Esay 11 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XI.Achau, rhinweddau, brenhiniaeth, a hedd Crist. 10 Galwedigaeth y cenhedloedd.

1Yna y daw allan wialen o gyff Isai: a blaguryn a dŷf oi wraidd ef.

2Ac Yspryd yr Arglwydd a orphywys arno ef: Yspryd doethineb a deall, Yspryd cyngor a chadernid, Yspryd gwybodaeth, ac ofn yr Arglwydd.

3Ei ddeall hefyd yn ofn yr Arglwydd, ac nid wrth olwg ei lygaid y barn efe, nac wrth glywediad ei glustiau y cerydda efe.

4Ond efe a farn y tlodion mewn cyfiawnder, ac a argyoedda tros drueniaid y ddaiar mewn iniondeb: ac a deru y ddaiar â gwialen ei enau ef, ac ag anadl ei wefusau y lladd efe yr anwir.

5A chyfiawnder fydd gwregys ei lwynau ef, a ffydd yn wregys ei arennau.

6A’r blaidd a drig gyd a’r oen, a’r llewpard a orwedd gyd a’r mynn: y llô hefyd a chenew y llew a’r anifail brâs fyddant yng-hyd, a bachgen bychan ai harwain.

7Y fuwch hefyd a’r arth a borant yng-hyd, eu llydnod a orweddant: y llew fel yr ŷch a bawr wellt.

8A’r sugno a chweru wrth dwll yr asp: ac ar ffau y wiber yr estyn yr hwn a ddiddyfnwyd ei law.

9Ni ddrygant ac ni lygrant yn holl fynydd fy sancteiddrwydd: canys y ddaiar a gyflawnwyd o ŵybodaeth yr Arglwydd, megis y dyfroedd y rhoi sydd yn toi y môr.

10Yn y dydd hwnnw gwreiddyn Isai fydd yr hwn a saif yn arwydd i’r bobloedd, ag ef yr ymgais y cenhedloedd: ai orphywysfa ef yn ogoniant.

11Bydd hefyd yn y dydd hwnnw i’r Arglwydd fwrw eilwaith ei law i feddiannu gweddill ei bobl, y rhai a weddillir gan Assyria, a chan yr Aipht a chan Pathros, a chan Ethiopia a chan Helam, gan Sinear hefyd, a chan Hamath, a chan ynysoedd y môr.

12Ac efe a gyfyd faner i’r cenhedloedd, ac a gynnull gyrwydriaid Israel: ac a gascl wascaredigion Iuda o bedair man byd.

13Cenfigen Ephraim a ymedu hefyd, a gwrthwynebwŷr Iuda a dorrir ymmaith: ni chenfigenna Ephraim wrth Iuda, ac ni chyfynga Iuda ar Ephraim.

14Ond hwy a ehedant ar yscwyddau y Philistiaid tua’r gorllewyn, yng-hyd yr yspeiliant feibion y dwyrain: Edom a Moab estynniad eu llaw hwynt, a meibion Ammon vfudd-dod iddynt.

15Yr Arglwydd hefyd a ddifroda dafod môr yr Aipht, ac ai wynt nerthol efe a gyfyd ei law ar yr afon: ac ai teru hi yn saith o ffrydau, ac a wna rodio yn droed-sych.

16A bydd yn briffordd i weddill ei bobl ef, y rhai a adewir o’r Assyriaid, megis ag y bu i Israel yn y dydd y daeth efe i fynu o dir yr Aipht.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help