2.Cronicl 16 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVI.Hanani yn ceryddu Asa am y cyfammod yr hwn a wnaethe efe a brenin Syria.

1Yn yr vnfed flwyddyn ar bymthec ar hugain o deyrnasiad Asa y daeth Baasa brenin Israel i fynu yn erbyn Iuda, 1.Bren.15.17.ac a adailadodd Ramah: fel nad adawe efe fyned, na dyfod at Asa brenin Iuda.

2Yna Asa a ddûg allan arian, ac aur o dryssorau tŷ’r Arglwydd, a thŷ’r brenin: ac ai hanfonodd at Benhadad brenin Syna, yr hwn oedd yn trigo yn Damascus gan ddywedyd,

3Cyfammod rhyngofi a thi, a rhwng fy nhâd i a’th dâd tithe: wele anfonais atat ti arian, ac aur, dos, torr dy gyfammod a Baasa brenin Israel fel y cilio efe oddi wrthifi.

4Felly Benhadad a wrandawodd ar y brenin Asa, ac a anfonodd dywysogion y lluoedd y 182 rhai ganddo ef yn erbyn dinasoedd Israel, a hwy a darawsant Hion, a Dan, ac Abel-maim: a holl dryssorau dinasoedd Nephthali.

5A phan glybu Baasa yna efe a beidiodd ac adailadu Ramah: 1.Bren.15.22.canys a luddiodd ei waith ef.

6Yna Asa’r brenin a gymmerth holl Iuda, ac a gludasant gerrig Ramah, ai choed y rhara adailadase Baasa: ac a adailadodd a hwynt Gibea, a Mispah.

7Y pryd hynny y daeth Hanani y gweledudd at Asa frenin Iuda: ac a ddywedodd wrtho ef, gan i ti bwyso ar frenin Syria, ac na phwysaist ar yr Arglwydd dy Dduw, am hynny y diangodd llû brenin Syria o’th law di.

8Onid oedd yr Ethiopiaid, 2.Cron.12.3. 2.Mac.9.5. & 12.22.a’r Lybiaid yn lu dirfawr, a cherbydau, ac a gwŷr meirch yn aml iawn? ond am it bwyso ar yr Arglwydd efe ai rhoddodd hwynt yn dy law di?

9Canys y mae llygaid yr Arglwydd yn edrych ar yr holl ddaiar i ymegnio gyd ai calon yn berffaith tu ag atto ef, ynfyd y gwnaethost yn hyn: canys rhyfeloedd bellach fyddant i’th erbyn.

10Yna y digiodd Asa wrth y gweledudd, ac ai rhoddodd ef mewn carchar-dŷ, canys yn ddiglion wrtho ef am y peth hyn: ac Asa a orthrymmodd o’r bobl y pryd hynny.

11Ac wele weithrodoedd Asa y rhai cyntaf, a’r rhai diweddaf: ie wele hwynt yn scrifennedic yn llyfr brenhinoedd Iuda, ac Israel.

12Ac Asa a glafychodd oi draed yn y bedwaredd flwyddyn ar bymthec ar hugain oi deyrnasiad, nes iw glefyd yn ddirfawr: etto ni cheisiodd efe yr Arglwydd yn ei glefyd, onid y meddygon.

13Felly Asa a hunodd gyd ai dadau: ac a fu farw yn yr vnfed flwyddyn a deugain oi deyrnasiad ef.

14A chladdasant ef yn ei feddrod yr hwn a wnaethe efe iddo yn ninas Dafydd, a rhoddasant ef i orwedd mewn gwely’r hwn a lawnase efe a phêr aroglau o amryw rywogaethau wedi eu gwneuthur drwy waith apothecari, a hwy a gynneuasant iddo ef gynneu mawr iawn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help