Psalmau 146 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. cxlvj.Molwch yr Arglwydd.

1Fy enaid mola di’r Arglwydd.

2Molaf yr Arglwydd yn fy myw: canaf i’m Duw tra fyddwyf.

3Na hyderwch ar dywysogion ar fab dyn, yr hwn nid iechydwriaeth ganddo.

4Ei anadl a aiff allan, efe a ddychwel iw ddaiar: y dydd hwnnw y derfydd am ei amcannion ef.

5Gwyn ei fyd yr hwn Duw Iacob yn gymmorth iddo: ai obaith yn yr Arglwydd ei Dduw.

6Yr hwn a wnaeth nefoedd, a daiar, y môr a’r hyn oll ynddynt: yr hwn sydd yn cadw wirionedd yn dragywydd.

7Yr hwn sydd yn gwneuthur barn i’r rhai gorthrymmedic, yn rhoddi bara i’r newynoc: yr Arglwydd sydd yn gollwng carcharorion yn rhydd.

8Yr Arglwydd sydd yn agoryd y deillion, yr Arglwydd sydd yn codi y rhai a ddarostyngwyd: yr Arglwydd sydd yn hoffi y rhai cyfiawn.

9Yr Arglwydd sydd yn cadw y dieithriaid, efe a gynnal yr ymddifad a’r weddw: ac a ddryssa ffordd y rhai annuwiol.

10Yr Arglwydd a deyrnasa byth: dy Dduw di Sion dros genhedlaeth a chenhedlaeth. Molwch yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help