Diharebion 25 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXV.

1DYMMA HEFYD DDIHAREBION Salomon y rhai a gasclodd gwŷr Ezecia brenin Iuda.

2Anrhydedd Duw yw celu cyfrinach: ond anrhydedd brenin yw chwilio am beth.

3Uchder y nefoedd, dyfnder y ddaiar: a chalon brenin ni ellir eu chwilio.

4Wrth dynnu’r amhuredd oddi wrth yr arian y daw i’r gof arian-lestr.

5Felly wrth dynnu’r annuwiol ô olwg y brenin: y cadarnhêir drwy gyfiawnder ei orseddfa ef.

6Na ogonedda di dy hun ger bron y brenin: ac na saf yn lle gwŷr mawr.

7Canys gwell it ddywedyd wrthit, tyret i fynu: na’th fwrw yn îs ger bron pendefig yr hwn beth a wel dy lygaid.

8Na ddechreu di gynnen yn rhy ebrwydd: rhag ofn o’r diwedd i’r peth oedd yn dy fryd ti ei wneuthur syrthio i ti dy hun, ac yna dy gywilyddio gan dy gymmydog.

9Dadle a’th gymmydog: ond na ddatguddia gyfrinach gŵr arall:

10Rhag i’r neb a fyddo yn gwrando ddwyn gwarth arnat ti: ac i’th gywilydd na thrŷ oddi wrthit.

11Gair a ddyweder mewn amser sydd megis afalau aur mewn gwaith arian cerfiedig.

12Cerydd-wr doeth i’r glûst a wrandawo sydd fel annwyl-dlws euraid, a gwisc o aur rhagorol.

13Megis oerder eira yn amser cynhaiaf yw cennad ffyddlon i’r rhai ai gyrrant ef: canys efe a lawenycha enaid ei feistred.

14Y neb a ymffrostio yn fawr heb roddi dim sydd gyffelyb i gwmylau a gwynt heb law.

15Drwy hir-ymaros y bodlonir pendefig: a thafod teg a dyrr greulondeb.

16Pan gaffech fêl, bwyta a’th wasanaetho: rhag wedi dy lenwi ô honaw, i ti ei chwdu ef.

17Cadw dy droed allan o dŷ dy gymmydog rhag iddo flino arnat, a’th gasaû.

18Y neb a ddygo gam destiolaeth yn erbyn ei gymmydog, sydd megis gordd, a chleddyf, a saeth flaen-llem.

19Coel ar ffalswr yn nŷdd cyfyngder, sydd megis dant wedi ei dorri, a throed wedi tyrfu.

20Yr hwn a dynno ymmaith wisc ar amser oerfeloc, finegr ar neitr, neu yn cânu caniadau i galon drist.

21 Rhuf.12.20. Os dy elyn a newyna portha ef â bara, ac os sychêda, dod ti iddo ddiod iw yfed.

22Canys marwor a bentyri ar ei ben ef: a’r Arglwydd a dâl i ti.

23Megis y par gwynt y gogledd law: felly y par tafod athrodgar wyneb-pryd digllon.

24 Pen.21.9. Gwell yw aros mewn congl yn nenn tŷ, na chyd â gwraig anynad mewn tŷ ehang.

25Fel dyfroedd oerion i enaid sychedig yw newyddion da o wlâd bell.

26Gŵr cyfiawn wedi syrthio i lawr ger bron y drygionus, sydd megis ffynnon wedi ei chymmyscu â gofer rhydlyd.

27Nit da bwyta llawer o fêl, ac felly Ecclus.3.22.chwilio eu hanrhydedd nid anrhydeddus yw.

28Y neb ni byddo ganddo attaliaeth ar ei chwant, sydd megis dinas ddrylliog heb gaer.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help