1Er mwyn Sion ni thawaf, ac er mwyn Ierusalem ni ostegaf, hyd onid elo ei chyfiawnder hi allan fel discleirdeb, ac enynnu oi hiechydwriaeth hi fel ffagl,
2Yna y cenhedloedd a welant dy gyfiawnder, a’r holl frenhinoedd dy ogoniant, yna y gelwir arnat enw newydd yr hwn a yspyssa genau’r Arglwydd.
3Byddi hefyd yn goron ogoniant yn llaw’r Arglwydd, ac yn gylch brenhinawl yn llaw dy Dduw.
4Ni ddywedir am danat mwy, gwrthodedic am dy dîr hefyd ni ddywedir mwy, anghyfannedd eithr am danat ti y llesir, y mae] fy ewyllys arni: ac am dy dir, perchennogwyd ef: canys bodlon yw’r Arglwydd i ti, a’th dir, a berchennogir.
5Canys y prioda gŵr ieuangc forwyn, y prioda dy feibion dithe, ac â llawenydd priod-fab am briod-ferch, y llawenycha dy Dduw o’th blegit ti.
6Ar dy furiau di Ierusalem y gosodais geidwaid, ni thawant ddydd na nôs yn wastad, y rhai ydych yn cofio yr Arglwydd, na gennych ddistawrwydd,
7Ac na roddwch ddistawrwydd iddo, hyd oni siccrhao, ac hyd oni osodo Ierusalem yn foliant ar y ddaiar.
8Tyngodd yr Arglwydd iw ddeheu-law, ac iw fraich nerthol ef,os rhoddaf dy wenith mwyach yn ymborth i’th elynnion, ac os meibion dieithr a yfant dy wîn yr hwn y llafuriaist am dano.
9Eithr y rhai a gasclant hwnnw ai bwytânt, ac a foliannant yr Arglwydd, a’r rhai a gasclant hwn ai hŷfant o fewn cynteddoedd fyng-hyssegr.
10Cynniwerwch, cynniwerwch trwy’r pyrth, gwastattewch ffordd y bobl, palmentwch briffordd, digarregwch cyfodwch faner ar y bobloedd.
11Wele’r Arglwydd a gyhoeddodd hyd eithaf y ddaiar, dywedwch wrth ferch Sion, wele dy iechydwriaeth yn dyfod, wele ei gyflog gyd ag ef, ai weithred oi flaen.
12Galwant hwynt hefyd yn bobl sanctaidd yn waredigion yr Arglwydd: tithe a elwir, yr hon a geisiwyd, dinas ni’s gwrthodwyd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
