2.Cronicl 18 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVIII.Y gyfrathrach rhwng Iehosaphat ac Ahab. 10 Gwirionedd Micheas ei hun yn drech na chelwydd pedwar-cant o’r gau brophwydi.

1Ac 2.Bren.22.3.i Iehosaphat yr ydoedd golud, ac anrhydedd yn helaeth: ac efe a ymgyfathrachodd ag Ahab.

2Ac ym mhen o flynyddoedd efe a ddaeth i wared at Ahab i Samaria, ac Ahab a lladdodd ddefaid, a gwartheg yn aml iddo ef, ac i’r bobl y rhai gyd ag ef, ac ai hannogodd ef i fyned ifynu i Ramoth Gilead.

3Canys Ahab brenin Israel a ddywedodd wrth Iehosaphat brenin Iuda, 1.Bren.22 4.a ei di gyd a mi i Ramoth Gilead? yntef a ddywedodd wrtho, yr ydwyfi fel tithe, a’m pobl maufi fel dy bobl dithe, a gyd a thi yn y rhyfel.

4Iehosaphat hefyd a ddywedodd wrth frenin Israel: ymgynghora attolwg heddyw a gair yr Arglwydd.

5Yna brenin Israel a gasclodd o’r prophwydi bedwar cant o wŷr, ac a ddywedodd wrthynt hwy, a awn ni yn erbyn Ramoth Gilead i ryfel, neu a beidiaf? dywedasant hwythau, dôs i fynu, canys yr Arglwydd ai dyru yn llaw y brenin.

6Ac Iehosaphat a ddywedodd, onid ymma prophwyd i’r Arglwydd mwyach, fel yr ymgynghorem ag ef?

7A brenin Israel a ddywedodd wrth Iehosaphat, etto vn gŵr drwy’r hwn y ymgynghori a’r Arglwydd, ond y mae yn gâs gennifi ef, canys nid yw’n prophwydoi mi ddaioni, onid drygioni er ei oed, efe Michea mab Iimla: a dywedodd Iehosaphat, na ddyweded y brenin felly.

8Yna brenin Israel a alwodd ar vn stafellyddion: ac a ddywedodd, bryssia Michea fab Iimla.

9A brenin Israel ac Iehosaphat brenin Iuda oeddynt yn eistedd bob vn ar ei deyrn-gader wedi eu gwisco mewn wiscoedd, eistedd yr oeddynt mewn llannerch ddrws porth Samaria: a’r holl brophwydi oeddynt yn prophwydo ger eu bron hwynt.

10A Zidecia mab Chanaana a wnaethe iddo ei hun gyrn heirn: 1.Bren.22.11.ac a ddywedodd, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, a’r rhai hyn y corni di y Syriaid nes it eu difa hwynt.

11A’r holl brophwydi oeddynt yn prophwydo fel hyn gan ddywedyd: dos i fynu i Ramoth Gilead, a ffynna, canys yr Arglwydd ai dyru hi yn llaw y brenin.

12A’r gennad yr hwn a aethe i alw Michea a lefarodd wrtho ef gan ddywedyd, 1.Bren.22.13.wele eiriau y prophwydi o vn enau yn dda i’r brenin: bydded gan hynny attolwg dy air dithe fel vn o’r rhai hynny, dywet y goref.

13A Michea a ddywedodd: mai byw’r Arglwydd, mai’r hyn a ddywedo fy Nuw, hynny a lefarafi.

14Felly efe a ddaeth at y brenin, a’r brenin a ddywedodd wrtho ef, Michea, a awn ni i ryfel yn erbyn Ramoth Gilead, neu a beidiafi? dywedodd yntef, ewch i fynu, a ffynnwch, canys rhoddir hwynt yn eich llaw chwi.

15A’r brenin a ddywedodd wrtho ef, hyd ba sawl gwaith yr ydwyfi yn dy dynghedu di, ar na leferech wrthifi onid gwirionedd yn enw’r Arglwydd?

16Yna efe a ddywedodd: gwelais holl Israel yn wascaredic ar y mynyddoedd fel defaid y rhai ni iddynt fugail: a dywedodd yr Arglwydd, nid feistred arnynt hwy, dychweled pob vn iw dŷ ei hun mewn tangneddyf.

17A brenin Israel a ddywedodd wrth Iehosaphat: oni ddywedais i wrthit, na prophwyde efe ddaioni i mi, onid drygioni?

18Yntef a ddywedodd, gan hynny gwrando air yr Arglwydd: gwelais yr Arglwydd yn eistedd ar ei orseddfa, a holl lû y nefoedd yn sefyll ar ei ddeheu-law ef, ac ar ei law asswy ef.

19A dywedodd yr Arglwydd, pwy a dwylla Ahab brenin Israel fel yr elo efe i fynu, ac y syrthio yn Ramoth Gilead? (dywedodd hefyd) vn oedd yn dywedyd fel hyn, ac arall oedd yn dywedyd fel hyn.

20Yna yspryd a aeth allan, ac a safodd ger bron yr Arglwydd, ac a ddywedodd, myfi ai twyllaf ef: a dywedodd yr Arglwydd wrtho ef, pa fodd?

21Dywedodd yntef, myfi a âf allan, 2.Thess.2.10.ac a fyddaf yn yspryd celwyddoc yng-enau ei holl brophwy di ef: yna y dywedodd twylli, a gorchfygi, dos allan, a gwna felly.

22Ac yn awr wele’r Arglwydd a roddodd yspryd celwyddoc yng-enau dy brophwydi hynn: a’r Arglwydd a lefarodd am danat ti ddrygioni.

23Yna Zidecia mab Chanaana a nessaodd, ac a darawodd Michea tan gern, ac a ddywedodd: pa ffordd yr aeth yspryd yr Arglwydd oddi wrthifi i ymddiddan a thi?

24A Michea a ddywedodd, wele ti a gei weled y dwthwn hwnnw: pan elech di o stafell i stafell i ymguddio.

25A brenin Israel a ddywedodd, cymmerwch Michea, a dygwch ef at Amon tywysog y ddinas: ac at Ioas mab y brenin.

26A dywedwch, fel hyn y dywedodd y brenin, gosodwch hwn yn y carchar-dŷ: a bwydwch ef a bar a cystudd, ac a dwfr blinder, nes i mi ddyfod eilwaith mewn heddwch.

27Yna y dywedodd Michea, os gan ddychwelyd y dychweli di mewn heddwch ni lefarodd yr Arglwydd yno fi, efe a ddywedodd hefyd, gwrandewch yr holl bobl.

28Felly y brenin Israel, ac Iehosaphat brenin Iuda a aethant i fynu i Ramoth Gilead.

29A brenin Israel a ddywedodd wrth Iehosaphat, 1.Bren.22.30.mi a newidiaf fy nillad, ac a âf i’r rhyfel, ond gwisc di dy ddillad: felly brenin Israel a newidiodd ei ddillad, a hwy a aethant i’r rhyfel.

30A brenîn Syria a orchymynnodd i dywysogion y cerbydau y rhai ganddo ef gan ddywedyd, nac ymleddwch a bychan, nac a mawr, onid a brenin Israel yn vnic.

31Pan welodd tywysogion y cerbydau Iehosaphat, yna hwy a ddywedasant, brenin Israel efe, a hwy a droasant i ymladd yn ei erbyn ef: ond Iehosophat a waeddodd, a’r Arglwydd ai cynnorthwyodd ef, a Duw ai gyrrodd hwynt oddi wrtho ef.

32A phan welodd tywysogion y cerbydau nad brenin Israel oedd efe: yna hwynt a ddychwelasant oddi ar ei ôl ef.

33Yna ŵr a dynnodd mewn bŵa ar ei amcan, 1.Bren.22.34.ac a darawodd frenin Israel rhwng y cyssylldiadau, sef rhwng y lluric: am hynny efe a ddywedodd wrth ei wastrawd, trô dy law, a dwg fi allan o’r gâd, canys fo’m clwyfwyd i.

34A’r rhyfel a gryfhaodd y dwthwn hwnnw, a brenin Israel oedd yn sefyll mewn cerbyd ar gyfer y Siriaid hyd yr hwyr: ac efe a fu farw ym mhryd machludiad haul.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help