1 O Arglwydd cofia Ddafydd ai holl flinder.
2Y modd y tyngodd efe wrth yr Arglwydd, yr addunodd i rymmus Iacob,
3Nid âf i fewn pabell fy nhŷ, ni ddringaf ar erchwyn fyng-wely,
4Ni roddaf gwsc i’m llygaid, na hun i’m amrantau:
5Hyd oni chaffwyf le i’r Arglwydd: presswylfod i rymmus Iacob.
6Wele clywsom am dani yn Effrata: cawsom hi ym meusydd y coed.
7Awn iw bebyll ef, ymgrymmwn o flaen ei faingc draed ef.
8Cyfot Arglwydd i’th orphywysfa, ti ag Arch dy gadernid.
9Gwisced dy offeiriaid gyfiawnder: a gorfoledded dy sainct.
10Er mwyn Dafydd dy wâs na wrthot wyneb dy eneiniog.
11Tyngodd yr Arglwydd wirionedd i Ddafydd, ni thrŷ efe oddi wrth hynny: o ffrwyth dy groth y gosodaf ar dy orsedd-faingc.
12Os ceidw dy feibion fyng-hyfammod a’m testiolaeth: eu meibion hwythau yn dragywydd a eisteddant ar dy orsedd-faingc.
13Canys dewisodd yr Arglwydd Sion, dymunodd yn drigfa iddo ei hun
14Dymma fyng-orphywysfa yn dragywydd: ymma y trigaf canys chwennychais hi.
15Gan fendithio y bendithiaf ei llynniaeth, mi a ddiwallaf ei thlodion â bara.
16Ei hoffeiriaid hefyd a wiscaf ag iechydwriaeth: ai sainct dann ganu a ganant.
17Yna y paraf i gorn Dafydd flaguro: darparais lusern i’m heneiniog.
18Ei elynnion ef a wiscasi â chywilydd, arno yntef y blodeua ei goron.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
