1Y gair yr hwn a ddaeth at Ieremi oddi wrth yr Arglwydd (pan oedd Nabuchodonosor brenin Babilon ai holl lû, a holl deyrnasoedd y ddaiar tann lywodraeth ei law ef: a’r holl bobloedd yn rhyfela yn erbyn Ierusalem, ac yn erbyn ei holl ddinasoedd hi) gan ddywedyd:
2Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw Israel, dos a llefara wrth Sedecia frenin Iuda, a dywet wrtho, fel hynn y dywed yr Arglwydd, 2.Cron.36.19. Ier.29.16. Ier.32.3.wele fi yn rhoddi y ddinas hon i law brenin Babilon, ac efe ai llysc hi â thân.
3Ac ni ddiengi dithe oi law ef, canys diau i’th ddelir, ac i’th roddir iw law ef, dy lygaid ti a gânt weled llygaid brenin Babilon, ai enau ef a ymddiddan a’th enau di, a thithe a ei i Babilon.
4Er hynny ô Sedecia brenin Iuda gwrando di air yr Arglwydd: fel hynn y dywed yr Arglwydd am danat ti, ni byddi di farw drwy gleddyf,
5Mewn heddwch y byddi di farw, a hwynt a loscant i ti fel y lloscwyd i’th dadau y brenhinoedd cyntaf y rhai oeddynt o’th flaen di, a hwynt a alarant am danat ti ôh arglwydd: canys myfi a ddywedais y gair medd yr Arglwydd.
6Yna Ieremi y prophwyd a lefarodd wrth Sedecia frenin Iuda yr holl eiriau hyn yn Ierusalem,
7Pan oedd brenin Babilon yn rhyfela yn erbyn Ierusalem, ac yn erbyn holl ddinasoedd Iuda y rhai a weddillasid, sef Lachis, ac Azecah: y rhai hynny a adwasid o ddinasoedd Iuda o herwydd yn ddinasoedd caeroc.
8Y gair yr hwn a ddaeth at Ieremi oddi wrth yr Arglwydd, wedi i’r brenin Sedecia wneuthur cyfammod a’r holl bobl y rhai yn Ierusalem am gyhoeddi iddynt rydd-did,
9I ollwng o bob vn ei wasanaeth-wr, a phob vn ei wasanaeth-ferch Hebræad neu Hebreæs yn rhyddion, ac na cheisient neb wasanaeth ganddynt, pob vn gan ei frawd o Iddew.
10Pan glybu yr holl bennaethiaid, a’r holl bobl y rhai a ddaethent i’r cyfammod am ollwng o bob vn ei wasanaeth-wr, a phob vn ei wasanaeth-ferch yn rhyddion fel na cheisient wasanaeth ganddynt mwyach: yna hwynt a wrandawsant, ac ai gollyngasant ymmaith.
11Ond wedi hynny yr edifarhaodd arnynt, a hwynt a ddugasant yn eu hôl eu gweision, ai morwynion y rhai a ollyngasent yn rhyddion, ac ai caethiwasant hwynt yn weision, ac yn forwynion.
12Am hynny y daeth gair yr Arglwydd at Ieremi oddi wrth yr Arglwydd, gā ddywedyd:
13Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, mi a wneuthum gyfammod a’ch tadau, ar y dydd y dygais hwynt allan o dîr yr Aipht o dŷ y caethiwed gan ddywedyd:
14Ym mhen saith mlynedd gollyngwch bob vn ei frawd o Hebræad yr hwn a werthwyd i ti, ac a’th wasanaethodd chwe blynedd: gollwng ef yn rhydd oddi wrthit, ond ni wrādawodd eich tadau arnaf, ac ni ogwyddasant eu clustiau.
15A chwithau a gymmerasech edifeirwch heddyw, ac a wnaethech yr hyn oedd iniawn yn fyng-olwg, am gyhoeddi rhydd-did pob vn iw gyfaill, a chwi a wnaethoch gyfammod yn fyng ŵydd i, yn y tŷ yr hwn y gelwir fy enw arno.
16Ond chwi a ddychwelasoch, ac a halogasoch fy enw, canys chwi a ddugasoch yn eu hôl pob vn ei wasanaeth-wr, a phôb vn ei wasanaethferch y rhai a ollyngasech yn rhyddion wrth eu hewyllys eu hun: caethiwasoch hwynt hefyd i fod yn weision, ac yn forwynion i chwi.
17Am hynny fel hynn y dywed yr Arglwydd, ni wrandawsoch arnafi, i gyhoeddi rhydd-did pob vn iw frawd, a phob vn iw gyfaill: wele fi yn cyhoeddi i’ch erbyn medd yr Arglwydd rydd-did i’r cleddyf, i haint, ac i newyn, ac mi a’ch rhoddaf chwi mewn trallod trwy holl deyrnasoedd y ddaiar.
18Ac mi a roddaf y dynnion y rhai a droseddasant fyng-hyfammod, ac ni chwplausant eiriau y cyfammod a wnaethont ger fy mron wedi iddynt fyned rhwng rhannau y llô Gen.15.10.yr hwn a holltasent yn ddau,
19Tywysogion Iuda a thywysogion Ierusalem, yr stafellyddion a’r offeiriaid, a holl bobl y wlad y rhai a aethant rhwng rhannau y llô,
20Ie mi ai rhoddaf hwynt yn llaw eu gelynnion, ac yn llaw y rhai sydd yn ceisio eu henioes, ai celain fydd yn fwyd i ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaiar.
21Ac mi a roddaf Sedecia brenin Iuda, ai dywysogion i law ei elynnion, ac i law y rhai sy yn ceisio eu henioes: ac yn llaw llu brenin Babilon y rhai a aethant i fynu oddi wrthych.
22Wele fi yn gorchymyn medd yr Arglwydd iddynt hwy droi yn ôl at y ddinas hon, fel y rhyfelant yn ei herbyn hi, ac y gorescynnant hi, ac ai lloscant hi â thân: ac mi a roddaf ddinasoedd Iuda yn anghyfannedd heb bresswylydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.