2.Cronicl 30 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXX.Pa Basc a barodd Hezecia ei gadw.

1Yna Hezecia a anfonodd at holl Israel ac Iuda, ac a scrifennodd lythŷrau at Ephraim, a Manasses i ddyfod i dŷ’r Arglwydd i Ierusalem, i gynnal Pasc i Arglwydd Dduw Israel.

2A’r brenin a ymgynghorodd ai dywysogion a’r holl gynnulleidfa yn Ierusalem am gynnal y Pasc Num.9.10.yn yr ail mîs.

3Canys ni allent ei gynnal ef y pryd hwnnw: o blegit ni chyssegrasyd ddigon o’r offeiriaid, ac nid ymgasclase y bobl i Ierusalem.

4A dâ oedd y peth yng-olwg y brenin: ac yng-olwg yr holl gynnulleidfa.

5A hwynt a orchymynnasant gyhoeddi drwy holl Israel o Beerseba hyd Ddan am ddyfod i gynnal Pasc i Arglwydd Dduw Israel yn Ierusalem: canys ni wnaethent er ystalm, fel y mae yn scrifennedic.

6Felly y rhedeg-wŷr a aethant a’r llythŷrau o law y brenin, ai dywysogion ef drwy holl Israel, ac Iuda, ac wrth orchymyn y brenin gan ddywedyd: ô meibion Israel dychwelwch at Arglwydd Dduw Abraham, Isaac, ac Israel, fel y dychwelo efe at y gweddill y rhai a ddiangodd o honoch chwi o law brenhinoedd Assyria.

7Ac na fyddwch fel eich tadau, nac fel eich brodyr y rhai a drosseddasant yn erbyn Arglwydd Dduw eu tadau: am hynny efe ai rhoddodd hwynt yn anghyfannedd megis y gwelwch

8Yn awr na chaledwch eich gwarr fel eich tadau: rhoddwch law i’r Arglwydd, a deuwch iw gyssegr ef yr hwn a gyssegrodd efe yn dragywydd, a gwasanaethwch yr Arglwydd eich Duw fel y dychwelo llid ei ddigofaint ef oddi wrthych chwi.

9Canys pann ddychweloch chwi at yr Arglwydd, eich brodyr chwi, a’ch meibion drugaredd ger bron y rhai sy yn eu caethgludo hwynt, fel y dychwelont i’r wlâd ymma: o blegit grasol, a thrugarog’r Arglwydd eich Duw, ac ni thrŷ efe ei wyneb oddi wrthych os dychwelwch atto ef.

10Felly y rhedeg-wŷr fuant yn myned o ddinas i ddinas drwy wlâd Ephraim, a Manasses hyd Zabulon: ond hwynt ai dynwaredasant, ac ai gwatwarasant hwy.

11Er hynny gwŷr o Aser, a Manasses, ac o Zabulon a ymostyngasant, ac a ddaethant i Ierusalem.

12Llaw Dduw hefyd fu yn Iuda, gan roddi iddynt vn galon i wneuthur gorchymyn y brenin, a’r tywysogion yn ôl gair yr Arglwydd.

13A phobl lawer a ymgasclasant i Ierusalem i gynnal gŵyl y bara croiw yn yr ail mîs: cynnulleidfa fawr iawn.

14A hwynt a gyfodasant, ac a fwriasant ymmaith yr allorau y rhai[oeddynt]yn Ierusalem: bwriasant ymmaith allorau’r arogl-darth a thaflasant i afon Cedron.

15Yna’r aberthasant y Pasc ar y pedwerydd ar ddêc o’r air mîs: yr offeiriaid hefyd a’r Lefiaid a gywilyddiasant, ac a ymgyssegrasant, ac a ddugasant boeth offrymmau i dŷ’r Arglwydd.

16A hwynt a safasant ar eu lle wrth eu harfer yn ôl cyfraith Moses gwr Duw: a’r offeiriaid oeddynt yn taenellu y gwaed o law y Lefiaid.

17Canys llawer yn y gynnuileidfa y rhai nid ymsancteiddiasent: a’r Lefiaid ar aberth y Pasc dros yr holl rai aflan, sancteiddio i’r Arglwydd.

18O herwydd llawer o’r bobl llawer o Ephraim, a Manasses, Issachar, a Zabulon nid ymlanhausant, eithr hwy a fwytawsant y Pasc yn amgenach nac y mae yn scrifennedic: am hynny Hezecia a weddiodd drostynt hwy gan ddywedyd, yr Arglwydd daionus a faddeu i

19Pwy bynnac a baratôdd ei galon i geisio Duw, Arglwydd Dduw ei dadau: er na yn ôl puredigaeth y cyssegr.

20A’r Arglwydd a wrandawodd ar Hezecia, ac a iachâodd y bobl.

21A meibion Israel y rhai a gafwyd yn Ierusalem a gynhaliasant ŵyl y bara croiw saith niwrnod drwy lawenydd mawr: y Lefiaid hefyd, a’r offeiriaid oeddynt yn moliannu’r Arglwydd o ddydd i ddydd ag offer ar offer soniarus i’r Arglwydd.

22Ac Hezecia a ddywedodd wrth calon yr holl Lefiaid y rhai oeddynt yn medru ddeall da i’r Arglwydd: am hynny hwy a fwytasant yr amser gosodedic hwnnw saith niwrnod, a aberthasant ebyrth hedd, ac a foliannasant Arglwydd Dduw eu tadau.

23A’r holl gynnulleidfa a ymgynghorasant i gynnal saith o ddyddiau eraill: felly y cynhaliasant saith o ddyddiau lawenydd.

24Canys Hezecia brenin Iuda a roddodd i’r gynnulleidfa fil o fustych, a saith mil o ddefaid, a’r tywysogion a roddasant i’r gynnulleidfa fil o fustych, a deng-mil o ddefaid: a llawer o offeiriaid a ymsanctaiddiasant.

25A holl gynnulleidfa Iuda a lawenychasant gyd a’r offeiriaid, a’r Lefiaid, a’r holl gynnulleidfa y rhai oeddynt yn dyfod o Israel: a’r dieithriaid y rhai oeddynt yn dyfod o wlâd Israel, a’r rhai oeddynt yn gwladychu yn Iuda.

26Felly y bu llawenydd mawr yn Ierusalem: canys er dyddiau Salomon mab Dafydd brenin Israel ni cyffelib i hyn yn Ierusalem.

27Yna yr offeiriaid a’r Lefiaid a gyfodasant, ac a fendithiasant y bobl, a gwrandawyd ar eu llef hwynt: ai gweddi hwynt a ddaeth ar ei bresswylfa sanctaidd ef i’r nefoedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help