1.Machabæaid 4 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IIII.1 Iudas yn myned yn erbyn Gorgias, yr hwn oedd yn ei gynllwyn ef, 14 efe yn gwneuthur i Gorgias, ac iw lu ffoi, 28 Lysias yn dyfod â llu o wyr i Iuda, 29 Iudas yn ei yrru ef allan, 43 Iudas yn glanhau’r Deml, ac yn cyssegru ’r allor.

1Yna Gorgias a gymmerod bum-mil o wŷr a mil o wŷr meirch detholedig, ai lu ef a osododd allan liw nôs,

2Fel y galle efe ruthro i werssyll yr Iddewon ai taro hwy yn ddisymmwth, a milwŷr y castell oeddynt yn ei dywys ef ar byd y ffordd.

3Pan glybu Iudas, efe a osododd allan ei hun a’r gwŷr galluog gyd ag ef i daro llu y brenin yr hwn oedd yn Emmaus.

4Ac yr oedd lluoedd etto wedi ymdanu oddi wrth y gwerssyll.

5A Gorgias a ddaeth i werssyll Iudas liw nos, ac ni chafodd efe neb, ond efe ai ceisiodd hwy yn y mynyddoedd, ac a ddywedodd, y maent hwy yn ffoi oddi wrthym ni.

6Ond gyd ai dyddhau hi, Iudas a ymddangosodd yn y maes, a thair mîl o wŷr, ond nid oedd genddynt hwy na llurigau na chleddyfau fel yr ewyllysient.

7Pan welsont hwy werssyll y cenhedloedd yn gryf wedi ei wisco mewn llurigau, a’r gwŷr meirch yn ei amgylchu, a’r rhai hynny wedi eu dyscu i ryfela,

8Yna Iudas a ddywedodd wrth y gwŷr y rhai oeddynt gyd ag ef, nac ofnwch eu lluosogr­wydd hwy, ac nac ofnwch eu rhuthr hwy.

9Cofiwch fel yr achubwyd ein henafiaid ni yn y môr côch, pan erlidiodd Pharao hwy â llu

10Felly yr awran gadewch i ni lefain tu â’r nef a drugarhâo efe wrthym ni, ac a gofia efe ammod henafiaid, ar a ddryllia efe y gwerssyll hwn yn ein gŵydd ni heddyw.

11Fel y gwypo ’r holl genhedloedd fod a waredo, ac a achubo Israel.

12Yna y dieithraid a godasant eu golwg i fynu, ac ai canfuant hwy yn dyfod yn eu herbyn hwy.

13Ac a ddaethant allan o’r gwerssyll i ryfela: â’r rhai oeddynt gyd ag Iuda a ganâsant vdcyrn.

14Ac hwy a darawsant yng-hyd, â’r cenhedloedd a orchfyged, ac a ffoasant i’r maes gwastad.

15A’r holl rai diwethaf a laddwyd â’r cleddyf, ac hwy ai herlidiasant hwy hyd at Assare­meth, ac hyd at feusydd Idumaea, ac Azot, ac Iamnia, ac yng-hylch teir-mil o wŷr o honynt hwy a laddwyd.

16Ac Iudas a’r llu a ddychwelodd oi herlyd hwy.

17Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, na chwennychwch yspeilio, o blegit y mae rhyfel yn ein herbyn ni.

18O blegit y mae Gorgias ai lu yn y mynydd yn agos attom ni, ond sefwch yn awr yn erbyn ein gelynnion a gorchfygwch hwy, ac wedi hynny cymmerwch yr yspail yn ddiorafun.

19Pan oedd Iudas etto yn dywedyd hyn, vn rhan a welid yn edrych allan o’r mynydd.

20Pan welodd ffoi oi a’r rhai oeddynt gyd ag Iudas wedi llosci y gwerssyll (canys y mŵg yr hwn a welid a ddangosodd yr hyn a wnaethid) a’r rhai a welsant hyn a ofnasant yn ddirfawr.

21A phan welsant hwy lu Iuda yn y maes yn barod i ymladd,

22Hwy a ffoasant oll i wlâd y dieithraid.

23Ac Iudas a ddychwelodd i gymmeryd yspail y gwerssyll, ac a gymmerodd lawer o aur ac arian, a dillad o sidan glâs, a phorphor y môr a chyfoeth mawr.

24Felly hwy a aethant adref, ac a glodforasant, ac a fendithiasant Dduw nef, am ei fod efe yn ddaionus, ai drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.

25Ac felly Israel a gafodd fuddugoliaeth fawr y diwrnod hwnnw.

26A’r cenhedloedd a ddiangasent a ddaethant, ac a ddywedasant i Lysias bob peth a’r a ddigwyddase.

27A Lysias a ofnodd yn ddirfawr ac a ddigalonnodd am na ddigwyddase y cyfryw drychineb i Israel ac a fynnase efe, ac am na wneuthid iddo ef y cyfryw bethau ac a orchymynnase ’r brenin.

28A’r flwyddyn yr hon oedd yn canlyn, Lysias a gasclodd dri vgain mil o wŷr traed detho­ledic, a phum-mil o wŷr meirch i ryfela yn eu herbyn hwynt.

29Ac hwy a ddaethāt i Idumaea, ac a werssyllasant yn Beth-sura lle y daeth Iudas yn eu herbyn hwy â deng-mil o wŷr.

30A phan welodd efe werssyll cyn gryfed, efe a wnaeth ei weddi, 1.Sam.17.50.ac a ddywedodd, bendigedic wyt ti ô Achubwr Israel yr hwn a ddestruwiaist ruthr y cawr trwy law Dafydd dŷ wâs, 1.Sam.14.13.ac a roddaist werssyll y dieithraid yn llaw Ionathan fab Saul, ac arwainydd ei arfau ef.

31Cloa ’r gwerssyll hwn yn llaw dy bobl Israel, a chywilyddier hwy yn eu lliawsogrw­ydd ai gwŷr meirch.

32Gwna iddynt hwy ofni, a thawdd eu hyfder hwy ai cadernid, fel y cynhyrfant hwy trwy eu destruw.

33Tafl hwy i lawr â chleddyf y rhai sy ’n dy garu di: yna pawb a’r a adwaenant dy enw a’th glodfarant â hymnau.

34Yna hwy a darawsant yng-hyd, a phum­mil o wŷr o werssyll Lysias a laddwyd.

35Pan welodd Lysias orchfygu ei wŷr, a gwrolaeth yr Iddewon, fel yr oeddynt hwy ’n barod pa vn bynnag ai i fyw, ai i farw fel gwŷr, efe a aeth i Anthioch, ac a ddetholodd ryfelwŷr, ac a feddylioddd eu casclu hwy yng-hyd i ddyfod trachefn i Iudaea.

36Yna Iudas a ddywedodd ai frodyr, wele, gorchfygwyd ein gelynnion, awn i fynu i lanhau, ac i adnewyddu y cyssegr.

37Wrth hyn yr holl lu a ymgasclodd, ac hwy a aethant i fynu i fynydd Sion.

38A phan welsant hwy y cyssegr wedi ei anrheithio, yr allor wedi ei halogi, y dorau wedi eu llosci, a’r manwydd yn tyfu yn y neuaddau fel mewn coed, neu ar y mynyddoedd, ac stafelloedd yr offeiriaid wedi eu destruwio:

39Hwy a rwygasant eu dillad, ac a alarasant â galar mawr, ac a fwriasant ludw ar eu pennau,

40Ac a syrthiasant i lawr ar eu hwynebau, ac a wnaethant sŵn mawr ag vdcyrn, ac a weddiasant tu a’r nef.

41Yna Iudas a orchymynnodd ei wŷr i ryfela yn erbyn y rhai oedd yn y castell, hyd oni ddarfydde iddo ef lanhau ’r cyssegr.

42Ac efe a ddewisodd offeiriaid diargyoedd y rhai oeddynt ewyllyscar i’r gyfraith.

43Ac hwy a lanhâsant y cyssegr, ac a ddu­gasant allan y cerric halogedic i le aflan.

44A chan fod allor y poeth offrymmau wedi ei halogi, efe a ymgynghorodd beth a wnae efe iddi hi.

45Felly efe a feddyliodd mai goref oedd ei destruwio hi rhag digwyddo iddi hi wneuthur cywilydd iddynt hwy, canys y cenhedloedd ai halogasent hi: am hynny hwy a ddestruwiasant yr allor.

46Ac hwy a osodasant y cerric ar fynydd y tŷ mewn lle cyfaddas, hyd oni ddele prophwyd i fynegu pa beth a wneid â hwynt.

47Ac hwy a gymmerasant gerrig cyfan yn ôl y gyfraith, ac a adeiladasant allor newydd fel yr oedd y gyntaf.

48Ac a wnaethant y cyssegr i fynu, a thu mewn y tŷ, ac a sancteiddiasant y cynteddau.

49Ac a wnaethant lestri sanctaidd newydd, ac a ddygasant y canhwyllbren, ac allor y poeth­offrymmau, yr arogl-aberthau a’r bwrdd i mewn i’r Deml.

50Ac hwy a loscasant aroglau ar yr allor, ac a oleuasant y canhwyllau y rhai oeddynt yn y canhwyllbren i losci yn y Deml.

51Ac hwy a osodasant y bara ar y bwrdd, ac a estynnasant y llenni, ac a orphennasant yr holl waith a wnaethent.

52Ac ar y pummed dydd ar hugain o’r naw­fed mîs (yr hwn a elwir mis Casseu) yn yr ŵythfed flwyddyn a deugain a chant,

53Hwy a godasant yn foreu i fynu i abethu yn ôl y gyfraith ar allor newydd y poeth offrymmau yr hon a wnaethent hwy.

54Ar gyfer yr amser ar diwrnod ac yr halogase y cenhedloedd hi, yn vniawn y gosoded hi i fynu o newydd, â chaniadau, â thelynau, â phibau ac â symbalau.

55A’r holl bobl a syrthiasant ar eu hwynebau, gan addoli a diolch i y nef ai llwyddase hwy.

56Ac felly hwy a gadwasant gyssegriad yr allor ŵyth niwrnod gan offrymmu poeth-offrymmau a diolchoffrymmau mewn llawenydd.

57Ac a harddasant dalcen y Deml â choronau, ac â thariannau o aur, ac a saneteiddiasant y pyrth a’r stafelloedd, ac a osodasant ddrysau arnynt hwy.

58Ac yr oedd llawenydd mawr ym-mhlith y bobl am droi gwradwydd y cenhedloedd ymmaith.

59Felly Iudas ai frodyr, a holl gynnulleidfa Israel a ordeiniodd gadw dyddiau cyssegriad yr allor yn eu hamserau yn vchel-wyl bob blwyddyn tros ŵyth niwrnod, gan ddechreu y pummed dydd ar hugain o’r mi’s Casseu trwy orfoledd a llawenydd.

60Ac ar yr vn amser hwy a adeiladasant fy­nydd Sion i fynu â chaerau vchel, ac â thyrau cedyrn oddi amgylch rhag dyfod o’r cenhedloedd ai sathru ef i lawr, fel y gwnaethent hwy o’r blaen. Am hynny a osododd ryfelwŷr ynddo ef iw gadw ef, ac ai gwnaeth ef yn gadarn i gadw Beth-sura, fel y cae yr bobl amddeffynfa yn erbyn yr Edomiaid.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help