Gweddi Manasses 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

1Oh Arglwydd, holl-alluog Dduw ein tadau Abraham Isaac, ac Iacob, ai cyfiawn hiliogaeth hwynt.

2Yr hwn a wnaethost nefoedd a daiar, ai gwychter.

3Yr hwn a rwymaist y môr a gair dy orchymyn, yr hwn a greast y dyfnder, ac ai seliaist a’th enw ofnadwy a chanmoladwy.

4Yr hwn y mae pob peth yn ei ofni, ac yn crynu rhag wyneb dy nerth:

5Oblegit ni ellir ddwyn mawredd dy ogoniant, na dioddef digter dy fygwth yn erbyn pechaduriaid.

6A thrugaredd dy addewid sydd anfeidrol, ac anchwiliadwy: o blegit ty di ydwyt Arglwydd goruchaf, daionus, ymarhous, mawr ei drugaredd hefyd, ac edifeiriol am ddrwg dŵn.

7Tydi, ô Arglwydd yn ôl amldra dy ddaioni a addewaist edifeirwch a maddeuant i’r rhai a bechasāt i’th erbyn, ac yn amldra dy dosturiaeth a ordeiniaist edifeirwch i bechaduriaid er iechewdwriaeth.

8Am hynny ô Arglwydd Dduw y rhai cyfiawn, ni osodaist ti edifeirwch i’r rhai cyfiawn i Abraham Isaac ac Iacob, y rhai ni phechasant i’th erbyn, ond ti a osodaist edifeirwch er fy mwyn i bechadur.

9Mi a bechais yn fwy nâ rhifedi tywod y môr, fy anwireddau a amlhausant, ô Arglwydd, fy anwireddau a amlhausant, ac nid wyfi deilwng i edrych, ac i weled uchder y nefoedd gan amldra fy anwireddau.

10Mi a grymmais i lawer mewn rhwym haiarn, fel na ailwyf godi fy mhen, ni allaf chwaith gymmeryd fy anadl, am gyffroi o honof dy lid ti, a gwneuthur yr hyn sydd ddrwg yn dy olwg: dy ewyllys ni’s gwneuthym a’th orchmynnion ni’s cedwais: ordeiniais ffieidd-dra, ac amlheais gamweddau.

11Ac yr awron yr ydwyfi yn plygu glin fyng-halon gan ddymuno daioni gennit: pechais, ô Arglwydd pechais, ac yr ydwyf yn cydnabod fy anwireddau.

12Am hynny yr ydwyfi yn deisyf gan attolwg i ti, maddeu i mi ô Arglwydd, maddeu i mi, ac na ddifetha fi yng-hyd a’m hanwireddau, ac na chadw (gan ddigio byth) ddrwg i mi: ac na ddamnia fi i geudod y ddaiar: canys tydi ydwyt Dduw, Duw meddaf yr edifeiriol:

13Ac yn dangos arnafi dy holl ddaioni: o blegit ti a’m hachubi fi (yr hwn ydwyf annheilwng) yn ôl dy fawr drugaredd.

14Am hynny a’th foliannaf dî bôb amser, holl ddyddiau fy enioes: o blegit y mae holl nerth y nefoedd yn dy foliannu di, ac i ti y mae gogoniant yn oes oesoedd, Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help