Psalmau 143 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. cxliij.Psalm Dafydd.

1Arglwydd clyw fyng-weddi, a gwrando ar fy neisyfiad: erglyw fi yn dy wirionedd, a’th gyfiawnder.

2Ac na ddos i gyfraith a’th wâs, o herwydd ni chyfiawnheuir neb byw yn dy fron di.

3Canys y gelyn a erlidiodd fy enaid, curodd efe fy enaid i lawr, a gwnaeth i mi drigo mewn tywyllwch, fel y rhai a fuasent feirw er ystalm.

4Yna’r ymofidiodd fy yspryd o’m mewn: y synnodd fyng-halon ynof.

5Cofiais y dyddiau gynt, myfyriais ar dy holl waith: ac yng-weithredoedd dy ddwylo y myfyriaf.

6Lledais fy nwylaw attat: fy enaid fel tir sychedic am danat.

7Oh Arglwydd gwrando fi yn ebrwydd: pallodd fy yspryd, na chuddia dy wyneb oddi wrthif, rhag fy mod yn gyffelyb i’r rhai a ddescynnant i’r pwll.

8Pâr i mi glywed dy drugaredd yn foreu: o herwydd ynot ti y gobeithiais, pâr di i mi ŵybod pa ffordd y rhodiaf, o blegit attat ti y derchafais fy enaid.

9Gwaret fi oddi wrth fyng-elynnion ô Arglwydd: gyd â thi’r ymguddiais.

10Dysc i mi wneuthur dy ewyllys di: canys ti fy Nuw: tywysed dy Yspryd daionus fi i dir yr iniondeb.

11Bywhâ fi ô Arglwydd er mwyn dy enw, dwg fy enaid allan o ing er mwyn dy gyfiawnder.

12Ac er dy drugaredd dinistria fyng-elynnion, a difetha holl wrthwyneb-wŷr fy enaid: o blegit dy wâs di ydwyfi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help