Exodus 23 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXIII.2 Ni ddylem ddilyn y blaid drechaf. 8 Na derbyn anrhegion. 10 Gorphywysfa tir a dynion. 13 Na choffaer y gau-dduwiau. 14 Y tair gwyl arbennic. 20 Angel yr Arglwydd yn arwain y bobl. 24 Beth a ddylid i wneuthur i ddelwau. 25 Duw yn addo llwyddiant i blant Israel os ofnent ef.

1Na chyfot enllib, na ddod dy law gyd a’r annuwiol i fod yn dŷst anwir.

2Na ddilyn y rhai amlaf i wneuthur drwg, ac nac atteb mewn ymrafael gan bwysso yn ol llaweroedd chan wyro.

3Na pharcha y tlawd y chwaith yn ei ymrafael.

4 Mat.5.44. Os cyfarfyddi ag eidion dy elyn, neu ai assyn yn myned ar gyfrgoll, dychwel ef adref iddo.

5Os gweli assyn yr hwn a’th gassaa di yn gorwedd dann ei phwn: paid a gadel iddi, gan gynnorthwyo cynnorthwya gyd ag ef.

6Na wyra farn dy dlawd yn ei ymrafael.

7Ymgadw ym mhell oddi wrth ffalster, na ladd y chwaith na’r gwirion, na’r cyfiawn, canys ni chyfiawnhafi’r anuwiol.

8Na Deut.16.19. Preg.16.20.32.(sic.)dderbyn wobr, canys gwobr a ddalla y rhai sydd yn gweled, ac a wyra eiriau y cyfiawn.

9Na orthrymma y dieithr, chwi a wyddoch galon y dieithr: o herwydd chwi a fuoch ddieithriaid yn nhîr yr Aipht.

10 Leuit.21.3.|LEV 21:3. Leuit.26.43.|LEV 26:43. Deut.15.1. Chwe blynedd yr heui dy dîr, ac y cesgli ei ffrwyth.

11A’r seithfed paid ag ef, a gad ef yn llonydd fel y caffo tlodion dy bobl fwytta, a bwyttaed bwyst-fil y maes eu gweddill hwynt: felly y gwnei am dy win-llan am dy oliwydden.

12 Exod.20.8. deut.5.12. Chwe diwrnod y gwnei dy waith, ac ar y seithfed dydd y gorphywysi: fel y caffo dy ŷch a’th assyn lonyddwch, ac y cymmero mâb dy forwyn gaeth a’r dieithr ddŷn ei anadl atto.

13Ac ymgedwch ym mhob peth a ddywedais wrthich, na choffewch enw duwiau eraill, na clywer o’th enau.

14Tair gwaith yn y flwyddyn y cedwi ŵyl i mi.

15Gŵyl y bara croiw a gedwi, saith niwrnod y bwyttei fara croiw, fel y gorchymynnais it: ar yr amser gossodedic o fîs Abib, canys ynddo y daethost allan o’r Aipht, ac nac ymddangosed ger fy-mron yn waglaw.

16A gŵyl cynhaiaf blaen-ffrwyth dy lafur yr hwn a heuaist yn y maes, a gŵyl y cynnull yn niwedd y flwyddyn, pan gynhullech dy lafur o’r maes.

17Tair gwaith yn y flwyddyn, yr ymddengys dy holl yrfiaid ger bron yr Arglwydd Ior.

18Nac abertha waed fy aberth ar fara lefeinllyd: ac nac arhoed brasder fy aberth dros nôs hyd y borau.

19Dŵg i dŷ’r Arglwydd dy Dduw y cyntaf o flaen-ffrwyth dy dîr: na ferwa fynn yn llaeth ei fam.

20Wele fi yn anfon angel o’th flaen i’th gadw ar y ffordd: ac i’th arwain i’r man a baratoais.

21Gwilia rhagddo, a gwrando ar ei lais ef, na chyffroa ef: canys ni ddioddef efe eich anwiredd o blegit fy enw ynddo ef.

22Os gan wrando y gwrandewi ar ei lais ef, a gwneuthur cwbl a lefarwyf, mi a fyddaf elyn i’th elynion, ac a wrthwyneba dy wrthwyneb-wyr

23O herwydd fy angel a aiff o’th flaen di, ac a’th ddŵg di at yr Amoriaid, a’r Hethiaid, a’r Phereziaid, a’r Canaaneaid, yr Hefiaid, a’r Iebusiaid: a mi ai difethaf hwynt.

24Nac ymgrymma iw duwiau hwynt, ac na wasanaetha hwynt, ac na wna yn ôl eu gweithredoedd hwynt, onid tynn hwynt i lawr, a dryllia eu delwau hwynt.

25A chwi a wasanaethwch yr Arglwydd eich Duw, ac efe a fendithia dy fara, a’th ddwfr, a mi a dynnaf ymmaith clefyd o’th fysc.

26Ni Deut.7.15.bydd yn dy dîr di a gollo ei beichiogi, nac vn ni allo blanta, mi a gyflawnaf rifedi dy ddyddiau.

27Mi a anfonaf fy arswyd o’th flaen, ac a laddaf yr holl bobl y rhai y deui attynt, ac a roddaf wegil dy holl elynion tuag attat.

28A mi a anfonaf gaccwn o’th flaen, a hwynt a yrrant yr Hefiaid, a’r Canaaneaid, a’r Hethiaid allan o’th flaen di.

29Ni yrraf hwynt allan oddi wrthit mewn vn flwyddyn: rhac bôd y wlâd yn ddiffaethwch ac i fwyst-filod y maes fyned yn amlach na thi.

30O fesur ychydic, ac ychydic, y gyrraf hwynt allan o’th flaen di, nes iti gynnyddu, ac ettifeddu y tîr.

31A gossodaf dy derfyn o’r môr côch, hyd fôr y Philistiaid, ac o’r diffeithwch hyd yr afon: canys mi a roddaf yn eich meddiant bresswyl-wyr y tîr, a thi ai gyrri hwynt allan o’th flaen di.

32Na Exod.34.15. deut.7.2.wna ammod a hwynt, nac ai duwiau.

33Na âd iddynt drigo yn dy wlâd, rhac iddynt beri it bechu im herbyn: canys os gwasanaethi di eu duwiau hwynt, diau y bydd yn dramgwydd i ti.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help