Rhufeiniaid 10 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. X.Achos cwymp yr Iddewon. 5 Y rhagor rhwng y cyfiawnder sydd o’r ddeddf neu yr gyfraith a’r hon sydd o ffydd. 17 Bod ein ffydd ni yn dyfod o wrando gair Duw. 19 Dewisiad y cenhedloedd a gwrthodiad yr Iddewon.

1Oh frodyr y mae gwir ewyllys fyng-halon a’m gweddi ar Dduw dros yr Israeliaid, am iechydwriaeth.

2Canys yr wyf yn dyst iddynt fod ganddynt zêl Dduw, eithr nid ar ôl gŵybodaeth.

3Canys hwynt hwy heb wybod cyfiawnder Duw, ac yn ceisio gosod eu cyfiawnder eu hunain, nid ymostyngosant i gyfiawnder Duw.

4 os cyffessi â’th enau yr Arglwydd Iesu a chredu yn dy galon i Dduw ei gyfodi ef o feirw, iach fyddi.

10Canys â’r galon y credir i gyfiawnder, ac â’r genau y cyffessir i iechydwriaeth.

11O blegit y mae’r scrythur yn dywedyd, Esai.28.16.pwy bynnac a grêdo ynddo ef ni chywilyddir ef.

12Can nad oes gwahaniaeth rhwng Iddew, a groeg-wr, o blegit yr hwn sydd Arglwydd ar bawb, sydd oludog i bawb a’r a alwant arno ef.

13 Ioel. 2.32.|JOL 2:32. act.2.21. Canys pwy bynnac a eilw ar enw yr Arglwydd cadwedig fydd.

14Eithr pa fodd y galwant ar yr hwn ni chredasant ynddo? a pha fodd y credant yn yr hwn ni chlywsant am dano? a pha fodd y clywant heb bregeth-wr?

15A pha fodd y pregethant, oddieithr eu dāfon? megis y mae yn scrifennedic: Esai.52.7.|ISA 52:7. naum.1.15.mor brydferth yw traed y rhai sy yn efangelu tangneddyf, ac yn efangelu pethau daionus:

16Eithr, nid vfyddhausant hwy oll i’r Efengyl, Esai.53.1.|ISA 53:1. ioan.11.38.canys y mae Esaias yn dywedyd: o Arglwydd pwy a gredodd i’r hyn a glywyd genym ni?

17Am hynny ffydd sydd o glywed, a chlywed gan air Duw.

18Eithr meddaf: oni chlywsant hwy? eu swn Psal.19.4.yn ddiau a aeth tros yr oll ddaiar, a’u geiriau hyd derfynau y byd.

19Eithr meddaf: oni adnabu Israel Dduw? yn gyntaf y mae Moses yn dywedyd, Deut.32.21.mi a baraf i chwi wynfydu wrth genedl nid yw genedl ac â chenedl angall i’ch digiaf.

20 Esai.65.1. Ac Esaias sydd yn llyfasu, ac yn dywedyd, caffwyd fi gan y rhai nid oeddynt yn fyng-heisio, a gwnaed fi yn eglur i’r rhai nid oeddynt yn ymofyn amdanaf.

21Ac wrth yr Israel y mae yn dywedyd, Esai.65.2.yn hŷd y dydd yr estynnais fy nwylo at bobl anufydd, ac yn gwrth-ddywedyd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help