Esay 2 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. II.Prophwydoliaeth am frenhiniaeth Crist. 6 Beiau y bobl, a dialedd Duw am danynt.

1Y Gair yr hwn a welodd Esay mab Amos am Iuda, ac Ierusalem.

2Yna Mic.4.1.y bydd yn y dyddiau diwethaf, fod mynydd tŷ’r Arglwydd wedi ei barattoi ym mhen y mynyddoedd, ac yn dderchafedic goruwch y brynnau: a’r holl genhedloedd a ddylifant atto.

3A phobloedd lawer a ânt, ac a ddywedant, deuwch, ac escynnwn i fynydd yr Arglwydd i dŷ Duw Iacob, ac efe a’n dysc ni yn ei ffyrdd, a ni a rhodiwn yn ei lwybrau ef: canys y gyfraith a aiff allan o Sîon, a gair yr Arglwydd o Ierusalem.

4Ac efe a farna rhwng y cenhedloedd, ac a gerydda bobloedd lawer, fel y drylliant eu cleddyfau yn geibiau, ai gwaew-ffyn yn bladuriau: ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenhedlaeth, ac ni ddyscant ryfela mwyach.

5Tŷ Iacob, deuwch, ac ni a rodiwn yng-oleuni yr Arglwydd.

6Canys gwrthodaist dy bobl tŷ Iacob, oherwydd o’r dwyrain y llawnwyd hwynt a swyn-wŷr megis y Philistiaid: ac mewn plant dieithriaid yr ymddigonant.

7Ai tîr hwynt oedd gyflawn o arian, ac aur, ac nid diwedd ar eu tryssorau, ai tîr hwynt oedd lawn o feirch, ac nid diwedd ar eu cerbydau.

8Eu tîr hwynt hefyd oedd gyflawn o eulynnod, i waith eu dwylo yr ymgrymmasant i’r hyn a wnelse eu bysedd eu hun.

9Ie ymgrymodd dŷn, ac ymostwngodd gŵr am hynny nac arbet tithe hwynt.

10Dôs i’r graig, ac ymgudd yn y llwch rhac ofn yr Arglwydd, a rhac gogoniant ei fawredd ef.

11Uchel-drem dŷn a isêlir, ac vchter dynnion a ostyngir: a’r Arglwydd yn vnic a dderchefir yn y dydd hwnnw.

12Canys dydd Arglwydd y lluoedd ar bôb balch, ac vchel, ac ar bôb derchafedic, fel y gostyngir ef,

13Ac ar holl vchel, a derchafedic cedr-wydd Libanus: ac ar holl dderi Basan,

14Ac ar yr holl fynyddoedd vchel: ac ar yr holl frynnau derchafedic,

15Ac ar bôb tŵr vchel: ac ar bôb magwyr gadarn,

16Ac ar holl longau Tharsis: ac ar yr holl delwau prydferth.

17Yna yr iselir vchelder dŷn, ac y gostyngir vchter dynnion: a’r Arglwydd yn vnic a dderchefir yn y dydd hwnnw.

18A’r eulynnod yn hollol a dyrr efe ymmaith.

19Yna’r ânt i Osea.10.8.|HOS 10:8. luc.23.30.|LUK 23:30. gwel.6.16.|REV 6:16. gwel.9.6.dyllau y creigiau, ac i ogofau llychlyd rhac ofn yr Arglwydd, a rhac gogoniant ei fawredd ef: pan gyfodo efe i ddestruwio y ddaiar.

20Yn y dydd hwnnw y teifl dyn ei eulynnod arian, ai eulynnod aur (y rhai a wnaethant iddynt iw haddoli) i’r wadd, ac i’r stlymmod.

21Gan fyned i agennau y creigiau, ac i goppâu y clogwyni rhac ofn yr Arglwydd, a rhac gogoniant ei fawredd ef: pan gyfodo efe i ddestruwio’r ddaiar.

22Peidiwch chwithau a’r dŷn yr hwn ag anadl yn ei ffroenau: canys am ba beth y perchir ef?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help