Psalmau 22 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. xxij.Deus, Deus meus.At y pen-cerdd ar Aieleth hashachar. Psalm Dafydd.

1 Fy Matth.27.46.Nuw, fy Nuw, pa ham i’m gadewaist? pell oddi wrth fy iechydwriaeth, a geiriau fy llefain?

2Fy Nuw llefain yr ydwyf y dydd, ac ni attebi: y nôs hefyd, ac nid oysteg i mi.

3A thithe moliant Israel ydwyt yn parhau yn sanctaidd.

4Ein tadau a obeithiâsant ynot: gobeithiasant, a gwaredaist hwynt.

5Arnat ti y llefâsant, ac achubwyd hwynt: ynot yr ymddyriedâsant, ac ni’s gwaradwyddwyd hwynt.

6A minne pryf, ac nid gŵr: gwarthrudd dynnion, a dirmyg y bobl.

7Pawb a’r a’m gwelant a’m gwatwârant: llaesant wefl, escydwant bennau

8Ymddyriedodd yn yr Arglwydd, gwareded ef: achubed ef, gan ei fod yn ddâ ganddo.

9Canys ti a’m tynnaist o’r grôth: gwnaethost i mi obeithio ar fronnau fy mam.

10Arnat ti i’m bwriwyd o’r brû: o groth fy mam fy Nuw ydwyt.

11Nac ymbellhâ di oddi wrthif, o herwydd cyfyngder agos: ac nid gynnorthwy-wr.

12Bustych lawer a’m cylchynâsant: gwrdd deirw Basan, a’m hamgylchâsant.

13Agorâsant arnaf eu gênau: llew rheipus a rhuadwy.

14Fel dwfr i’m tywalltwyd, a’m hescyrn oll a ymwahanâsant: fyng-halon sydd doddedic fel cŵyr: yng-hanol fy mherfedd.

15Fy nerth a ŵywodd fel pridd-lestr: a’m tafod a lŷnodd wrth daflod fyng-enau: ac yn llŵch angeu i’m cyfleaist.

16Canys cŵn a’m cylchynâsant, a chynnulleidfa y drygionus a’m hamgylchynâsant: cloddiâsant fy nwy-law a’m traed.

17Gallaf gyfrif fy holl escyrn: y maent yn tremmio ac yn edrych arnaf fi.

18 Matth.27.25. Y maent yn rhannu fy nillad yn eu mysc: ac ar fyng-wisc y maent yn bwrw coelbren.

19A thithe Arglwydd nac ymbellhâ: fyng-hadernid bryssia i’m cynnorthwyo.

20Gwaret fy enaid rhag y cleddyf: fy vnic o feddiant y cî.

21Achub fi rhag safn y llew: o blith cyrn vnicorniaid atteb fi.

22 Heb.2.12. Mynegaf dy henw i’m brodyr: yng-hanol y gynnulleidfa i’th folaf.

23Y rhai sy yn ofni’r Arglwydd molwch ef, holl hâd Iacob gogoneddwch ef: a holl hâd Israel ofnwch ef.

24Canys ni ddirmygodd, ac ni ffieiddiodd gystudd y tlawd, ac ni chuddiodd ei wyneb rhagddo: ond pan lefodd efe arno y gwrandawodd ef.

25Fy mawl o honot ti yn y gynnulleidfa fawr: fy addunedau a dâlaf ger bron y rhai ai hofnant ef.

26Y tlodion a fwyttânt, ac a ddiwellir, y rhai a geisiant yr Arglwydd ai moliannant ef: eich calon fydd byw yn dragywydd.

27Holl derfynau y ddaiar a gofiant, ac a ddychwêlant at yr Arglwydd: a holl dylwythau y cenhedloedd a addôlant ger dy fron di.

28Canys eiddo’r Arglwydd’r deyrnas: ac efe sydd yn llywodraethu ym mhlith y cenhedloedd.

29Yr holl rai breision ddaiar a fwyttânt, ac a addôlant: y rhai a ddescynnant i’r llŵch a gwympant ger ei fron ef: hyd yn oed ni fywhâ ei enaid.

30[Eu] hâd ai gwasanaetha ef: cyfrifir ef i’r Arglwydd yn genhedlaeth.

31Deuant, ac adroddant ei gyfiawnder ef i’r bobl a enir: gan iddo ef gwneuthur.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help