Ecclesiasticus 44 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XLIIII.Clôd Enoch, Noe ac Abraham.

1Canmolwn y gwŷr enwoc y rhai a oeddynt dadau i ni wrth hiliogaeth.

2Llawer o ogoniant a gafodd yr Arglwydd iw fawredd erioed trwyddynt hwy.

3Y rhai a lywodraethasant ar eu teyrnasoedd, ac a oeddynt wŷr enwoc o allu yn ymgynghori yn synhwyrol, ac yn treuthu prophwydoliaethau.

4Hwy Exod.18.25.a flaenorasant y bobl trwy gyngor a thrwy ddeall cyfraith y bobl: geiriau doethion oeddynt yn eu hathrawiaeth hwynt.

5Hwy a geisiasant allan felusdra cerdd, ac a draethasant ganiadau scrifennedic.

6Gwŷr cyfoethogion cedyrn o nerth a heddychlon yn eu cartref oeddynt hwy.

7Y rhai hyn oll yn eu cenhedlaethau a gawsant ogoniant, a gorfoledd yn eu dyddiau.

8Bu o honynt hwy y rhai a adawsant enw fel yn mynegu clôd

9Bu hefyd rai heb fod coffa am danynt hwy, ac Gen.7.22.a ddifethwyd fel pe na’s buassent, ac a aethant fel pe na’s ganesid hwynt, ai plant gyd â hwynt.

10Eithr gwŷr trugarog oedd y rhai hyn, cyfiawnder pa rai ni’s anghofiir.

11Gyd ai hiliogaeth hwynt yr erys etifeddi­aeth dda: y mae eu hiliogaeth hwynt yn y cyfammod.

12Y mae eu hiliogaeth hwynt yn y cyfammod, ai plant hwynt gyd â hwythau.

13Byth y peru eu hiliogaeth ai gogoniant ni ddeleuir.

14Eu cyrph a gladdwyd mewn heddwch: ac y mae eu henw yn byw byth.

15Y bobl Pen.39.10.a fynegant eu doethineb hwy, a’r gynnulleidfa a draetha eu clôd hwynt.

16 Gen.5.24.|GEN 5:24. Heb.11.5. Enoch a ryglyddodd fodd i Dduw, ac a fudwyd ymmaith yn siampl o edifeirwch i’r cenhedlaethau.

17 Gen.6.9.|GEN 6:9 & 7.1.|GEN 7:1. Hebr.11.7. Noe a gafwyd yn berffaith yn gyfiawn: ac yn amser digter efe a wnaed yn gymmod.

18An hynny fu y diluw,

19Cyfammod tragywyddol a wnaed ag ef, Gen.9.11.na ddifethid pob cnawd trwy ddiluw

20 Gen.12.3.|GEN 12:3 & 15.5.|GEN 15:5 & 17.4. Abraham sydd dâd mawr i lawer o genhedloedd, ac ni chafwyd ei fath ef mewn gogoniant: efe a gadwodd gyfraith y Goruchaf, ac a ddaeth mewn cyfammod ag ef.

21Hefyd efe a osododd y cyfammod Gen.21.4.yn ei gnawd, ac wrth ei brofi, efe a gafwyd yn ffyddlon.

22Am hynny y siccrhaodd efe iddo ef Gen.22.16.|GEN 22:16. Gal.3.8.trwy lw: y bendithid y cenhedloedd yn ei hâd ef,

23Yr amlheid ef fel llwch y ddaiar, ac y caent hwy etifeddu o fôr i fôr, ac o’r afon i eithaf y ddaiar.

24Felly Gen.26.2.3.y siccrhaodd efe i Isaac (er mwyn Abraham ei dad) fendith pob dŷn a’r cyfammod, ac a wnaeth iddynt orphywyso ar ben Iacob.

25Efe ai hadnabu ef Gen.27.28.gan ei fendithio, ac a roddodd iddo ef etifeddiaeth, ac a nailltuodd ei rān ef, ac ai rhānodd ym mysc y deuddec llwyth.

26Ac efe a ddug allan o honaw ef wŷr trugarog, y rhai a gawsant ffafor yng-olwg pob dŷn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help