1Yna Moses a escynnodd o rossydd Moab, i fynydd Nebo ben y brynn yr hwn ar gyfer Iericho: a’r Arglwydd a ddangosodd iddo holl wlâd Gilead, hyd Dan.
2A holl Nephthali, a thîr Ephraim, a Manasses, a holl dîr Iuda, hyd y môr olaf.
3Y dehau hefyd, a gwastadedd dyffryn Iericho, dinas y palm-wydd hyd Zoar.
4A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, dymma y tîr yr hwn a dyngais i Abraham, i Isaac, ac i Iacob, gan ddywedyd: i’th hâd ti y rhoddaf ef, perais it ei weled a’th lygaid, ond nid ei di trosodd yno.
5A Moses gwâs yr Arglwydd a fu farw yno yn nhîr Moab, yn ôl gair yr Arglwydd.
6Ac efe ai claddodd ef mewn glyn yn nhîr Moab gyferbyn a Beth-Peor: ac nid adnabu neb ei fedd ef hyd y dydd hwn.
7A Moses fab vgain mlwydd a chant, pan fu efe farw, ni chrychase ei lygad, ac ni chiliase ei ireidd-dra ef.
8A meibion Israel a ŵylasant am Moses yn rhossydd Moab ddeng-nhiwrnod ar hugain: a chyflawnwyd dyddiau wylofain galar Moses.
9Ac Iosuah mab Nun gyflawn o yspryd doethineb, o herwydd Moses a roddase ei ddwylo arno: a meibion Israel a wrandawsant arno, ac a wnaethant fel y gorchymynnase’r Arglwydd wrth Moses.
10Ac ni chododd prophwyd etto yn Israel megis Moses (yr hwn a adnabu’r Arglwydd wyneb yn wyneb. )
11Ym mhob arwyddion, a rhyfeddodau y rhai yr anfonodd yr Arglwydd ef iw gwneuthur yn nhîr yr Aipht, ar Pharao, ac ar ei holl weision, ac ar ei holl dîr ef.
12Ac ym mhob llaw gadarn, ac ym mhob ofn mawr y rhai a wnaeth Moses yng-olwg holl Israel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
