2.Brenhinoedd 11 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XI.1 Gwaedlyd Deyrnasiad Athaliah. 4 Duwiol Deyrnasiad Ioas. 15 Ac Iehoiadah yn peri lladd Athaliah, yn gwneuthur cyfamod a Duw a dinistr ar dy Baal.

1Pan welodd Athaliah mam Ahaziah farw oi mab hi: 1.Cron.22.10.yna hi a gyfododd, ac a ddifethodd yr holl hâd brenhinawl.

2Ond Iosaba merch y brenin Ioram, chwaer Ahaziah a gymmerth Ioas fab Ahaziah, ac ai lladrattaodd ef o fysc meibion y brenin y rhai a laddwyd efe ai fammaeth mewn stafell y gwelâu: a hwy ai cuddiasant ef rhac Athaliah, fel na laddwyd ef.

3Ac efe a fu gyd a hi yng-hudd nhŷ’r Arglwydd chwe blynedd: ac Athaliah oedd yn teyrnasu ar y wlâd.

4Ac * yn y seithfed flwyddyn yr anfonodd Iehoiadah, ac y cymmerth dywysogion y cantoedd capteniaid, a’r swyddogion, ac ai dûg hwynt i mewn atto i dŷ’r Arglwydd: ac a wnaeth a hwynt gyfammod, gwnaeth iddynt dyngu hefyd yn nhŷ yr Arglwydd, a dangosodd iddynt fab y brenin.

5Ac efe a orchymynnodd iddynt gan ddywedyd, dymma’r peth yr hwn a wnewch chwi, trydedd ran o honoch, a ddeuant i mewn y Sabboth, ac a gadwant wiliadwriaeth tŷ y brenin.

6A thrydedd ran 2.Cron.23.5.ym mhorth Sur, a thrydedd ran yn y porth ar ôl y swyddogion: felly cedwch wiliadwriaeth y tŷ Massa.

7A dau parth o honoch chwi yr hyn oll a’r a êlo allan y Sabboth, a gadwant wiliadwriaeth tŷ’r Arglwydd yng-hylch y brenin.

8A chwi a amgylchynwch y brenin o bob parth pob vn ai arfau yn ei law, a’r hwn a ddelo i’r rhesau lladder ef: a byddwch gyd a’r brenin pan elo efe allan, a phan ddelo efe i mewn.

9A thywysogion y cantoedd a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchymynnase Iehoiadah yr offeiriad, a chymmerasant bawb eu gwŷr y rhai oeddynt yn dyfod i mewn y Sabboth, gyd a’r rhai oeddynt yn myned allan y Sabboth: ac a ddaethant at Iehoiadah yr osteiriad.

10A’r offeiriad a roddodd i dywysogion y cantoedd y gwaiw-ffyn, a’r tariannau, y rhai eiddo y brenin Dafydd: ac yn nhŷ yr Arglwydd.

11A’r swyddogion a safasant bob vn, 2.Cron.23.10.ai arfau yn ei law o’r tu dehau i’r tŷ hyd y tu asswy i’r tŷ yng-hylch yr allor, a’r tŷ, wrth y brenin o amgylch.

12Yna efe a ddug allan fab y brenin, ac a roddodd y goron arno ef, a’r destiolaeth, a hwy ai hurddasant ef yn frenin, ac ai heneiniasant ef: curâsant hefyd eu dwylo, a dywedasant, byw fyddo’r brenin.

13Pan glybu Athaliah drŵst y bobl yn rhedeg, yna hi a ddaeth i mewn at y bobl i dŷ’r Arglwydd.

14Pan edrychodd hi, yna wele y brenin oedd yn sefyll wrth y golofn yn ôl yr arfer, a’r tywysogion, a’r vdcyrn o flaen y brenin, a holl bobl y wlâd yn llawen, ac yn canu mewn vdcyrn: am hynny Athaliah a rwygodd ei gwiscoedd, ac a waeddodd, bradwriaeth, bradwriaeth.

15Ac Iehoiadah yr offeiriad a orchymynnodd i dywysogion y cantoedd y rhai oeddynt wedi eu gosod ar y llu, ac a ddywedodd wrthynt, dygwch hi o’r tu allan i’r rhesau a’r hwn a ddelo ar ei hôl hi lladder ef a’r cleddyf: canys dywedase yr offeiriad, na rodder hi i farwolaeth yn nhŷ yr Arglwydd.

16Yna y gosodasant ddwylo arni hi, a hi a ddaeth tu a’r ffordd feirch i dŷ’r brenin: ac yno y lladdwyd hi.

17Ac Iehoiadah a wnaeth gyfammod rhwng yr Arglwydd, a’r brenin, a’r bobl, i fod yn bobl i’r Arglwydd: a rhwng y brenin a’r bobl.

18Yna holl bobl y wlâd a ddaethant i dŷ Baal, ac ai dinistriasant ef ai allorau, ei ddelwau hefyd a ddrylliasant hwy yn chwilfriw, lladdasant hefyd Mathan offeiriad Baal o flaen yr allor: a’r offeiriad a osododd oruwchwil-wŷr ar dŷ’r Arglwydd.

19Cymmerth efe hefyd dywysogion y cantoedd, a’r capteniaid, a’r swyddogion, a holl bobl y wlâd a ddugasant i wared y brenin o dŷ’r Arglwydd, a hwy a ddaethant tua phorth swyddogion tŷ y brenin: ac efe a eisteddodd ar orsseddfa y brenhinoedd.

20A holl bobl y wlâd a lawenychasant, a’r ddinas a lonyddodd: canys lladdasent Athaliah a’r cleddyf dŷ y brenin.

21Mab saith mlwydd Ioas pan aeth efe yn frenin.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help