1Y’r oedd rhyw wr a’i enw Ananias gyd â Sapphira ei wraig a werthase dir,
2Ac a ddarn-guddiodd o’r gwerth, a’i wraig yn gwybod, ac a ddug y rhan arall, ac a’i gosododd wrth draed yr Apostolion.
3Yna y dywedodd Petr, Ananias, pa ham y llanwodd Satan dy galon i beri i ti ddywedyd celwydd wrth yr Yspryd glân, a darn-guddio o werth y tir?
4Tra ydoedd yn aros, onid i ti yr oedd yn aros? ac wedi ei werthu, onid oedd yn dy feddiant di: a pha ham y gosodaist dy feddwl ar y peth hyn? ni ddywedaist di gelwydd wrth ddynion, ond wrth Dduw.
5Pan glybu Ananias y geiriau hyn, efe a syrthiodd i lawr, ac a drengodd: a daeth ofn mawr ar bawb a glybu hyn.
6A’r gwŷr ieuaingc a gyfodasant, ac a’i cymmerasant ef, ac a’i dugasant, ac a’i claddasant.
7Yna y bu megis yspaid tair awr, a’i wraig a ddaeth i mewn, heb ŵybod dim a’r a wnaethid.
8Yna y dywedodd Petr wrthi: dywet i mi, ai er hyn a hyn y gwerthasoch chwi y tîr? hithe a ddywedodd, ie er hynny.
9A Phetr a ddywedodd wrthi pa ham y darfu i chwi gydtuno rhyngoch i demtio Yspryd yr Arglwydd? edrych wrth y drws traed y rhai a gladdasant dy ŵr di, a hwy a’th ddygant dithe allan.
10Ac yna yn y man hi a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a drengodd, a’r gwyr ieuaingc a ddaethant i mewn, ac a’i cawsant hi yn farw, ac a’i cyfodasant, ac a’i claddasant yn ymyl ei gŵr.
11Ac ofn mawr a gyfodes ar yr holl eglwys, ac ar bawb oll a glybu hyn.
12Eithr drwy ddwylaw yr Apostolion y gwnaed arwyddion, a llawer o ryfeddodau ym mhlith y bobl, ac yr oeddynt oll yn gytun ym mhorth Salomon.
13Ond ni feiddie neb o’r lleill ymgyssylltu â hwynt, eithr y bobl oedd yn eu mawrhau.
14A lliaws o’r rhai a gredasant yn yr Arglwydd yn wŷr a gwragedd a gynnyddasant fwy-fwy.
15Hyd oni ddygent y cleifion i’r heolydd au gosod mewn gwelyau a glythau, fel y cyscode cyscod Petr rai o honynt pan ddele efe
16A lliaws a ddaeth hefyd yng-hyd o’r dinasoedd cyfagos i Ierusalem gan ddwyn rhai cleifion, a rhai a drallodid gan ysprydion aflan, y rhai a iachauwyd oll.
17Yna y cyfodes yr arch-offeiriad, a phawb oll a’r a oedd gyd ag ef, (yr hon yw heresi y Saducæaid) ac yr oeddynt yn llawn llid.
18Ac hwy a ddodasant eu dwylo ar yr Apostolion, ac a’u rhoesant yn y carchar cyffredin.
19Eithr angel yr Arglwydd o hŷd nos, a agorodd ddrysau y carchar, ac a’u dug hwynt allan: ac a ddywedodd,
20Ewch a sefwch yn y deml, a lleferwch wrth y bobl oll, eiriau y fuchedd hon.
21Pan glywsant hwy y pethau hyn, hwy a aethant yn foreu i’r Deml, ac a ddyscasant, a’r arch-offeiriad a ddaeth, a’r rhai oeddynt gyd ag ef a alwasant yng-hyd y cyngor, a holl henuriaid plant yr Israel, ac a ddanfonasant i’r carchar i beri eu dwyn hwy
22A phan ddaeth y swyddogion, ni chawsant hwy yn y carchar, eithr hwy a ddychwelasant, ac a fynegasant,
23Gan ddywedyd: yn wir ni a gawsom y carchar wedi ei gaeu o’r fath siccraf, a’r ceidwaid yn sefyll allan gyferbyn â’r drysau, eithr pan agorasom, ni chawsom neb i mewn.
24Pan glybu yr arch-offeiriad, a llywodraethwŷr y Deml, a’r offeiriaid pennaf yr ymadroddion hyn, ammau a wnaethant yn eu cylch hwy, beth a ddoe o hyn.
25Yna y daeth vn ac a fynegodd iddynt, gan ddywedyd: wele, y mae y gwŷr a ddodasoch yng-harchar yn sefyll yn y Deml, ac yn dyscu y bobl.
26Yna yr aeth y penswyddog, efe a’i swyddwŷr, ac a’u dug hwy yn ddi anfodd (o blegit yr oedd arnynt ofn y bobl rhag eu llabyddio)
27Ac wedi eu dwyn hwy, y gosodwyd hwy o flaen y cyngor, a’r arch-offeiriad a ofynnodd iddynt,
28Gan ddywedyd: oni rybuddiasom chwychwi yn fynych na phregethech yn yr enw hwnnw? ac wele, chwi a lanwasoch Ierusalem â’ch athrawiaeth, ac a fynnwch ddwyn arnom ni waed y dŷn hwnnw.
29Yna Petr a’r Apostolion gan atteb a ddywedasant: rhaid yw vfyddhau i Dduw yn fwy nag i ddynion.
30 Pen.3.13. Duw ein tadau ni a gyfododd i fynu Iesu yr hwn a laddasoch chwi, ac a groes-hoeliasoch ar bren.
31Hwn a dderchafodd Duw â’i ddehaulaw, yn dywysog, ac yn iachawdur i rodd i edifeirwch i Israel, a maddeuant pechodau.
32A nyni ydym dystion iddo o’r pethau hyn, a’r Yspryd glân hefyd, yr hwn a roddes Duw i’r rhai a vfuddhânt iddo ef.
33Pan glywsāt hwythau hyn, hwy a ffrommasant, ac a ymgynghorasant am eu lladd hwynt.
34Yna y cyfododd yn y cyngor vn Pharisaead, ai enw Gamaliel, doctor o’r gyfraith, parchedig gan yr holl bobl, ac a archodd fyned allā â’r Apostolion dros ennyd fechan.
35Ac efe a ddywedodd wrthynt: ha-wŷr, o Israel, edrychwch arnoch eich hunain, pa beth a wneloch am y dynion hyn.
36Canys cyn hynn o amser y cyfodes vn Theudas yn dywedyd ei fod yntef yn rhyw vn mawr, ac at hwn yr ymgasclodd rhifedi o wŷr yng-hylch pedwar cant, ac ef a laddwyd, a hwynt oll a oeddynt yn coelio iddo a wascarwyd, ac a wnaed yn ddiddim.
37Yn ôl hwn y cyfodes Iudas o Galilæa yn amser y deyrn-ged, ac efe a droes lawer o bobl ar ei ôl, efe hefyd a ddarfu am dano, a chymmaint oll ac a gytunasant ag ef a wascarwyd.
38Am hynny yn awr meddaf wrthych: peidiwch â’r dynion hyn, a gadewch iddynt: canys os o ddynion y mae hyn o gyngor neu weithred, efe a ddiflanna:
39Ac os o Dduw y mae, ni ellwch chwi ei ddattod ef rhag eich cael yn rhyfelwyr yn erbyn Duw.
40A chytuno ag ef a wnaethant, ac wedi iddynt alw yr Apostolion attynt, au curo, hwy a orchymynnasant iddynt na lefarent yn enw yr Iesu, ac a’u gollyngasant ymmaith.
41Hwythâu a aethant allan o olwg y cyngor yn llawen, am eu cyfrif hwynt yn deilwng i ddwyn ammarch er mwyn enw yr Iesu.
42A beunydd yn y Deml, ac o dŷ i dŷ ni pheidiasant â dyscu, ac â phregethu Iesu Grist.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.