Esay 10 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. X.Trawsster swyddogion Israel. 5 Duw yn eu cospi hwynt trwy’r Assyriaid: y rhai hefyd a ddinistriwyd am eu creulondeb. 21 Iechydwriaeth gweddill Israel.

1Gwae y rhai sy yn gwneuthur deddfau anwir, a’r rhai sy yn peri iw scrifennyddion scrifennu blinder,

2I ymchwelyd y tlodion oddi wrth cyfiawnder, ac i dreisio barn anghenogion fy mhobl: fel y byddo y gweddwon yn yspail iddynt, ac yr anrheithiont yr amddifaid.

3A pha beth a wnewch yn nydd yr ymweliad, a’r destruw a ddaw o bell? at bwy y ffoiwch am gynhorthwy? a pha le y gedwch eich gogoniant?

4Hebo fi y cwympant tann yr hwn a rwymwyd, a thann y rhai a laddwyd y syrthiant: er hyn oll ni ddychwelodd ei lîd ef, onid etto ei law ef yn estynnedic.

5Gwae Assur gwialen fy llîd, canys y ffon yn eu llaw hwynt fy nigofaint.

6At genhedlaeth druthiawc yr anfonaf ef, ac oddi ar bobl fy nigter y gorchymynnaf iddo yspeilio yspail, ac ysclyfaethu ysclyfaeth, ai gosod hwynt yn sathrfa megis tom yr heolydd.

7Ond nid felly y tybia efe, ac nid felly y meddwl ei galon, eithr yn ei fryd ddifetha, a thorri ymmaith genhedlaethau nid ychydig.

8Canys efe a ddywed: onid fy nhywysogion eu gyd yn frenhinoedd?

9Onid fel Carcamis Calno? onid fel Arphad Hamath? onid fel Damascus Samaria?

10Megis y cyrhaeddodd fy llaw deyrnasoedd yr eulynnod: felly eu delwau hwynt o Ierusalem, ac o Samaria.

11Onid megis y gwneuthum i Samaria, ac iw heulynnod? felly y gwnaf i Ierusalem ac iw delwau hithe?

12A bydd pan gyflawno’r Arglwydd ei holl waith ym mynydd Sion, ac yn Ierusalem: yr ymwelaf â ffrwyth mawredd calon brenin Assur, ac â gogoniant vchelder ei lygaid ef.

13Canys dywedodd efe, drwy nerth fy llaw fy hun y gwneuthum ac yn fy noethineb fy hun, o herwydd deallgar ydwyf: ac hynny y symmudais derfynau pobloedd, ai tryssorau a yspeiliais, ac a fwriais i’r llawr yn rymmus y trigolion.

14A’m llaw a gafodd gyfoeth y bobloedd fel nŷth, ac megis y cesclir ŵyau wedi eu gado y cesclais yr holl ddaiar, ac nid oedd a symmude aden, nac a agore safn, nac a yngene.

15A ymffrostia’r fwyall yn erbyn yr hwn a gymmyno â hi? a ymfawryga y llif yn erbyn yr hwn ai cyfodo? megis pe ymdderchafe gwialen yn erbyn y rhai ai codent hi i fynny, megis pe ymdderchafe ffon yn bren.

16Am hynny’r hebrwng Arglwydd Dduw y lluoedd ym mhlith ei freision ef gulni: a thān ei ogoniāt ef y llysc llosciad megis llosciad tân.

17A bydd goleuni Israel yn dân, ai Sanct ef yn fflam: yna y llysc efe ef, ac yr yssa ei ddrain, ai fieri mewn vn dydd.

18Gogoniant ei goed hefyd, ai ddol-dir a yssa efe yn gwbl: a bydd megis llesmeirio yr baner-wr.

19A phrennau gweddill ei goed ef a fyddant rifedi: fel y rhifo plentyn hwynt.

20A bydd yn y dydd hwnnw, na chwanega mwyach weddill Israel, a’r rhai a ddihangodd o dŷ Iacob ymgynnal ar yr hwn ai tarawodd: onid pwysant ar yr Arglwydd Sanct Israel mewn gwirionedd.

21Y gweddill a ddychwel gweddill Iacob at y Duw cadarn.

22Canys pe bydde dy bobl di ô Israel fel tywod y môr, y gweddill a ddychwel atto ef: darfodiad terfynedic a lifa drosodd gyfiawnder.

23Canys darfodigaeth a yn derfynedic a wna Arglwydd Dduw y lluoedd yng-hanol yr holl dir.

24Am hynny fel hynn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd: fy mhobl y rhai a bresswylia yn Sion nac ofna rhag yr Assyriaid: â gwialen i’th deru di, ac efe a gyfyd ei ffon i’th erbyn fel y gwnaeth yr Aiphtiaid

25Canys etto ychydig bach, ac fe a dderfydd y llid, a’m digofaint yn ddarfodigaeth iddynt hwy.

26Ac Arglwydd y lluoedd a gyfyd ffrywill yn ei erbyn ef, megis * plâ Madian yng-hraig Horeb: fel ei wialen Esa.9.4. Exod.14.28.ar y môr, felly y cyfyd efe hi yn ffordd yr Aipht.

27A bydd yn y dydd hwnnw symmudo ei faich ef oddi ar dy yscwydd di, ai iau ef oddi ar dy warr di: a dryllir y iau gan yr olew.

28Daeth at Aiath, trammwyodd i Migron, ym Michmas y rhydd ei arfau i gadw.

29Aethant trwy y rhŷd, yn Geba y lletteuasant llettŷ: dychrynodd Rama, Gibea Saul a ffoes.

30Bloeddia lêf, merch Galim: gwrando Laisa, Anathoth druan.

31Ymbellhâodd Madmena, trigolion Gebim a ymgasclasant.

32Etto y dydd i sefyll yn Nob, yna efe a gyfyd ei law mynydd merch Sion, brynn Ierusalem.

33Wele Arglwydd Dduw y lluoedd yn yscythru y gangen mewn dychryn: a’r rhai vchel o gyrph a dorrir ymmaith, a’r rhai goruchel a ostyngir.

34Ac efe a dyr ymmaith frysclwyni y coed â haiarn: a Libanus drwy gryf a gwymp.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help