4.Esdras 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENNOD. I.1 Cerydd y bobl am eu hanniolchgarwch. 30 Duw a ddewis bobl eraill os y rhai hyn ni wellhânt.

1AIL llyfr y prophwyd Esdras mab Sarias, mab Azarias, mab Helchias, mab Sadanias, mab Sadoc, mab Achitob,

2Mab Achia, mab Phinees, mab Heli, mab Amerias, mab Aziei, mab Marimoth, mab Arna, mab Ozias, mab Borith, mab Abisei, mab Phinees, mab Eleazar,

3Mab Aaron o lwyth lefi, yr hwn Esdras oedd garcharor yn nhîr y Mediaid, yn amser Artaxerxes brenin Persia.

4A gair ’r Arglwydd a ddaeth attafi gan ddywedyd,

5

21Rhoddais i chwi wlâd frâs, a thêg, a bwriais allan o’ch blaen chwi y Canaaneaid, Esai.5.4.y Phereziaid a’r Philistiaid, beth mwy a wnaf eroch chwi medd ’r Arglwydd:

22Fel hyn y dywed ’r holl-alluoc Arglwydd, pan oeddech yn ’r anialwch Exod.15.25.wrth ddwfr chwerw ’r Amoriaid yn sychedic, ac yn cablu fy enw,

23Ni roddais i chwi dân am eich cabl, ond bwrw prenn a wneuthym i’r dwfr, a’r afon a aeth yn groiw.

24Pa beth a wnaf i ti Iacob: tithe Iuda nid vfuddheit i mi: mi a droaf at y cenhedloedd eraill, ac roddaf iddynt fy henw fel y cadwant fyng-hyfreithiau.

25Gan i chwi fyng-wrthod, minnef a’ch gwrthodaf chwithau, pan dymunoch arnaf fod yn drugarog wrthych ni’s trugarhâf.

26Pan Esai.1.13.alwoch arnaf ni’s gwrandawaf chwi, o achos i chwi halogi eich dwylo â gwaed, a’ch traed sydd gyflym i lladd celain.

27Ni wrthodasoch fi (yn vnic) medd ’r Arglwydd, ond eich hunain a wrthodasoch.

28Fel hyn y dywed ’r holl-alluog Arglwydd, oni ddeisyfiais arnoch fel y deisyf y tâd ar ei feibion, neu fam ar ei merched, ne fammaeth ar ei rhai bychain,

29Fod o honoch yn bobl i mi, a minne a fyddwn Dduw i chwithau, fôd o honoch yn blant i mi, minne a fyddwn dâd i chwithau:

30 Math.23.37. Mi a’ch cesclais yng-hyd megis y cascle ’r iâr ei chywion dann ei hadenydd: ond yn awr beth a wnaf i chwi: mi a’ch bwriaf allan o’m golwg.

31Pan Esai.1.13.offrymmoch i mi, mi a drof fy wyneb oddi wrthych, canys mi a wrthodais eich gŵyl arbennic, eich lleuadau newydd a’ch en­waidiadau.

32Danfonais attoch fyng-wasanaeth-wŷr y prophwydi, y rhai a ddaliasoch, ac a laddasoch a drylliasoch eu cyrph hwynt yn ddarniau, eu gwaed hwy a ddialafi, medd yr Arglwydd.

33Fel hyn y dywed ’r holl-alluoc Arglwydd: eich tŷ a fydd yn anghyfannedd, mi a’ch bwriaf allan fel y gwna y gwynt i’r sofl.

34Ni bydd eich plant yn genhedloc am iddynt ddiystyru fyng-orchymyn, a gwneuthur ’r hyn oedd ddrwg ger fy mron mau fi.

35Eich tai a roddaf i bobl y rhai a ddeuant, y rhai er na’s clywsant sôn am danaf, etto a gredant ynof, i’r rhai îe er na ddangosais arwyddion, er hynny hwyntwy a wnânt ’r hyn a orchymynnwyf.

36Ni welsant brophwydi, er hynny meddyliant am eu pechodau.

37Mynegaf y grâs a ddangosaf i’r bobl a ddaw, plant pa rai a orfoleddant mewn llawenydd, ac er na’s gwelsant fi â llygaid cnawdol, etto yn’r ysbryd hwy a gredant yn ’r hyn a ddywedais i.

38Ac weithian (fy mrawd) ystyr pa anrhydedd, a gwêl y bobl fydd yn dyfod o’r ddwyrain.

39Rhoddaf iddynt iw harwain, Abraham, Isaac, ac Iacob, Ozeas, Amos, a Micheas, Ioel, Abdias, ac Ionas,

40Nahum, a Habacuc, Sophonias, Aggeus, Zachar, a Malachi’r hwn a elwyr hefyd Mal.3.1.Angel ’r Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help