1Geiriau y Pregeth-wr mâb Dafydd frenin yn Ierusalem.
2Gwagedd o wagedd medd y Pregeth-wr, gwagedd o wagedd; gwagedd cwbl.
3Pa fudd sydd i ddŷn oi hôll lafur, a gymmero efe dann yr haul?
4Un genhedlaeth a aiff ymmaith, a chenhedlaeth arall a ddaw: ond y ddaiar a saif byth.
5Yr haul hefyd a gyfŷd, a’r haul a fachluda, ac a dynn iw le, lle y mae yn codi.
6Efe a aiff i’r dehau, ac a amgylcha i’r gogledd: y mae’r gwynt yn myned oddi amgylch, ac yn dychwelyd yn ei gwmpas.
7Yr hôll afônydd a rêdant i’r môr, ac etto nid yw’r môr yn llawn: i ba le bynnac y rhêdo’r afonydd, oddi yno y dychwêlant eil-waith.
8Pôb peth sydd yn llawn blinder, ni ddichon nêb ei dreuthu: ni chaiff y llygad ddigon o edrych, na’r glust a wrando.
9Y pêth a fu a fydd, a’r peth a wnaed, a wnêir, ac nid oes dim newydd dann yr haul.
10A oes dim y gellir dywedyd, edrych ar hwn, dymma beth newydd? canys efe fu yn yr hên amser o’n blaen ni.
11Nid oes goffa am y pethau gynt, ac ni bydd coffa am y pethau a ddaw yn ôl, gan y rhai a ddaw ar eu hôl hwynt.
12Myfi y Pregeth-wr oeddwn frenin ar Israel yn Ierusalem:
13Ac a roddais fy mrŷd ar geisio, ac ar chwilio am ddoethineb, am bôb peth a wnaed tann y nefoedd: (dymma drafael flin a roddes Duw ar feibion dynnion i ymguro ynddi)
14Mi a welais yr holl weithredoedd y rhai sydd tann haul, ac wele y rhai hynny ôll ydynt wagedd a gorthrymder yspryd.
15Ni ellir uniawni yr hyn sydd gam, na chyfrif yr hyn sydd ddeffygiol.
16Mi a feddyliais yn fyng-halon gan ddywedyd, wele mi a gynnyddais, ac a gesclais ddoethineb tu-hwnt i bawb a fu o’m blaen i yn Ierusalem, a’m calon a ddeâllodd lawer o ddoethineb, a gŵybodaeth.
17Mi a roddais fy mrŷd hefyd i ŵybod doethineb, gŵybodaeth, ynfydrwydd, a ffolineb, ac mi a ŵybum fod hyn hefyd yn orthrymder yspryd.
18Canys mewn llaweroedd o ddoethineb y mae llawer o ddig: a’r neb a chwanêgo ŵybodaeth a chwanêga ei flinder.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
