1Yna y prophwydodd Agge.1.1.|HAG 1:1. 3.Esdr.6.1.Aggeus y prophwyd, a Zacarias mab Ido y prophwyd i’r Iddewon y rhai yn Iuda, ac yn Ierusalem: yn enw Duw Israel y prophwydasant iddynt.
2Yna Zorobabel mab Salathiel, ac Iesua mab Iosedec a godasant, ac a ddechreuasant adailadu tŷ Dduw’r hwn yn Ierusalem: a phrophwydi Duw gyd a hwynt yn eu cynnorthwyo.
3Y pryd hynny y daeth attynt hwy Thathanai tywysog tu hwnt i’r afon, a Setharbuzani, ai cyfeillion, ac fel hyn y dywedasant wrthynt: pwy a roddes i chwi orchymyn i adailadu y tŷ hwn, ac i sylfaenu y murau hyn?
4Yna fel hyn y dywedasom wrthynt, beth yw henwau y gwŷr a adailadant yr adailadaeth ymma?
5A golwg eu Duw oedd ar henuriaid yr Iddewon, fel na wnaethant iddynt beidio nes dyfod yr achos at Ddarius: ac yna’r attebasant lythyr am hyn.
6Ystyr y llythyr yr hwn a anfonodd Thathanai tywysog tu hwnt i’r afon, a Setharbuzani ai gyfeillion y Persiaid y rhai o’r tu hwnt i’r afon at y brenin Darius
7Anfonasant air atto ef, at fel hyn yr scrifennasid ynddo ef: POB heddwch i’r brenin Darius.
8Bydded hyspys i’r brenin fyned o honom ni i dalaith Iuda i dŷ y Duw mawr, a bod yn ei adeiladu a meini marmor, a gosot coed yn ei barwydydd ef, a bod yn gwneuthur y gwaith ar frŷs, ai fod yn llwyddo yn eu dwylo hwynt.
9Yna y gofynnasom i’r henuriaid hynny, a ddywedasom wrthynt fel hyn: pwy a roddes i chwi orchymyn i adailadu y tŷ hwn, ac isylfaenu, y mûr ymma?
10Gofynnasom hefyd iddynt eu henwau hwynt, fel yr yspyssem i ti, fel yr scrifennem henwau y gwŷr y rhai yn bennau iddynt.
11A’r geiriau hyn a attebasant i ni gan ddywedyd: nyni ydym weision Duw y nefoedd, a’r ddaiar, ac yn adailadu y tŷ’r hwn fu yn adailedic cyn hyn lawer o flynyddoedd: a’r 1.Bren.6.2. 2.Cron.3.2.brenin mawr o Israel ai hadailadase, ac ai seiliase ef.
12Eithr er pan ddigiodd ein tadau ni Dduw nefoedd, efe ai 2.Bren.24.12. & 25.9.rhoddes hwynt yn llaw Nabuchodonosor brenin Babilon y Caldead, a’r tŷ hwn a ddinistriodd efe, ac a gaeth-gludodd y bobl i Babilon.
13Er hynny yn Ezr.1.1.y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Babilon y rhoddesy brenin Cyrus orchymyn i adailadu y tŷ Duw hwn.
14A llestri tŷ Dduw hefyd o aur, ac arian y rhai a ddugase Nabuchodonosor o’r deml yn Ierusalem, ac ai ddugase i deml Babilon: y rhai hynny a ddûg y brenin Cyrus allan o deml Babilon, a rhoddwyd hwynt i Ezr.1.8.Sasbazar ei henw, yr hwn a osodase efe yn dywysog.
15Ac efe a ddywedodd wrtho, cymmer y llestri hyn, dos, dwg hwynt i’r deml yn Ierusalem, ac adailader tŷ Dduw yn ei lê.
16Yna y daeth y Sasbazar hwnnw, ac a osododd sylfeini tŷ Dduw yn Ierusalem, ac o’r pryd hynny hyd yr awr hon yr ydys yn ei adailadu, ac nis gorphennwyd.
17Ac yn awr (os dâ gan y brenin) ceisier yn nhryssor-dŷ y brenin yna yn Babilon: a ddarfu i’r brenin Cyrus osod gorchymyn am adailadu y tŷ Duw hwn yn Ierusalem, ac anfoner attom ni ewyllys y brenin am hyn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.