1O Arglwydd Dduw’r dial, ô Dduw’r dial ymddiscleiria.
2Ymddercha farn-wr y byd: tâl gwobr i’r beilchion.
3Pa hŷd Arglwydd yr annuwiolion? pa hyd y gorfoledda y rhai drygionus?
4Yr ymfawryga holl weithred-wŷr anwiredd? y siarâdant, ac y dywedant yn galed?
5Dy bobl Arglwydd a faeddant: a’th etifeddiaeth a gystuddiant.
6Y weddw a’r dieithr a laddant, a’r ymddifad a liasant.
7Dywedâsant hefyd, ni wêl yr Arglwydd: ac ni ddeall Duw Iacob
8Ystyriwch chwi rhai annoeth ym mysc y bobl: ac ynfydion, pa bryd y deallwch?
9Oni chlyw’r hwn a blannodd y glust? oni wêl yr hwn a luniodd y llygaid?
10Oni cherydda’r hwn a gospa y cenhedloedd? ŵyr yr hwn sydd yn dyscu gwybodaeth i ddŷn.
11Gŵyr yr Arglwydd feddyliau dŷn, mai gwagedd ydynt.
12Gwyn ei fŷd y gŵr yr hwn a gospi di ô Arglwydd, ac a ddysci yn dy gyfraith,
13I beri iddo lonydd oddi wrth ddyddiau dryg-fyd, hyd oni chloddier ffôs i’r annuwiol.
14Canys ni âd yr Arglwydd ei bobl, ac ni wrthid efe ei etifeddiaeth.
15Eithr barn a ddychwel at gyfiawnder, a’r holl rai iniawn o galon ar ei ôl ef.
16Pwy a gyfyd gyd â mi yn erbyn y rhai drygionus? pwy a saif gyd â mi yn erbyn gweithred-wŷr anwiredd?
17Oni’r Arglwydd yn gymmorth i mi, braidd na thrigâse fy enaid mewn distawrwydd.
18Pan ddywedwn, llithrodd fy nhroed, dy drugaredd di ô Arglwydd a’m cynhalie.
19Yn amlder fy meddyliau o’m mewn, dy ddiddanwch di a lawenyche fy enaid.
20A fydd cydymdeithas i ti â gorseddfaingc yr anwir: yr hwn a lunia anwiredd yn lle cyfraith?
21Yn finteioedd y deuant yn erbyn enaid y cyfiawn: a gwaed gwirion a farnant yn euog.
22Eithr yr Arglwydd sydd yn amddeffynfa i mi, a’m Duw craig fy ymddyried.
23Ac efe a dâl iddynt eu hanwiredd, ac ai tyrr ymmaith yn eu drygioni: yr Arglwydd ein Duw ai tyrr hwynt ymmaith.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
