1Pan glybu Phashur mab Immer yr offeiriad, yr hwn oedd yn benn golygwr yn nhŷ yr Arglwydd i Ieremi brophwydo y geiriau hyn,
2Yna Phashur a darawodd Ieremi y prophwyd, ac ai rhoddodd ef yn y carchar yr hwn yn y porth vchaf i Beniamin yr hwn wrth dŷ yr Arglwydd.
3A thrannoeth Phashur a ddug Ieremi allan o’r carchar, yna Ieremi a ddywedodd wrtho ef: ni eilw yr Arglwydd dy enw di Phashur, ond Magor Missabib.
4Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, wele fi yn rhoddi arnat ti ofn, arnat ti, ac i’r rhai oll a’th garant: a hwynt a syrthiant ar gleddyf eu gelynnion, a’th lygaid di yn gweled: rhoddaf hefyd holl Iuda yn llaw brenin Babilon, ac efe ai caethgluda hwynt i Babilon, ac ai lladd hwynt a’r cleddyf.
5Rhoddaf hefyd holl olud y ddinas hon, ai holl lafur, a phob dim a’r y sydd werthfawr genddi: a holl dryssorau brenhinoedd Iuda a roddafi i law eu gelynnion, y rhai ai difrodant hwynt, ac ai cymmerant, ac ai dygant i Babilon.
6A thithe Phashur, a phawb a’r sydd yn trigo yn dy dŷ a ewch mewn caethiwed, a thi a ddeui i Babilon: yno y byddi farw, ac yno i’th gleddir, ti a phob annwylyd i ti, y rhai y prophwydaist iddynt yn gelwyddoc.
7O Arglwydd ti a’m hudaist, ac mi a hudwyd, cryfach oeddit na mi, am hynny y gorchfygaist: yr ydwyf yn watwargerdd ar hŷd y dydd, pob vn sydd yn fyng-watwar.
8Canys er pan leferais, mi a waeddais trais, ac anrhaith y llefais: am hynny y bu gair yr Arglwydd yn wradwydd, ac yn watwargerdd i mi beunydd.
9Yna y dywedais, ni sonniaf am dano ef, ac ni phregethaf yn ei enw ef mwyach: onid oedd yn llosci fel tân yn fyng-halon, wedi ei gaeu o fewn fy escyrn, ac mi a flinais yn ceisio ymatal, ac ni allwn.
10Canys clywais enllibiaeth llawer dychryn o amgylch mynegwch i ni, a ninnau ai mynegwn yn disgwil cael bai arnaf ond odid efe a dwyllir, ac ni ai gorchfygwn ef, ac a ymddialwn arno.
11Onid yr Arglwydd oedd gyd â mi fel cawr ofnadwy, am hynny y syrthiodd fy erlydwŷr, ac ni orchfygasant, gwradwyddir hwynt yn ddirfawr, canys angall y gwnaethant, nid anghofir gwarth byth.
12 1.Sam.16.7. 1.Cron.28.9. Psal.7.9. Ier.11.20. Ier.17.10. A thi Arglwydd y lluoedd yr hwn wyt yn profi y cyfiawn, gan weled yr arennau a’r galon, pâr di i mi weled dy ddialedd arnynt: canys wrthit y treuthais fyng-hŵyn.
13Cenwch i’r Arglwydd, moliennwch yr Arglwydd: canys efe a achubodd enaid y tlawd o law y drygionus,
14 Ioh.3.1. Melldigedic y dydd i’m ganwyd arno: na fendiger y dydd i’m hescorodd fy mam.
15Melldigedic fyddo y gŵr yr hwn a fynegodd i’m tâd, gan ddywedyd: ganwyd i ti blentyn gwryw iw lawenychu ef.
16A bydded y gŵr hwnnw fel y dinasoedd y rhai a ymchwelodd yr Arglwydd, ac ni bu edifar ganddo: a chaffed efe glywed gwaedd y boreu, a bloedd bryd hanner dydd,
17Am na laddodd fi o’r grôth, neu na buase fy mam yn fedd i mi, ai chroth yn feichiog byth.
18Pa ham y deuthum i allan o’r groth i weled poen a blinder? ac y darfydde fy nyddiau mewn gwarth?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.