1Canys ewyllysiwn i chwi wybod pa faint ymdrech sydd arnaf er eich mwyn a’r rhai o Laddicia, a phwy bynnag ni welsant sy wyneb yn y cnawd,
2Fel y cyssurid eu calonnau, wedi eu cyssyltu hwy yng-hariad, ac ym mhob golud cwbl gredadwy ddeall, i adnabod dirgelwch Duw y Tâd, a Christ.
3Yn yr hwn y mae yn guddiedig oll drysorau doethineb a gwybodaeth.
4A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd rhag i nêb eich twyllo â geiriau hygoel.
5Canys 1.Cor.5.3.er fy mod yn absennol yn y cnawd, er hynny yr ydwyf gyd â chwi yn yr yspryd yn llawenychu, ac yn gweled eich trefn a chadernid eich ffydd chwi, yr hon yng-Hrist.
6Megis gan hynny y derbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd, felly rhodiwch ynddo,
7Wedi eich gwreiddio a’ch adailadu ynddo ef, ac wedi ymgadarnhau yn y ffydd, 1.Cor.1.9.fel i’ch discwyd, gan ymamlhau ynddi drwy ddiolch.
8Edrychwch rhac bod neb vn eich anrheithio trwy Philosophi a gwâg dwyll wrth draddodiad dynion, yn ôl gwyddorion y byd, ac nid yn ôl Crist.
9 Pen.1.19.|COL 1:19. ion.1.14. Canys ynddo ef y mae cyflawnder y Duwdod yn presswylio yn gorphorol.
10Ac yr ydych chwi wedi eich cyflawni ynddo ef, yr hwn yw pen holl dywysogaeth ac awdurdod.
11Yn yr hwn hefyd, i’ch enwaedwyd ag Ruf.2.29.enwaediad nid o waith llaw, gan ymddiosc pechadurus gorph y cnawd trwy enwaediad Crist.
12Wedi eich Ruf.6.4.cyd-gladdu gyd ag ef trwy fedydd yn yr hwn hefyd i’ch cyd-gyfodwyd trwy Ephes.1.19.ffydd gweithrediad Duw, yr hwn a’i cyfodes ef o feirw.
13 Ephes.2.1. A chwithau y rhai oeddech feirw ym mhechodau, ac yn nienwaediad eich cnawd, a gyd-fywhaodd efe gyd ag ef, gan faddeu i chwi eich holl gamweddau,
14Gan ddileu Ephes.2.15.scrifen-law yr ordeiniadau yr hon ein herbyn, yr hon oedd yng-wrthwyneb i ni, efe ai cymmerodd oddi ar y ffordd, gan ei hoelio wrth ei groes,
15Ac a speiliodd y Tywysogaethau a’r Nerthoedd, ac ai herddangosodd hwy yn gyhoeddus, gan orfoleddu arnynt ynddo ei hun.
16Am hynny na farned nêb arnoch chwi am fwyd a diod, neu o ran dydd gwyl, ne leuad-newydd ne Sabbothau,
17Y rhai nid ydynt onid cyscod pethau ar ddyfod, eithr y corph sydd o Grist.
18 Math.24.4. Na thwylled neb chwi yn ewyllyscar, am y gynglwyst trwy ostyngeiddrwydd, ac addoliad angelion, gan ruthro i bethau nis gwelodd wedi ymchwyddo yn ofer gan ei feddwl cnawdol ei hun,
19Heb gyfattal y pen o’r hwn y mae’r holl gorph wedi ei ymgoleddu ai gyfāsoddi â chymmalau, ac â rhwymau, yn cynnyddu gan gynnydd Duw.
20Am hynny os ydych feirw gyd â Christ oddi wrth wyddorion y byd, pa ham, fel pe baech byw yn y byd eich arwenir wrth draddodiadau?
21Na chyffwrdd na archwaetha, na theimla:
22Yr hyn oll ydynt mewn llygredigaeth wrth eu harfer, yn ôl gorchymynnion, ac athrawiaeth dynion.
23Gan yr hyn bethau y mae cyffelybrwydd doethineb mewn amcan wasanaeth a gostyngeiddrwydd meddwl, a bod heb arbed y corph, ac nid mewn parch i gyflawni y cnawd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.