Gweithredoedd yr Apostolion 16 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVI.Paul yn enwaedu Timotheus, 9 gweledigaeth Paul, 14 Troad Lydia i’r ffydd, 18 Paul yn bwrw allan yspryd drwg, 22 curo, a charcharu Paul a Silas, a’u rhyfedd ryddhaad.

1Yna y daeth efe i Derbe, ac i Lystra, ac wele, yr oedd yno ryw ddiscybl a’i enw Rhufein.16.21. Phil.2.19.|PHP 2:19. 1.Thess.3.2. Timotheus mab i ryw wraig yr hon oedd yn credu o Iudaea, ac o dad yr hwn oedd Roeg-wr.

2Hwn oedd yn cael gair da gan y brodyr y rhai oeddynt yn Lystra ac Iconium.

3Paul a fynne iddo ef ddyfod gyd ag ef, ac ai cymmerth, ac o achos yr Iddewon y rhai oeddynt yn y lleodd hynny efe a’i hen waedodd ef, canys pawb a ŵydde mai Groeg-wr oedd ei dad ef.

4Ac fel yr oeddynt yn ymddaith trwy y dinasoedd, hwy a roesant arnynt gadw yr pyngciau a ordeiniase yr Apostolion a’r henuriaid, y rhai oeddynt yn Ierusalem.

5Felly y cadarnhawyd yr eglwysi yn y ffydd, ac hwy a amlhawyd o rifedi beunydd.

6Ac wedi iddynt drammwy trwy Phrigia, a gwlad Galatia, gwaharddwyd iddynt gan yr Yspryd glân bregethu y gair yn Asia:

7Pan ddaethant i Misia hwy a geisiasant fyned i Bithinia, eithr ni adawodd Yspryd yr Iesu iddynt.

8A myned a wnaethant heb law Misia i wared i Troas.

9Ac fe a ymddangosodd i Paul weledigaeth liw nos, rhyw ŵr o Macedonia a safe, ac a weddie arno, gan ddywedyd: tyret trosodd i Macedonia, a chymmorth ni.

10Er cynted y gwelodd efe y weledigaeth, ni a geisiasom fyned i Macedonia, gan weled arwyddion diogel, mai yr Arglwydd a’n galwase ni, i bregethu yr efengyl

11Ac ni a aethom ymmaith o Troas, ac a gyrchasom yn iniawn i Samothracia, a thrannoeth i Neapolis.

12Ac oddi yno i Philippi yr hon sydd brif ddinas ym mharthau Macedonia, dinas rydd, ac ni a arhosasom yn y ddinas honno dalm o ddyddiau.

13A’r dydd Sabboth yr aethom allan o’r ddinas i lan yr afon, lle byddid arferol o weddio, lle yr eisteddasom gyd â rhai gwragedd a ddaethent yng-hyd.

14A rhyw wraig a elwid Lydia, yr hon oedd yn gwerthu porphor o ddinas y Thiatiriaid, yr hon oedd yn gwasanaethu Duw, a wrandawodd arnom, yr hon a agorase yr Arglwydd ei chalon i ystirio ar y pethau a ddywedase Paul.

15Ac wedi ei bedyddio hi a’i theulu, hi a ddymunodd, gan ddywedyd: os ydych yn fy marnu i yn ffyddlawn i’r Arglwydd, dewch i mewn i’m tŷ, ac arhoswch: a hi a’n daliodd ni

16Ac fel yr oeddem ni yn myned i weddio, fe ddaeth llangces ac ynddi yspryd dewindeb i gyfarfod â ni, yr hon oedd yn peri llawer o elw iw meistriaid wrth ddewiniaeth.

17Hon yn dilyn Paul a ninne, gan ddywedyd: y dynion hyn yw gweision y Duw goruchaf, y rhai sy yn dangos i chwi ffordd iechydwriaeth.

18A hynny a wnaeth hi lawer o ddyddiau, a Phaul yn flin ganddo hyn, a ddychwelodd ac a ddywedodd wrth yr yspryd: gorchymyn yr wyf i ti drwy enw Iesu Grist fyned allan o honi: ac efe a aeth allan yr awr honno.

19Yna pan welodd ei mestred hi fyned heibio obaith eu helw, hwy a ddaliasant Paul a Silas, ac au lluscasant hwy i’r farchnadfa ac y swyddogion:

20Ac hwy ai rhoesant hwy at y llywodraethwyr, ac a ddywedasant: y mae y dynion hyn yn blino ein dinas ni, a hwythau yn Iddewon,

21Ac yn pregethu defodau y rhai nid ydynt rydd i nyni eu derbyn, na’u harfer, y rhai ydym Rufain-wŷr.

22Yna y cyfododd y dyrfa yng-hyd yn eu herbyn hwy, a’r llywodraeth-wŷr a ddrylliasant eu dillad hwy, ac a orchymynnasant eu curo â gwiail.

23Ac wedi dodi llawer gwialēnod iddynt, hwy a’u taflasant i garchar: gā orchymyn i geidwad y carchar, eu cadw hwynt yn ddiogel.

24Yr hwn pan gafodd y fath orchymyn au bwriodd hwy i’r carchar nesaf i mewn, ac a wnaeth eu traed yn siccr yn y cyffion,

25Ac fel yr oedd Paul a Silas ganol nos yn gweddio, hwy a ganasant hymnau i Dduw, a’r carcharorion a’u clywsant hwy.

26Ac yn ddysymmwth y bu daiar-gryn mawr, hyd oni siglodd seiliau y carchar, ac yn ebrwydd yr agorodd y drysau oll, a rhwymau pawb a aethant yn rhyddion.

27A phan ddeffrôdd ceidwad y carchar a chanfod drysau y carchar yn agored, efe a dynnodd ei gleddyf, ac a amcanodd ei ladd ei hun: gan dybied ddiangc y carcharorion.

28Yna y llefodd Paul â llef vchel, gan ddywedyd, na wna niwed i ti dy hun, canys yr ydym ni ymma oll.

29Felly y galwodd efe am oleuad, ac y rhuthrodd i mewn, ac a syrthiodd yn ddychrynnedic o flaen Paul a Silas.

30Ac efe au dug hwynt allan, ac a ddywedodd, o feistred beth sydd raid i mi ei wneuthur i fod yn gadwedig?

31Yna y dywedâsant hwy, cred yn yr Arglwydd Iesu Grist, a chadwedig fyddi di a’th deulu.

32A hwy a lefarasant iddo air yr Arglwydd, ac i bawb oll a’r a oedd yn ei dy ef.

33Ac efe a’u cymmerth hwy yr awr honno o’r nôs, ac a olchodd eu briwiau, ac efe yn y man a fedyddwyd a’i holl deulu.

34Ac wedi iddo fyned â hwynt iw dy, efe a huliodd ford, ac efe a lawenychodd yn Nuw wedi credu yn Nuw a’i holl dŷ.

35Wedi dyddhau, y llywodraethwyr a anfonasant gennadau, gan ddywedyd: gollwng ymmaith y dynion yna.

36Yna yr adroddodd ceidwad y carchar y geiriau hyn i Paul: y llywodraeth-wŷr a anfonasant i’ch gollwng chwi, yn awr gan hynny cerddwch ymmaith: ewch mewn heddwch.

37Yna y dywedodd Paul wrthynt: wedi darfod iddynt ein curo yn amlwg heb ein barnu, a ninnau yn Rhufeinwŷr, hwy a’n bwriasāt ni i garchar, ac yr awr hon a fynnant hwy ein bwrw ni allan yn ddirgel? nid felly: ond deuant eu hunain a dygant ni allan.

38A’r cennadon a fynegâsant y geiriau hyn i’r llywodraeth-wŷr, ac hwy a ofnasant pan glywsant mai Rhufeiniaid oeddynt.

39Yna y daethant, ac yr attolygasant arnynt, ac a’u dodasant allan, ac a ddeisyfiasant arnynt fyned allan o’r ddinas.

40Ac wedi iddynt ddyfod allan o’r carchar, hwy a aethant i mewn at Lydia, a phā gawsant weled y brodyr, diddanasant hwynt, ac aethant ymmaith.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help