1Felly Abiiah a hunodd gyd ai dadau, 1.Bren.15.8.a chladdasant ef yn ninas Dafydd, ac Asa ei fab a deyrnasodd yn ei lê ef: yn ei ddyddiau ef y cafodd y wlad lonydd ddeng-mhlynedd.
2Ac Asa a wnaeth yr hyn oedd ddâ, ac inion yng-olwg yr Arglwydd ei Dduw.
3Canys efe a fwriodd ymmaith allorau y dieithr, a’r vchelleudd: Deut.16.20.drylliodd hefyd y delwau, a thorrodd y llwynau.
4Ac a ddywedodd wrth Iuda am geisio Arglwydd Dduw eu tadau: ac am wneuthur cyfraith, a gorchymyn
5Ac efe a fwriodd ymmaith o holl ddinasoedd Iuda yr vchelfeudd, a’r delwau: am hynny y cafodd y frenhiniaeth lonydd oi flaen ef.
6Ac efe a adailadodd ddinasoedd caeroc yn Iuda: am gael o’r wlâd lonydd fel nad rhyfel yn ei erbyn ef yn y blynyddoedd hyny, o blegit yr Arglwydd a roddase lonyddwch iddo ef.
7Ac efe a ddywedodd wrth Iuda, adailadwn y dinasoedd hyn, ac amgylchwn a mûr, ac a thŷrau, a dryssau, ac a barrau tra y wlâd hon o’n blaen ni, o herwydd ni a geisiasom yr Arglwydd ein Duw ni, ac efe a roddodd lonyddwch i ni o amgylch: felly hwynt a adailadasant, ac a lwyddasant.
8Ac yr oedd gan Asa lû o Iuda yn dwyn tariannau a gwaiw-ffyn try chant mîl, ac o Beniamin dau cant a phedwar vgain-mil yn dwyn tariannau, ac yn tynnu bŵa: y rhai hyn oll cedyrn nerthol.
9A Zerah yr Ethiopiad a aeth allan yn eu herbyn hwynt a llû o fîl o filoedd, ac a thrychant o gerbydau: ac efe a ddaeth hyd Maresa.
10Yna Asa a aeth allan yn ei erbyn ef, a hwynt a lumaethasant ryfel yn nyffryn Sephata wrth Maresa.
11Ac Asa a waeddodd ar yr Arglwydd ei Dduw, ac a ddywedodd, ô Arglwydd 1.Sam.14.6.nid i ti wrth lawer i gynnorthwyo ni ganddo gryfdwr, cynnorthwya di ni ô Arglwydd ein Duw ni, canys pwyso’r ydym ni arnat ti, ac yn dy enw di y daethom yn erbyn y dorf honn: ô Arglwydd ein Duw ni ydwyt ti, na orchfyged dŷn i’th erbyn.
12Felly’r Arglwydd a darawodd yr Ethiopiaid o flaen Asa, ac o flaen Iuda: a’r Ethiopiaid a ffoasant.
13Ac Asa, a’r bobl y rhai gyd ag ef ai herlidiodd hwynt hyd Gerar, a syrthiodd o’r Ethiopiaid heb fywyd ynddynt, canys drylliasyd hwynt o flaen yr Arglwydd, ac o flaen ei werssyll ef: a hwy a ddugasant ymmaith anrhaith fawr iawn.
14A tharawsant yr holl ddinasoedd o amgylch Gerar canys yr oedd dychryn yr Arglwydd arnynt hwy: a hwynt a anrhaithiasant yr holl ddinasoedd, canys anrhaith fawr oedd ynddynt.
15Lluestai hefyd yr anifeiliaid a darawsant hwy, a chaeth gludasant lawer o ddefaid, a chamêlod: a dychwelasant i Ierusalem.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
