr y gwatwar-wr mo’r neb ai ceryddo: ac ni ddaw ym mysc y doethion.

13Calon lawen a wna wyneb siriol: ond drwy ddolûr y tristeir y galon.

14Calon y synhwyrol a ymgais â gwybodaeth: ond genau y ffyliaid a borthir â ffolineb.

15Holl ddyddiau y tlawd ydynt flin: ond gwledd oestadol yw calon lawen.

16Gwell yw ychydig gyd ag ofn yr Arglwydd: na thryssor mawr â thrallod gyd ag ef.

17Gwell yw pryd o ddail lle byddo cariad: nag ŷch pascedic â châs gyd ag ef.

18 Pen.19.21. Gŵr digllon a gyffru gynnen: ond gŵr dioddefgar a dyrr ymryson.

19Ffordd y diog sydd fel clawdd drain: ond ffordd yr iniawn sydd wastad.

20Mab doeth a lawenhâ ei dad: ond uchel dyn ffol a diystyra ei fam.

21Ffolineb sydd hyfryd gan yr ynfyd: ond gŵr deallus a rodia yn iniawn.

22Ofer yw meddyliau ni byddo cyngor: ac mewn amlder cynghorwŷr y sicrheîr

23Llawenydd fydd i ŵr o herwydd ymadrodd ei enaû, ac ô mor dda yw gair yn ei amser.

24Ffordd y bywyd sydd frŷ i’r synhwyrol, i ochel uffern obrŷ.

25Yr Arglwydd a ddiwreiddia dŷ’r beilchion: ond efe a gadarnhâ derfyn y weddw.

26Meddyliau’r annûwiol sydd ffiaidd gan yr Arglwydd: ond geiriau’r glan ŷnt beraidd.

27Y neb a fyddo drachwānog ei olwg a derfysca ei dŷ: ond y neb a gasâo roddion fydd byw.

28Calon y cyfiawn a fyfyria i atteb: ond genau y drygionûs a draetha ddrwg.

29Pell yw’r Arglwydd oddi wrth y rhai annuwiol: ond efe a wrendu weddi y cyfiawn.

30Llewyrch y llygaid a lawenhâ’r galon: a henw da a frassâ’r escyrn.

31Y glûst a wrandawo ar gerydd y bywyd, a gaiff bresswylio ym mhlith y doethion.

32Y neb a wrthodo addysc, a ddiystyra ei enaid ei hûn: ond y neb a wrandawo ar gerydd a feddianna ddeall.

33Addysc doethineb yw ofn yr Arglwydd: ac o flaen anrhydedd yr aiff gostyngeiddrwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help