Diharebion 13 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIII.

1Mab doeth ar athrawiaeth ei dad: ond gwatwar-wr ni wrendu ar gerydd.

2Gŵr da a fwynhâ ffrwyth ei enau ei hun: ac enaid yr anghyfiawn ffrwyth trawsedd.

3Y neb a geidw ei enau a geidw ei enaid: ond y neb a estynno ei wefusau a ddinistrir.

4Enaid y diog a ddeisyf, ac ni chaiff ddim: ond enaid y diysceulus a ddigonir.

5Câs gan y cyfiawn eiriau celwyddog: ond a wna’r drygionus yn ffiaidd, ac a’i cywilyddia ef.

6Cyfiawnder a geidw y perffaith yn ei ffordd: ond annuwioldeb a ddymchwel y pechadur.

7Rhyw vn a ymffrostia ei fod yn gyfoethog, ac heb ddim ganddo: ac arall ei fod yn dlawd a chyfoeth lawer iddo.

8Iawn am enioes gŵr yw ei ddâ: ond y tlawd ni chlyw gerydd.

9Goleuni y cyfiawn a fydd disclaer: ond cannwyll y drygionus a ddiffoddir.

10Drwy falchedd yn vnic y cyffru cynnen: ond gyd a’r pwyllog y mae doethineb.

11Golud yr hwn a gesclir drwy anwiredd a ddiflanna: ond y neb a gasclo â llaw a chwanega ei

12Gobaith diweddar a wanhâ’r galon: ond prenn y bywyd yw’r deisyfiad pan ddel i ben.

13Yr hwn a ddirmygo’r gair, a ddifethir oi blegit: ond yr hwn sydd yn ofni y gorchymyn a obrwyir.

14Cyfraith y doeth ffynnon y bywyd, i gilio oddi wrth faglau angeu.

15Deall dâ a ddyry ras: ond ffordd y dirmyg-wŷr galed.

16Pob call a wnâ trwy ŵybodaeth: ond yr ynfyd a draetha ynfydrwydd,

17Cennad annuwiol a syrth i ddrygioni: ond cennad-wr ffyddlon iechyd.

18Tlodi a gwradwydd i’r hwn a wrthodo addysc: ond yr hwn a gadwo gerydd a anrhydeddir.

19Dymuniad wedi ei gyflawni sydd hyfryd gan yr enaid: ond ffiaidd gan ynfydion gilio oddi wrth ddrygioni.

20Yr hwn a rodia gyd â doethion fydd doeth: ond yr hwn sydd gyfaill i ynfydion, a gystuddir.

21Drygfyd a ganlyn bechaduriaid: ond a dâl ddaioni i’r rhai cyfiawn.

22Y daîonus a ranna etifeddiaeth i feibion feibion: a golud y pechadur a roddwyd i gadw’r cyfiawn.

23Llawer o ymborth ym maes y tlodion: ond heb iawn drefn anffrwythlon.

24Yr hwn a arbedo y wialen, sydd yn casâu ei fab: ond yr hwn ai câr ef ai cerydda ef mewn amser.

25Y cyfiawn a fwytu hyd oni ddigonir ef: ond bol yr annuwiolion fydd mewn eisieu.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help