Numeri 32 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXII.Tylwyth Ruben a Gad a ofynnasant y tîr a ydoedd y tu hwnt i’r lorddonen, ac ai cawsant tan ammod iddynt hwy, ac i hanner llwyth Manasses.

1Ac yr ydoedd anifeiliaid lawer i feibion Ruben, a llawer iawn i feibion Gad: a gwelsant dîr Iazer, a Gene.31.47.thîr Gilead, ac wele y lle yn lle i anifeiliaid.

2Yna meibion Gad, a meibion Ruben a ddaethant, ac a ddywedasant wrth Moses, ac wrth Eleazar yr offeiriad, ac wrth holl bennaduriaid y gynnulleidfa, gan ddywedyd:

3Ataroth, a Dibon, ac Iazer, a Nemrah, a Hesbon, ac Elealeh, a Sabam, a Nebo, a Beon.

4[Sef] y tîr yr hwn a darawodd yr Arglwydd o flaen cynnulleidfa Israel, tîr i anifeiliaid yw efe, ac i’th weision anifeiliaid.

5A dywedasant os cawsom ffafor yn dy olwg, rhodder y tîr hwn i’th weision yn etifeddiaeth: na phâr i ni fyned trwy’r Iorddonen.

6A dywedodd Moses wrth feibion Gad, ac wrth feibion Ruben, ai eich brodyr a ânt i’r rhyfel, a chwithau a arhoswch ymma?

7A pha ham y digalonnwch feibion Israel rhac myned trossodd i’r tîr yr hwn a rodd yr Arglwydd iddynt?

8Felly y gwnaeth eich tadau, pan anfonais hwynt o Cades Barnea i edrych y tîr.

9Canys aethant i fynu hyd Num.13.24.ddyfryn Escol, a gwelsant y tîr a digalonnasant feibion Israel rhac myned i’r tîr yr hwn a roddase yr Arglwydd iddynt.

10Ac enynnodd digllonedd yr Arglwydd y dydd hwnnw, ac efe a dyngodd gan ddywedyd.

11Nid byw fi os Num.14.28.y dynion a ddaethant i fynu o’r Aipht, o fab vgain mlwydd ac vchod, a welant y tîr yr hwn a addewais trwy lŵ i Abraham, Isaac, ac i Iacob, am na chyflawnasant ar fy ôl i.

12Ond Caleb mab Iephun y Ceneziad, a Iosuah mab Nun, canys cyflawnasant ar ôl yr Arglwydd.

13Ac enynnodd digllonedd yr Arglwydd yn erbyn Israel, a gwnaeth iddynt gyrwydro yn yr anialwch ddeugain mlhynedd, nes darfod yr holl oes yr hon a wnaethe y drygioni yng-olwg yr Arglwydd.

14Ac wele chwi a godasoch yn lle eich tadau yn gynnyrch dynion pechadurus, i chwanegu ar ddigllonedd sorriant yr Arglwydd wrth Israel.

15Os dychwelwch oddi ar ei ôl ef yna efe a âd y bobl etto yn yr anialwch, a chwi a ddinistriwch yr holl bobl hyn.

16Yna y daethant atto, ac y dywedasant, corlannau defaid a adailadwn ni ymma i’n hanifeiliaid, a dinasoedd i’n plant.

17A nyni a ymarfogwn yn fuan o flaen meibion Israel, hyd oni ddygom hwynt iw lle eu 70 hun: a’n plant a arhosant yn y dinasoedd caeroc rhac trigolion y tîr.

18Ni ddychwelwn ni i’n tai, nes i feibion Israel feddianu bôb vn ei etifeddiaeth.

19Hefyd nid etifeddwn gyd a hwynt o’r tu hwnt i’r Iorddonen, ac oddi yno allan: am ddyfod ein etifeddiaeth i ni o’r tu ymma i’r Iorddonen tua’r dwyrain.

20A* dywedodd Moses wrthynt, os gwnewch y peth hyn, os ymarfogwch i’r rhyfel o flaen yr Arglwydd:

21Os aiff pôb vn o honoch dros yr Iorddonen yn arfog o flaen yr Arglwydd, nes iddo orescynn ei elynion oi flaen:

22A darostwng y wlad o flaen yr Arglwydd, yna wedi hynny y cewch ddychwelyd, ac y byddwch ryddion oddi wrth yr Arglwydd, ac o ddiwrth Israel: yna y bydd y tîr hwn yn etifeddiaeth i chwi o flaen yr Arglwydd.

23Ond os chwi ni wna fel hyn, wele pechu yr ydych yn erbyn yr Arglwydd, a gwybyddwch y goddiwedda eich pechod chwi.

24A dailedwch i chwi ddinasoedd i’ch plant, a chorlannau i’ch defaid, a gwnewch yr hyn a ddaeth allan o’ch genau.

25A llefarodd meibion Gad, a meibion Ruben wrth Moses gan ddywedyd: dy weision a wnant megis y mae fy arglwydd yn gorchymyn.

26Ein plant, ein gwragedd, ein hanifeiliaid, a’n holl scrubliaid fyddant ymma yn ninasoedd Gilead.

27A’th Iosua.4.12.weision a ânt trossodd o flaen yr Arglwydd i’r rhyfel, pôb vn yn arfog i’r filwriaeth, megis y mae fy arglwydd yn llefaru.

28A gorchymynnodd Moses i Eleazar yr offeiriad, ac i Iosuah fab Nun, ac i bennau cenedl llwythau meibion Israel oi plegit hwynt.

29A dywedodd Moses wrthynt, os meibion Gad, a meibion Ruben a ânt dros yr Iorddonen gyda chwi, pôb vn yn arfog i’r rhyfel o flaen yr Arglwydd, yna pan ddarostynger y wlâd o’ch blaen rhoddwch iddynt wlâd Gilead yn etifeddiaeth.

30Ac onid ânt drossodd gyda chwi yn arfogion, yna cymmerant eu etifeddiaeth yn eich mysc chwi yng-wlâd Canaan.

31Yna meibion Gad, a meibion Ruben a attebasant, gan ddywedyd: fel y llefarodd yr Arglwydd wrth dy weision felly y gwnawn ni.

32Nyni a awn trossodd i dîr Canaan yn arfogion o flaen yr Arglwydd, fel meddiant ein etifeddiaeth o’r tu ymma i’r Iorddonen genym ni.

33A Deut.3.12. iosua13.3.|JOS 13:3. iosua.22.4.rhodd Moses iddynt i feibion Gad, ac i feibion Ruben, ac i hanner llwyth Maanasses mab Ioseph frenhiniaeth Sehon brenin yr Amoriaid, a brenhiniaeth Og brenin Basan, y wlâd ai dinasoedd ar hyd y terfynau, dinasoedd y wlad oddi amgylch.

34A meibion Gad a adailadasant Dibon, ac Ataroth, ac Aroer.

35Ac Atroth, Sophon, a Iaazer, a Iogbea.

36Bethnimra hefyd, a Betharan, dinasoedd caeroc, a chorlannau defaid.

37A meibion Ruben a adailadasant Hesbon, Eleale a Chiriathaim:

38Nebo hefyd a Balmeon wedi troi henwau, a Sibamah: ac a henwasant henwau y dinasoedd y rhai a adailadasant.

39Yna Gene.50.23.meibion Marhir mab Manasses a aethant i Gilead, ac ai hennillasant hi, ac a orescynnasant yr. Amoriaid y rhai ynddi.

40A rhodd Moses Gilead i Machir fab Manasses, ac efe a drigodd ynddi.

41Ac Deut.3.14.aeth Iair mab Manasses, ac a ennillodd eu trefydd hwynt, ac ai galwodd hwynt trefydd Iair.

42Ac aeth Nobah, ac a ennillodd Cenath, ai phentrefydd: ac ai galwodd ar ei enw ei hun Nobah.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help