1AC yr oeddgŵr o fynydd Ephraim aienw Micah,
2Ac efe a ddywedodd wrth ei fam, y mîl a’r cant arian hynny y rhai a dducpwyd oddi arnat, ac y rhegaist fel y dywedaist hefyd lle y cluwais, wele yr arian gyd a mi, myfi ai cymmerais hwynt: yna y dywedodd ei fam ef, bendigedic fy mab gan yr Arglwydd.
3Pan roddodd efe y mîl a’r cant arian adref iw fam: yna ei fam a ddywedodd gan gyssegru y cyssegrais yr arian i’r Arglwydd o’m llaw fy hun i’m mab i wneuthur delw gerfiedic, a thoddedic, am hynny yn awr mi ai rhoddaf eil-waith.
4Wedi talu o honaw yr arian iw fam: yna ei fam ef a gymmerth ddau cant o arian, ac ai rhoddodd i’r toddudd, ac efe ai gwnaeth yn ddelw gerfiedic a thoddedic, a hi a fu yn nhŷ Micah.
5A chan y gŵr hwn Micah teml: ac efe a Pen.8.27.wnaeth Ephod a Gene.31.19. ose.3.4.Theraphiaid, ac a gyssegrodd vn oi feibion i fod yn offeiriad iddo.
6Yn y dyddiau hynny nid brenin yn Israel: pôb vn a wnae yr hyn oedd inion yn ei olwg ei hun.
7Ac yr oedd llangc o Bethlehem Iuda o dylwyth Iuda: a Lefiad efe, ac efe a ymdeithiase yno.
8(A’r gŵr a aeth o’r ddinas o Bethlehem Iuda) i drigo pa le bynnac y caffe efe ac efe a ddaeth i fynydd Epraim hyd yn nhŷ Micah yn ei ymdaith.
9A Micah a ddywedodd wrtho ef, o ba le y daethost ti? dywedodd yntef wrtho, Lefiad ydwyf o Bethlehem Iuda, a myned yr ydwyf i drigo lle y caffwyf
10Yna Micah a ddywedodd wrtho ef, trig gyd a mi, a bydd i mi yn dad, ac yn offeiriad, a minne a roddaf i ti ddec arian bob blwyddyn, a dwy wisc, a’th lynniaeth: felly y Lefiad a aeth
11A’r Lefiad a fu fodlon i aros gyd a’r gŵr: a’r llangc oedd iddo fel vn oi feibion ei hun.
12A Micah a vrddodd y Lefiad, a’r llangc fû yn offeiriad iddo: ac a arhosodd yn nhŷ Micah.
13Yna y dywedodd Micah, yn awr y gwn y gwna’r Arglwydd daioni i mi: gan fod Lefiad gennifi’n offeiriad.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
