Ecclesiasticus 45 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XLV.Clôd Moses Aaron a Phinees.

1Moses yr hwn a oedd Exod.11.3. Act.7.22.hoff gan Dduw a dynion, ac y mae ei goffadwriaeth yn fendigedic.

2Efe ai gwnaeth ef yn debyg i ogoniant y sainct, ac ai mawrygodd ef gan beri iw elynion ei ofni ef: trwy ei eiriau ef y gwnaeth efe i ryfeddodau beidio.

3Efe ai gwnaeth ef Exod.6.7.|EXO 6:7. 8.9.yn ogoneddus yng-olwg brenhinoedd, efe a roddes gyd ag ef orchymyn at ei bobl, ac a ddangosodd iddo ef ei ogoniant.

4Efe Num 12.3.ai sancteiddiodd ef mewn ffydd a gostyngeiddrwydd, ac ai dewisodd ef o flaen pob dŷn.

5Efe a wnaeth iddo ef glywed ei lais ef, ac ai dug ef i’r cwmwl,

6Ac efe a roddes y gorchymynnion oi flaen ef, sef cyfraith bywyd a gŵybodaeth, efe a ddys­codd y cyfammod i Iacob, ai farnedigaethau i Israel.

7Efe a Exod.4.28.dderchafodd Aaron sanct, ei frawd ef; yr hwn a oedd debyg iddo ef o lwyth Lefi.

8Efe a siccrhaodd iddo ef gyfammod tragywyddol, ac a roddes iddo ef offeiriadaeth y bobl: efe ai gwnaeth ef yn ddedwydd mewn harddwch,

9Ac efe ai gwiscodd ef â gwisc ogoneddus efe ai gwiscodd ef â gorfoledd cyflawn, ac ai gwrgysodd ef ag offer cadernid,

10Llawdr-wisc, pais ac Ephod.

11Efe ai hamgylchodd ef â phomgrana­dau â chlychau aur lawer o amgylch, i seinioExod.28.35.pan gerdde efe, i wneuthur sŵn yr hwn a glywid yn y deml, ac i fod yn goffadwriaeth i feibion ei bobl ef.

12Ac â gwisc sanctaidd o aur, â sidan glâs, â phorphor, ac amryw waith, â dwyfronnec barn ag arwyddion gwirionedd,

13Ac â gwaith cywraint o scarlat ac â mei­ni gwerthfawr wedi eu cerfio fel sêl, ai gosod mewn aur trwy waith eurych er coffadwriaeth: ac scrifen wedi ei cherfio yn ôl nifer meibion Israel.

14Ar y meitr goron o aur fel cerfiedic bortreiad sancteiddrwydd yn harddwch anrhydeddus, yn waith godidog, yn hyfryd i’r llygaid, yn hardd ac yn dêg.

15Ni bu y fath oi flaen ef,

16Ac er ioed ni wiscodd neb dieithr hwynt, eithr ei feibiō ef yn vnic, ai ŵyrion ef bob amser.

17Dwy waith yn y dydd yn wastadol y poeth offrymmid eu haberthau hwynt.

18Moses ai cyssegrodd ef, ac ai heneiniodd ag olew sanctaidd.

19Aeth yn gyfammod tragywyddol iddo ef, ac iw hâd cyhŷd ag y parhao y nefoedd, gael gwasanaethu iddo ef, ac offeiriadu hefyd a ben­dithio y bobl yn ei enw ef.

20Efe ai dewisodd ef o flaen pob byw i offrymmu offrwm i’r Arglwydd a phêr arogldarth er coffadwriaeth, i wneuthur cymmod tros y bobl.

21Efe a Lefit.8.12. Deut.17.10. & 21.5.roddes iddo ef ei orchymynnion ac yng-hyfammod y gyfraith awdurdod i ddyscu ei destiolaethau ef i Iacob, ac i egluro ei gyfraith ef i Israel.

22 Num.16.1. Dieithriaid a safasant iw erbyn ef, ac a genfigennasant wrtho ef yn yr anialwch, (sef y gwŷr y rhai a oeddynt gyd â Dathan ac Abiram a chynulleidfa Core) mewn llid a digter.

23Yr Arglwydd a welodd hyn, ac ni bu fodlon: eithr hwy a ddifethwyd yn llidiaw­grwydd ei ddigter ef.

24Efe a wnaeth arnynt hwy wrthiau gan eu difetha â flam dân.

25Ac Num.17.8.efe a roddes chwaneg o ogoniant i Aaron, ac a roddes iddo etifeddiaeth blaen ffrwyth, y cyntaf-anedic a rannodd efe iddo.

26Yn gyntaf efe a arlwyodd iddo ef ddigon o fara: o blegit y maent hwy yn cael bwyta a­berthau yr Arglwydd y rhai a roddes efe iddo ef, ac iw hâd.

27Eithr Deut.12.12.ni roddes efe etifeddiaeth iddo ef o dir y bobl, ac nid oes iddo ef etifeddiaeth ym mysc y bobl: oblegit efe ei hun yw rhan ei etifeddiaeth ef.

28 Num.25.12. 1.Mac.2.54. Phinees mab Eleazar a oedd y try­dydd mewn gogoniant: am iddo ef ddwyn zêl yn ofn yr Arglwydd:

29A sefyll o honaw ef i fynu ag ewyllys da a pharod, a gwneuthur cymmod tros Israel, pan droasse y bobl ymmaith.

30Am hynny y gwnaeth efe ag ef gyfammod heddychlon, y cae efe fod yn swyddog ar y cyssegr, ac ar ei bobl, fel y bydde braint yr offeiriadaeth iddo ef ac iw hâd byth.

31[Efe a wnaeth] gyfammod â Dafydd mab o lwyth Iuda, etifeddiaeth y brenin o fab i fab yn vnic: eithr etifeddiaeth Aaron a oedd iw hâd ef. Rhodded ddoethineb yn eich calō chwi i farnu ei bobl ef yn gyfiawn fel na ddeleer eu daioni hwynt, ac ei ogonant ef trwy eu cēhedlaethau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help