1Gwae fi canys ydwyf fel cascliadau ffrwythydd hâf, fel grawn-win y cynhaiaif gwîn, nid oes gangen o rawn iw bwytta, fy enaid a flysia,
2Darfu am y duwiol ar y ddaiar, ac nid oes vn iniawn ym mhlith dynion, cynllwyn y maent oll am waed, pob vn sydd yn erlid ei frawd rhwyd.
3A wneuthur iawn am ddrygioni eu dwylo, y tywysog a ofyn, a’r barn-wr er gwobr, a’r hwn sydd fawr dywed yntef lwgredigaeth ei feddwl, felly y plethant ef.
4Y goref o honynt fel draenen, yr inionaf nâ chae drain, dydd dy wilwyr dy ofwy sydd yn dyfod, bellach y bydd eu drysni hwynt.
5Na chredwch i’r cymmydog, nac ymddyriedwch i’r capten, cadw ddrws enau rhac o’r hon a orwedd vn dy fonwes.
6Canys mab a amharcha ei dâd, a’r ferch a gyfyd yn erbyn ei mam, a’r waudd yn erbyn ei chwegr: a gelynion gŵr dynion ei dŷ.
7Onid mi a edrychaf ar yr Arglwydd, gobeithiaf ar Dduw fy iechydwriaeth: a’m Duw a’m gwrendu.
8Na lawenycha im herbyn fyng-elynes, pan syrthiwyf cyfodaf, pan eisteddwyf mewn tywyllwch, yr Arglwydd a lewyrcha imi.
9Dioddefaf ddîg yr Arglwydd, canys pechais iw erbyn: hyd oni farno fyng-hŵyn, a gwneuthur i mi farn, gan fy nwyn allan i’r goleuad, y gwelaf ei gyfiawnder.
10A’m gelynes a gaiff weled, a chywilydd ai gorchguddia hi yr hon a ddywed wrthif, mae’r Arglwydd dy Dduw: fy llygaid ai gwiliant hi bellach y bydd hi yn sathrfa megis tomm yr heolydd.
11Y dydd yr adailedir dy furoedd, y dydd hwnnw yr ymbellha y ddeddf.
12Y dydd hwnnw y daw efe hyd attat o Assur, a’r dinasoedd cedyrn, ac o’r cadernid hyd y ffrŵd, ac o fôr i fôr, ac o fynydd i fynydd.
13A’r wlâd a fydd yn anrhaith o achos ei thrigolion, am ffrwyth eu gweithredoedd eu hun.
14Portha dy bobl a’th fagl, defaid dy etifeddiaeth y rhai ydynt yn trigo yn y goedwic yn vnic, porant yng-hanol Carmel, Basan, a Gilead, megis y dyddiau gynt.
15Dangosaf iddo ryfeddodau megis y dyddiau pan ddaethost allan o dîr yr Aipht.
16Y cenhedloedd, a welant, ac a gywilyddiant, gan eu holl gryfder hwynt, rhoddant eu llaw ar eu genau, eu clustiau a fyddarant.
17Llŷfant y llŵch fel sarph, fel pryfed y ddaiar y dychrynnant oi llochesau, arswydant rhac yr Arglwydd ein Duw ni, a thi a ofnant,
18Pa Dduw fel tydi yn maddeu pechod, ac yn myned tros anwiredd gweddill ei etifeddiaeth? ni ddal efe ei ddig byth, canys ewyllysio trugaredd efe.
19Efe a ddychel ac a drugarha wrthym, ac a ddarostwng ein anwiredd, ac a deifl ein holl bechodau i ddyfnderoedd y môr.
20Ti a roddi dy wirionedd i Iacob, dy drugaredd i Abraham, yr hwn a dyngaist i’n tadau, er y dyddiau gynt.
Terfyn llyfr Micheas.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
