1Geiriau Amos (yr hwn oedd ymmysc bugeiliaid Thecoa) y rhai a welodd efe ar Israel yn nyddiau Osia brenin Iuda, ac yn nyddiau Ieroboam fab Ioas brenin Israel, ddwy flynedd o flaen y ddaiar-gryn.
2Ac efe a ddywedodd, yr Arglwydd a rua o Sion, ac a rydd ei lêf o Ierusalem, a chyfanneddau y bugeiliaid a alarant, a phen Carmel a wywa.
3Fel hyn y dywed yr Arglwydd, o herwydd tair anwireddau Damascus, ac o herwydd pedair ni’s dychwelaf hyn yn ei ôl: am iddynt ddyrnu Gilead â ffustiau heirn.
4Am hynny anfonaf dân i dŷ Hazael, ac efe a ddifa balasau Benhadad.
5Drylliaf drossolion Damascus, diwreiddiaf y presswylwŷr o ddyffryn Afen, a’r hwn a gynhalio deyrn-wialen ty Edom: a phobl Syria a ânt yn gaeth i Cir, medd yr Arglwydd.
6Fel hyn y dywed yr Arglwydd, am dair anwireddau Azza, ac am bedair ni throaf hyn yn ei ôl, am iddynt gaeth-gludo caethiwed gyflawn i Edom iw gwarche.
7Am hynny anfonaf dân ar fûr Azza: ac efe a ddifa ei phalasau hi.
8Ac mi a dorraf y presswyl-wr o Asdodia’r hwn a ddeil deyrn-wialen o Ascalon, a throaf fy llaw at Ecron, a derfydd am weddill y Philistiaid, medd yr Arglwydd Dduw.
9Fel hyn y dywed yr Arglwydd, am dair o anwireddau Tyrus, ac am bedair ni ddychwelaf hyn, o herwydd iddynt hwy warche cwbl gaethiwed yn Edom: ac na chofiasant y cyfammod brawdol:
10Am hynny anfonaf dân i fûr Tyrus, ac efe a ddifa ei phalasau hi.
11Fel hyn y dywed yr Arglwydd, am dair o anwireddau Edom, ac am bedair ni ddychwelaf hyn, am iddo erlid ei frawd a’r cleddyf, a llygru ei drugaredd, ai yspeilio byth yn ei ddîg, a chadw ei lid yn wastad.
12Am hynny anfonaf dân i Theman, yr hwn a ddifa balasau Bozra.
13Fel hyn y dywed yr Arglwydd, am dair o anwireddau meibion Ammon, ac am bedair ni ddychwelaf hyn, am iddynt, hwy rwygo gwragedd beichiogion Gilead, er helaethu eu terfynau eu hun.
14Cynneuaf dân ar fûr Rabba, ac efe a ddifa ei phalasau, mewn gwaedd ddydd y rhyfel, ac mewn temhestl ddydd y cor-wynt.
15Ai brenin a aiff yn gaeth, efe ai bennaethiaid gyd ag ef: medd yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
