Barn-wŷr 14 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIIII.1 Samson yn gwreica ym mysc y Philistiaid. 6 Yn lladd llew. 12 Yn dal cynglwyst ar ddirnad dammeg. 17 Ei wraig yn ei fradychu ef. 19 Yntef yn lladd dec ar hugain o’r Philistiaid i dalu y gynglwyst. 20 Ei wraig yn priodi vn arall.

1A Samson a aeth i wared i Thimnath: ac a ganfu wraig yn Thimnath o ferched y Philistiaid.

2Ac efe a ddaeth i fynu, ac a fynegodd iw dâd, ac iw fam, ac a ddywedodd, gwelais wraig yn Thimnath o ferched y Philistiaid: cymmerwch yn awr honno yn wraig i mi.

3Yna y dywedodd ei dad ai fam wrtho ef, onid ym mysc merched dy frodyr, nac ym mysc fy holl bobl wraig, pan ydwyt ti yn myned i geisio gwraig o’r Philistiaid dienwaededic? a dywedodd Samson wrth ei dâd, cymmer hi i mi canys y hi sydd iawn gennif,

4Ond ni wybu ei dâd ef nai fam mai oddi wrth yr Arglwydd hyn, mai ceisio achos yr oedd efe yn erbyn y Philistiaid: canys y Philistiaid oeddynt y pryd hynny yn arglwyddiaethu ar Israel.

5Yna Samson a aeth i wared, ai dâd, ai fam i Thimnath: ac a ddaethant hyd winllannoedd Thimnath, ac wele genew llew yn rhuo yn ei gyfarfod ef.

6Ac yspryd yr Arglwydd a ddaeth arno ef, ac efe a holltodd fel yr holltid mynn, ac nid dim yn ei law ef: ac ni fynegodd efe iw dad, nac iw fam yr hyn a wnelse.

7Yna efe a aeth i wared, ac a ymddiddanodd a’r wraig, ac yr oedd hi yn hawddgâr yng-olwg Samson.

8Ac yn ôl ychydig ddyddiau efe a ddychwelodd iw chymmeryd hi, ac a drodd i edrych yscyrbwd y llew: ac wele haid o wenyn a mêl yng-horph y llew.

9Ac efe ai cymmerth yn ei law, a thann gerdded y cerddodd, ac y bwyttaodd, ac efe a aeth at ei dâd ai fam, ac a roddodd iddynt, a hwynt a fwyttawsant: ond ni fynegodd iddynt hwy mai o gorph y llew y dugase efe y mêl.

10Felly ei dad ef a aeth i wared at y wraig: a Samson a wnaeth yno wlêdd, canys felly y gwnae y gwŷr ieuaingc.

11A phan welsant hwy ef, yna y cymmerasant ddec ar hugain o gyfeillion i fod gyd ag ef.

12Yna Samson a ddywedodd wrthynt, rhoddaf i chwi ddychymmyg yn awr, os gan fynegu y mynegwch ef i mi o fewn saith niwrnod y wlêdd, ac ai cewch: yna y rhoddaf i chwi ddêc ar hugain o linllionennau, a dec ar hugain pâr o wiscoedd newyddion.

13Ond os chwi ni fedrwch ei fynegu i mi, yna chwi a roddwch i mi ddec ar hugain o linllionennau, a dec pâr ar hugain o wiscoedd: hwythau a ddywedasant, traetha dy ddychymmyg fel y clywom ef.

14Ac efe a ddywedodd wrthynt, o’r hwn oedd yn bwytta y daeth bwyd allan, ac o’r cryf y daeth allan felustra: ond ni fedrent ddirnad y dychymmig tri diwrnod.

15Ac yn y seithfed dydd y dyŵedasant wrth wraig Samson huda dy ŵr fel y mynego efe i ni y dychymmyg, rhac i ni dy losci di, a thŷ dy dâd a thân: ai i’n gorescyn ni i’n gwahoddasoch, ai nade?

16Yna gwraig Samson a ŵylodd wrtho ef, ac a ddywedodd, yn ddiau y mae yn gâs gennit fi, ac ni’m hoffaist: dychymmyg a roddaist i feibion fy mhobl, ac ni’s mynegaist i mi: a dywedodd yntef, wele nis mynegais i’m tad, nac i’m mam, ai mynegwn gan hynny i ti?

17Felly hi a ŵylodd wrtho ef y saith niwrnod hynny tra yr oeddid yn cynnal y wlêdd, ac yn y seithfed dydd y mynegodd efe iddi hi: canys yr oedd hi yn ei flino ef, yna hi a fynegodd y dychymmyg i feibion ei phobl.

18Yna gwŷr y ddinas a ddywedasant wrtho ef y seithfed dydd cynn machludo yr haul, beth felusach na mêl? a pheth gryfach na llew? dywedodd yntef wrthynt, oni buase i chwi aredic a’m anner i, ni chawsech allan fy nychymmyg.

19Ac yspryd yr Arglwydd a ddaeth arno ef, ac efe a aeth i wared i Ascalon, ac a darawodd o honynt ddec ar hugain, ac a gymmerth eu hispail, ac a roddodd y gwiscoedd newyddion i’r rhai a fynegasent y dychymmyg: ai ddigllonedd ef a lidiodd, ac efe a aeth i fynu i dy ei dâd.

20A phriododd gwraig Samson ei gyfell ef ei hun, yr hwn oedd gyfeillgar ag ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help