Esay 35 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXV.Godidawgrwydd brenhiniaeth Grist, a llawenydd y ffyddlonniaid wrth ystyried hynny.

1Yr anialwch, a’r gwylltineb a lawenychant o hyn, y diffaethwch hefyd a orfoledda, ac a flodeua fel rhossyn.

2Gan flodeuo y blodeua, ac y llawenycha hefyd â llawenydd ac â chân: gogoniant Libanus a roddir iddo, godidogrwydd Carmel a Saron: hwynt a welant ogoniant yr Arglwydd godidogrwydd ein Duw ni.

3Cadarnhewch y dwylo llesc, a chryfhewch y gliniau gwenniaid.

4Dywedwch wrth y rhai gwan galon, ymgryfhêwch, nac ofnwch, wele eich Duw chwi a ddaw â dial, cewch weled taledigaeth Duw, efe a ddaw, ac a’ch achub chwi.

5Yna’r agorir llygaid y deillion, a chlustiau y byddarion a ymagorant.

6Yna y llamma y cloff fel hydd, ac y cân tafod y mudan, am dorri dyfroedd allan yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffaethwch.

7Y cras-dir hefyd fydd yn llynn, a’r tîr sychedic yn ffynhonnau dyfroedd, yn nhrigfa y dreigiau, ai gorweddfa cyfle corsennau a brwyn.

8Yna y bydd sarn, a ffordd, ffordd sanctaidd hefyd y gelwir hi, yr halogedic ni’s cyniwer hi, canys hyn eiddynt hwy: a rodio’r ffordd, pe ynfydion, ni chyfeiliornant.

9Ni bydd yno lew, a bwyst-fil gormesol hefyd ni ddring iddi, ac ni’s ceir yno, eithr y rhai gwaredig a rodiant

10Sef gwaredigion yr Arglwydd a ddychwelant, ac a ddeuant i Sion â chanmoliaeth, ac â llawenydd tragywyddol yn eu penn: goddiweddant lawenydd, ac hyfrydwch, cystudd hefyd a galar a ffoant ymmaith.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help