Barn-wŷr 13 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIII.1 Y Philistiaid yn gorthrymmu Israel am eu hanwiredd. 3 Angel Duw yn ymddiddan a gwraig Manoah ag yn addo iddi fâb yr hwn a warede Israel. 24 Ganedigaeth Samson.

1A meibion Israel a Pen.2.11.|JDG 2:11 & 3.7.|JDG 3:7 & 4.1.|JDG 4:1 & 6.1.|JDG 6:1 & 10.6.chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng-olwg yr Arglwydd: am hynny y rhoddodd yr Arglwydd hwynt yn llaw y Philistiaid ddeugain mlhynedd.

2Yna’r oedd rhyw ŵr yn Zorah o dylwyth y Daniaid, ai enw ef Manoah, ai wraig ef amhlantadwy, sef heb planta.

3Ac angel yr Arglwydd a ymddangosodd i’r wraig: ac a ddywedodd wrthi, wele yn awr amhlantadwy ydwyt ti, ac heb planta, ond ti a feichiogi, ac a escori ar fab.

4Ac yn awr Num.6.2.ymochel, ac nac ŷf wîn, na diod gadarn: ac na fwytta ddim aflan.

5Canys wele ti a feichiogi, ac a escori ar fab, ac ni chyffwrdd ellyn ai benn ef, canys Nazaread Duw fydd y bachgen o’r grôth: ac efe a ddechreu waredu Israel o law y Philistiaid.

6Yna y daeth y wraig, ac a fynegodd iw gŵr gan ddywedyd, gŵr Duw a ddaeth attafi, ai brŷd ef fel prŷd angel Duw yn ofnadwy iawn: ond ni ofynnais iddo o ba le yr oedd efe, ac ni fynegodd yntef i mi ei henw.

7Ond efe a ddywedodd wrthif, wele, ti a feichiogi, ac a escori ar fab: ac yn awr nac ŷf wîn, na diod gadarn, ac na fwytta ddim aflan, canys Nazaread Duw fydd y bachgen o’r grôth hyd yn nydd ei farwolaeth.

8Yna Manoah a weddiodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd: attolwg fy Arglwydd gad ti i ŵr Duw’r hwn a anfonaist ti ddyfod eil-waith attom ni, fel y dysco efe i ni beth a wnelom ni i’r bachgen yr hwn a enir.

9A Duw a wrandawodd ar lef Manoah: ac angel Duw a ddaeth eilwaith at y wraig pan oedd hi yn eistedd yn y maes, a Manoah ei gŵr heb gyd a hi.

10A’r wraig a fryssiodd, ac a redodd, ac a fynegodd iw gŵr, ac a dywedodd hefyd wrtho ef: wele ymddangosodd y gŵr i mi yr hwn a ddaetth attafi y dydd

11Yna Manoah a gyfododd, ac a aeth ar ôl ei wraig: ac a ddaeth at y gŵr, ac a ddywedodd wrtho ef, ai ti’r gŵr yr hwn a leferaist wrth y wraig? dy wedodd yntef myfi.

12A dywedodd Manoah, deled yn awr dy eiriau: pa ddull fydd y bachgen ai weithredoedd?

13Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrth Manoah: rhac yr hyn oll a ddywedais wrth y wraig, ymocheled hi.

14Na fwyttaed hi o ddim a’r a ddel allan o’r win-wydden, nac yfed hi wîn, na diod gadarn, ac na fwyttaed dim aflan: cadwed yr hyn oll a orchymynnais iddi hi.

15Yna y dywedodd Manoah wrth angel yr Arglwydd: gad attolwg i ni dy attal, fel y paratôm fynn gafr ger dy fron di.

16Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrth Manoah, pe attelit fi ni fwytawn o’th fara di, ond os gwnei boeth offrwm, gwna ef i’r Arglwydd: canys ni wydded Manoah mai angel yr Arglwydd efe.

17A Manoah a ddywedodd wrth angel yr Arglwydd, beth dy enw? fel i’th anrhydeddom di pan ddelo dy eiriau di

18Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrtho ef i ba beth yr ymofynni a’m fy enw? canys rhyfeddol yw.

19Yna Manoah a gymmerth fynn gafr, a bwyd offrwm, ac a boeth offrymmodd ar y graig i’r Arglwydd: ac efe a wnaeth yn rhyfedd, a Manoah ai wraig oeddynt yn edrych.

20Canys pan dderchafodd y fflam oddi ar yr allor tua’r nefoedd, yna angel yr Arglwydd a dderchafodd yn fflam yr allor: Manaoh ai wraig oeddynt yn edrych, a hwynt a syrthiasant i l awr ar eu hwynebau.

21Ac ni chwanegodd angel yr Arglwydd ymddangos mwyach i Manoah, nac iw wraig ef: yna y gwybu Manoah mai angel yr Arglwydd efe.

22A Manaoh a ddywedodd wrth ei wraig, Exod.33.20. pen.6.22.gan farw y byddwn farw: canys Duw o welsom.

23Yno ei wraig a ddywedodd wrtho ef, pe mynnase’r Arglwydd ein lladd ni, ni chymmerase efe y poeth offrwm, a’r bwyd offrwm o’n llaw ni, ac ni ddangosase efe i ni’r holl bethau hyn: ac ni pharase efe i ni y pryd hyn glywed y fath bethau.

24A’r wraig a ymddug fab, ac hi a alwodd ei enw ef Samson: a’r bachgen a gynnyddodd, a’r Arglwydd ai benthiodd ef.

25Ac yspryd yr Arglwydd a ddechreuodd ar amseroedd Rhuf.8.14.ddyfod arno ef yng-werssyll Dan: rhwng Sorah, ac Esthoal.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help