1Ac wedi Eccles. 49.13.adailadu y mûr, a chyfodi o honof y dorau: a chyfrif y porthorion, a’r cantorion, a’r Lefiaid:
2Yna mi a orchymynnais i Hanani fy mrawd, ac i Hananiah tywysog y palas yn Ierusalem: canys efe fel gŵr gwirion, ac yn ofni Duw yn fwy na llawer.
3A mi a ddywedais wrthynt, nac agorer pyrth Ierusalem nes gwresogi’r haul, a thra fyddant hwy yn sefyll, caeant hwythau y dryssau a chlohigant: a chan osod wiliadwriaethau drigolion Ierusalem, pob vn yn ei wiliadwriaeth, a phob vn ar gyfer ei dy ei hun.
4A’r ddinas ehang o leoedd, a mawr, ac ychydig o bobl ynddi: a’r tai oeddynt wedi eu hadailadu.
5A’m Duw a roddodd yn fyng-halon gynnull o honof y pendefigion, y tywysogion hefyd a’r bobl iw cyfrif yn ôl eu hachau: a mi a gefais Esdras.2.2.lyfr achau y rhai a ddaethent i fynu yn gyntaf, a chefais yn scrifennedic ynddo,
6Dymma feibion y dalaith y rhai a ddaethant i fynu o gaethiwed y gaeth-glud yr hon a gaeth-gludase Nabuchodonosor brenin Babilon: y rhai a ddychwelasant i Ierusalem, ac i Iuda, pob vn iw ddinas ei hun.
7Y rhai a ddaethant gyd a Zorobabel Iesua, Nehemias, Azariah, Raamah, Nahamani, Mardoceus, Bilsan, Mispereth, Biguai, Nehun, Baanah: rifedi dynion pobl Israel.
8Meibion Pharos ddwy fîl, cant, a deuddec a thrugain.
9Meibion Sephatiah, try-chant, a deuddec a thrugain.
10Meibion Arah, chwe chant, a deuddec a deugain.
11Meibion tywysog Moab, o feibion Iesua ac Ioab: dwy fil, ac wyth gant, a thri ar bymthec.
12Meibion Elam, mîl, dau cant, a phedwar ar ddec a deugain.
13Meibion Zattu, wyth gant, a phump a deugain.
14Meibion Zaccai, saith gant, a thri vgain.
15Meibion Benui, chwe chant, ac ŵyth a deugain.
16Meibion Bebai, chwe chant, ac ŵyth ar hugain.
17Meibion Azgad, dwy fil, try-chant, a dau ar hugain.
18Meibion Adonicam, chŵe chant, a saith a thri vgain.
19Meibion Biguai, dwy fil, a saith a thrugain.
20Meibion Adin, chwechant, a phymthec a deugain.
21Meibion Ater o Hizecia, triar bymthec a phedwar vgain.
22Meibion Hasum try-chant, ac ŵyth ar hugain.
23Meibion Bezai, try-chant, a phedwar ar hugain.
24Meibion Hariph, cant, a deuddec.
25Meibion Gibeon, pymthec a phedwar vgain.
26Gwŷr Bethlehem, a Netopha, cant, wyth a phedwar vgain.
27Gwŷr Anathoth, cant, ac wŷth ar hugain.
28Gwŷr Bethazmafeth, dau a deugain.
29Gwŷr Ciriath Iearim, Cephirah, a Beroth: saith gant, a thri a deugain.
30Gwŷr Ramah, a Gaba, chwe chant, ac vn ar hugain.
31Gwŷr Micmas, cant, a dau ar hugain.
32Gwŷr Beth-el, ac Ai, cant, a thri ar hugain.
33Gwŷr Nebo arall, deuddec a deugain.
34Meibion Elam arall, mil, dau cant, a phedwar ar ddêc a deugain.
35Meibion Harun try-chant ac vgain.
36Meibion Iericho, try-chant, a phump a deugain.
37Meibion Lod Hadid, ac Ouo, saith gant, ac vn ar hugain.
38Meibion Senaah, tair mil, naw cant, a dêc ar hugain.
39Yr offeiriaid: meibion Iedaiah o dy Iesua, naw cant, a thri ar ddêc a thri vgain.
40Meibion Immer, mil, a deuddec a deugain.
41Meibion Phashur, mil, dau cant, a saith a deugain.
42Meibion Harim, mil, a dau ar bymthec.
43Y Lefiaid: meibion Ielua, a Chadmiel o feibion Lehodefa, pedwar ar ddêc a thrugain.
44Y cantorion, meibion Asaph, cant, ŵyth a deugain.
45Y porthorion meibion Salum, meibion Ater, meibion Talmon, meibion Accub, meibion Hatita, meibion Sobai: cant, tri ar bymthec ar hugain.
46Y Nethiniaid: meibion Ziha, meibion Hasupha, meibion Tabbaoth.
47Meibion Ceros, meibion Sia, meibion Padon.
48Meibion Lebana, meibion Hagaba, meibion Salmai.
49Meibion Hanan, meibion Gedel, meibion Gahar.
50Meibion Reaiah, meibion Rezin, meibion Necoda.
51Meibion Gazam, meibion Uzza, meibion Paseach.
52Meibion Besai, meibion Meunim, meibion Nephyssim.
53Meibion Bacbuc, meibion Hacupha, meibion Harhur.
54Meibion Bazlith, meibion Mehida, meibion Harsha.
55Meibion Barcos, meibion Sisera, meibion Thamah.
56Meibion Neziah, meibion Hatipha.
57Meibion gweision Salomon: meibion Sotai, meibion Sophereth, meibion Peridah.
58Meibion Iahala, meibion Darcon, meibion Gidel.
59Meibion Sephatiah, meibion Hatil, meibion Pocereth y Zebaimiaid, meibion Amon.
60Yr holl Nethiniaid, a meibion gweision Salomon dry chant, a deuddec a phedwar vgain.
61A’r rhai hynn a ddaethant i fynu o Dalmelach, Talcharsia, Cerub, Adon, ac Immer: ond ni fedrent fynegu tŷ eu tadau, nai hiliogaeth, ai o Israel yr oeddynt.
62Meibion Delaiah, meibion Tobia, meibion Necoda: chwe chant, a dau a deugain.
63Ac o’r offeiriaid meibion Habata, meibion Hacos, meibiō Barzilai, yr hwn a gymmerth o ferched Barzilai y Gileadiad yn wraig, ac a alwyd ar eu henw hwynt.
64Y rhai hyn a geisiasant eu scrifen i ddwyn eu hachau, ond nis cafwyd: am hynny y didolwyd hwynt o’r offeiriadaeth.
65Yna Hathirsatha a ddywedodd wrthynt am na fwytaent o’r cyssegr sancteiddiolaf: nes sefyll o’r offeiriad mewn Exod.28.30.Urim a Thummim.
66Yr holl gynnulleidfa yng-hyd bedair myrddiwn, dwy fil, try-chant, a thri vgain.
67Heb law eu gweision hwynt ai morwyniō, y rhai hynny saith mil, try-chant, a dau ar bymthec ar hugain: a chanddynt hwy dau cant, a phump a deugain o gantorion. ac o gantoresau.
68Eu meirch hwynt saith gant, ac vn ar bymthec ar hugain, ai mûlod yn ddau cant, a phump a deugain.
69Y camêlod bedwar cant, a phymthec ar hugain: yr assynnod chwe mil, saith gant, ac vgain.
70A rhai o’r tadau pennaf a roddasant tu ag at y gwaith: Hathirsatha a roddodd i’r tryssor fil o ddracmonau aur: dêc a deugain o phiolau, pum cant, a dêc ar hugain o beisiau offeiriaid.
71A o’r tadau pennaf a roddasant i dryssor y gwaith vgain mil o ddracmonau aur: a dwy fil, a deu cant o bunnau o arian.
72A’r hyn a roddodd y rhann arall o’r bobl vgain mil o ddracmonau aur, a dwy fil o bunnau yn arian: a saith a thrugain o beisiau offeiriaid.
73A’r offeiriaid, a’r Lefiaid, y porthorion hefyd, a’r cantorion a’r o’r bobl, a’r Nethiniaid, a holl Israel a drigasant yn eu dinasoedd: pan ddigwyddodd y seithfed mîs, yna meibion Israel yn eu dinasoedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.