1Yna holl bobl Iuda a gymmerasant 1.Bren.14.21.Uzzia, ac yntef yn fab vn mlwydd ar bymthec: ac ai hurddasant ef yn brenin yn lle Amasia ei dad.
2Efe a adailadodd Eloth, ac ai dug hi trachefn i Iuda ar ôl huno o’r brenin gyd ai dadau.
3Mab 1.Bren.15.2.vn mlwydd ar bymthec Uzzia pan ddechreuodd efe deyrnasu, a deuddengmhlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Ierusalem: ac enw ei fam ef Iecholiah o Ierusalem.
4Ac efe a wnaeth yr hyn oedd inion yng-olwg yr Arglwydd: yn ôl yr hyn oll a’r a wnaethe Amasia er dad ef.
5Ac efe a geisiodd Dduw yn nyddiau Zacharia’r hwn oedd yn deall gweledigaethau Duw: a thra y ceisiodd efe yr Arglwydd, Duw ai llwyddodd ef.
6Canys efe a aeth allan, ac a ymladdodd yn erbyn y Philistiaid, ac a rwygodd fûr Gath, a mûr Iabneh, a mûr Asdod: ac a adailadodd ddinasoedd yn Asdod, ac ym mhlith y Philistiaid.
7A Duw ai cynnorthwyodd ef yn erbyn y Philistiaid, ac yn erbyn yr Arabiaid y rhai oeddynt yn trigo yn Gurbaal, ac yn Hameunim.
8A’r Ammoniaid a roddasant antheg i Uzzia: ai enw ef a aeth hyd ddyfodfa yr Aipht, canys glew odieth oedd efe.
9Uzzia hefyd a adailadodd dŷrau yn Ierusalem wrth borth y gongl, ac wrth borth y dyffryn, ac wrth Nehe.3.19,24.Miczoah, ac ai cadarnhaodd hwynt.
10Ac efe a adailadodd dŷrau yn yr anialwch, ac a gloddiodd bydêwau lawer, canys anifeiliaid lawer oeddynt ganddo ef yn y dolydd, ac yn y gwastadedd: llafurwŷr a gwinllan-wŷr ef yn y mynyddoedd, ac o fewn Carmel, canys hoff oedd ganddo ef y ddaiar.
11Ac yr oedd gan Uzzia lu o ryfel-wŷr yn myned allan byddin yn dorfoedd dann nifer eu rhifedi hwynt, tann law Iehiel yr scrifennudd, a Maaseiah y swyddog: * a thann law Hanania o dywysogion y brenin.
12Holl rifedi y tadau pennaf ym mhlith y rhai cedyrn nerthol ddwy fil a chwe chant.
13A thann eu llaw hwynt llu y filwriaeth try chant mîl, a saith mil, a phum cant o ryfelwyr mewn nerth grymmysol, i gynnorthwyo y brenin yn erbyn y gelyn.
14Ac Uzzia a baratôdd iddynt hwy drwy’r holl lu dariannau, a gwaiw-ffyn, a helmau, a llurigau, a bwâu: a cherrig i daflu.
15Ac efe a wnaeth yn Ierusalem Offer drwy gelfyddyd rhai cywraint i fod ar y tŷrau, ac ar y conglau i ergydio saethau, a cherrig mawrion: ai enw ef aeth ym mhell, canys yn rhyfedd yr ymgynnorthwyodd efe nes ei gadarnhau.
16Pan gadarnhauwyd ef, ei galon a ymdderchafodd iw ddinistr canys efe a drosseddodd yn erbyn yr Arglwydd ei Dduw: ac efe a aeth i mewn i deml yr Arglwydd i arogl-darthu ar allor yr arogl-darth.
17Ac Azaria’r offeiriad a ddaeth ar ei ôl ef: a chydag ef bedwar vgain o offeiriaid yr Arglwydd yn feibion grymmus.
18A hwynt a safasant yn erbyn Uzzia y brenin, ac a ddywedasant wrtho ef, Num.18.7.ni i ti Uzzia arogl-darthu i’r Arglwydd, onid i’r offeiriaid meibion Aaron y rhai a gyssegrwyd i arogl-darthu: dos allan o’r cyssegr, canys ti a drosseddaist, ac ni i ti yn ogoniant gan yr Arglwydd Dduw.
19Yna y llidiodd Uzzia, a’r arogl-darth i arogl-darthu yn ei law ef: a phan lidiodd efe yn erbyn yr offeiriaid, yna y gwahanglwyf a gyfododd yn ei dalcen ef ger bron yr offeiriaid yn nhŷ’r Arglwydd ger llaw allor yr arogl-darth.
20Pan edrychodd Azaria’r arch-offeiriad a’r holl offeiriaid arno ef, yna wele efe yn wahan-glwyfus yn ei dalcen, a pharasant iddo fryssio oddi yno: ac felly y cymhellwyd ef i fyned allan, o herwydd yr Arglwydd ai tarawse ef.
21Felly Uzzia y brenin fu yn wahan-glwyfus hydd ddydd ei farwolaeth, 2.Bren.15.5.ac efe a drigodd yn wahan-glwyfus Lefit.13.46.mewn tŷ nailltuol, canys efe a dorrasid ymmaith o dŷ’r Arglwydd: ac Iotham ei fab ef benteulu’r brenin yn barnu pobl y wlâd
22A’r rhan arall o weithredoedd cyntaf a diweddaf Uzzia: Esay mab Amos y prophwyd ai scrifennodd
23Felly Uzzia a hunodd gyd ai dadau, a chladdasant ef gyd ai henafiaid ym maes y beddrod yr hwn eiddo y brenhinoedd, canys dywedasant gwahan-glwyfus efe: ac Iotham ei fab ef a deyrnasodd yn ei lê ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.