Genesis 31 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXI.Plant Laban yn grwgnach yn erbyn Iacob. 3 Duw yn gorchymyn iddo ddychwelyd iw wlad. 5 Efe yn mynegu ei helynt iw wragedd priod. 13 Gofal Duw tros Iacob. 19 Rahel yn lledratta delwau ei thad. 23 Laban yn canlyn ar ol Iacob. 44 Y cyfammod rhwng Laban ac Iacob.

1Ac efe a glybu eiriau meibion Laban yn dywedyd, Iacob a ddûg yr hyn oll i’n tâd ni, ac o’r hyn i’n tâd ni y gwnaeth efe yr holl anrhydedd hyn.

2Hefyd Iacob a welodd wyneb-pryd Laban, ac wele nid tu ag attaw ef megis cynt.

3A’r Arglwydd a ddywedase wrth Iacob, dychwel i wlad dy dadau, ac at dy genhedl dy hun, ac mi a fyddaf gyd a thi.

4A Iacob a anfonodd, ac a alwodd Rahel, a Lea i’r maes, at ei braidd.

5Ac a ddywedodd wrthynt, myfi a welaf wyneb-pryd eich tâd chwi, mai nad fel cynt efe tu ag attafi: a Duw fy nhâd a fu gyd a’m fi.

6A chwi a wyddoch mai a’m holl allu y gwasanaethais gyd a’ch tâd.

7Onid eich tâd a anghywirodd a’m fi, ac a newidiodd fyng-hyflog i ddeng-waith: ond nis goddefodd Duw iddo wneuthur i mi ddrwg.

8Os fel hyn y dywede: y man-frithion a fydd dy gyflog di, yna yr holl braidd a heppilient fân-frithion: ond os fel hyn y dywede: y traed-frithion a fydd dy gyflog di, yna’r holl braidd a heppilient traed-frithion.

9Felly Duw a ddûg anifeiliaid eich tâd chwi, ac ai rhoddes i mi.

10Bu hefyd yn amser cyfebru o’r praidd, dderchafu o honof fy llygaid, ac mewn breuddwyd y gwelais, ac wele yr hyrddod, (y rhai oeddynt yn llammu y praidd,) yn draed-frithion, yn fân frithion, ac yn faŵr frithion.

11Yna y dywedodd angel Duw wrthif mewn breuddwyd, Iacob: minne a attebais, wele fi.

12Yntef a ddywedodd, derchafa weithian dy lygaid, a gwêl di yr holl hyrddod y rhai ydynt yn llammu y praidd yn draed-frithion, yn fân-frithion, ac yn fawr-frithion, o blegit gwelais yr hyn oll y mae Laban yn ei wneuthur i ti.

13My fi y Duw o Bethel, Genes.28.18.lle ’r eneniaist golofn lle’r addunaist adduned i mi, cyfot ti bellach dos allan o’r wlâd hon, dychwel i wlad dy genhedl dy hun.

14Yna’r attebodd Rahel a Lea, ac a ddywedasant wrtho, a etto i ni rann, neu etifeddiaeth yn nhŷ ein tâd?

15Onid yn estronesau y cyfrifodd efe nyni? o blegit efe a’n gwerthodd, a chan dreulio a dreuliodd hefyd ein harian ni.

16Canys yr holl olud yr hwn a ddûg Duw oddi a’r ein tâd ni, ny ni a’n meibion ai piau: bellach yr awr hon gwna di yr hyn oll a ddywedodd Duw wrthit.

17Yna Iacob a gyfododd, ac a ossododd ei feibion, ai wraged, ar y camelod.

18Ac a ddûg ymmaith ei holl anifeiliaid, ai holl gyfoeth yr hwn a enillase, ei anifeiliaid meddiānol, y rhai a enillase efe ym Mesopotamia, i fyned at Isaac ei dâd, i wlâd Canaan.

19Laban hefyd a aethe i gneifio ei ddefaid, a Rahel a ladrattaodd y delwau y rhai gan ei thâd hi.

20Felly Iacob a aeth yn lledradaidd oddi wrth y Syriad, canys ni fynegodd iddo mai ffoî yr oedd efe.

21Felly y ffôdd efe a’r hyn oll ganddo, ac a gyfododd, ac a aeth drwy’r afon, ac a gyfeiriodd fynydd Gilead.

22A mynegwyd i Laban, ar y trydydd dydd, mai ffôi a wnaethe Iacob.

23Yna y cymmerth efe ei frodyr gyd ag ef, ac a erlidiodd ar ei ôl ef daith saith niwrnod, ac ai goddiweddodd ef ym mynydd Gilead.

24Onid Duw a ddaethe at Laban y Syriad liw nôs, mewn breuddwyd, ac a ddywedase wrtho, ymgadw arnat, rhag yngen o honot wrth Iacob na da na drwg.

25Yna Laban a oddiweddodd Iacob, ac Iacob a osododd ei babell yn y mynydd: Laban hefyd a wersyllodd yng hyd ai frodyr ym mynydd Gilead.

26Yna Laban a ddywedodd wrth Iacob, pa beth a wnaethost? o blegit ti a aethost yn lladradaidd oddi wrthif i, a chludaist fy merched, fel caethglud cleddyf.

27Am ba beth y ffoaist yn ddirgel, ac y lledratteaist oddi wrthi fi, ac ni fynegaist i mi, fel yr hebryngaswn dydi a llawenydd, ac a chaniadau, a thympan, ac a thelyn?

28Hefyd ni adewaist i mi gusanu fy meibion, a’m merched, gwnaethost yr awran yn ffôl.

29Mae a allwn wneuthur i chwi ddrwg: ond Duw eich tâd chwi a lefarodd wrthif neithwyr gan ddywedyd, ymgadw arnat rhac yngen wrth Iacob, na da, na drwg.

30Weithian gan hynny, gan fyned yr aethost ymmaith, o blegit gan hiraethu yr hiraethaist am dy dâd. pa ham y lledratteaist fy nuwiau i?

31Yna Iacob a attebodd, ac a ddywedodd wrth Laban, am ofni o honof: o blegit meddyliais rhac dwyn o honot dy ferched oddi wrthyf.

32Gyd a’r hwn y ceffych dy dduwiau na chaffed fyw ger bron ein brodyr, mynn di wybod pa beth gyd a’m fi, a chymmer i ti: ac nis gwydde Iacob mai Rahel ai lledrattase hwynt.

33Laban gan hynny a aeth i mewn i babell Iacob, ac i babell Lea, ac i babell y ddwy lawforwyn, ac ni cafodd hwynt: yna yr aeth allan o babell Lea, ac y daeth i babell Rahel.

34A Rahel a gymerase y delwau, ac ai gosodase hwynt yn sadell y camel, ac a eisteddodd arnynt, a Laban a deimlodd yr holl babell ac nis cafodd

35O blegit dywedase hi wrth ei thâd, na ddigied fy arglwydd, am nas gallaf gyfodi ger dy fron di, canys arfer gwragedd a i mi, yna y chwiliodd efe, ac ni chafodd y delwau.

36Yna Iacob a ddigiodd, ac a ymrysonodd a Laban: o blegit Iacob a attebodd ac a ddywedodd wrth Laban, pa beth fyng-hamwedd i? pa beth fy mhechod? gan erlid o honot ar fy ôl?

37Canys teimlais fy holl ddodrefn i, pa beth a gefaist o holl ddodrefn dy dŷ di? gosot ymma ger bron fy mrodyr i a’th frodyr dithe, fel y barnant rhyngom ni ein dau.

38My fi bellach ugain mlhynedd gyd a thi, dy ddefaid a’th eifr ni erthylasant, ac ni fwytteais hyrddod dy braidd.

39Ni ddygwn sclyfaeth attat ti, my fi ai gwnawn ef yn dda, o’m llaw i y gofynnit hynny: yr hyn a ladrateid y dydd, a’r hyn a ladrateid y nos,

40Bûm i’m treuliodd gwrês trwy yr dydd, a rhew trwy yr nôs: a’m cwsc a gilie o’m llygaid.

41Bellach i mi ugain mlhynedd yn dy dŷ di, pedair blynedd ar ddec y gwasanaethais di am dy ddwy ferched, a chwe blynedd am dy braidd; a thi a newidiaist fyng-hyflog ddec o weithiau.

42Oni buase Duw fy nhâd, Duw Abraham, ac arswyd Isaac gyd a’m fi, diau yr awr hon y gollyngasit fi ymmaith yn waglaw: onid Duw a welodd fyng-hystudd a llafur fy nwylaw, ac a’th geryddodd neithiwyr.

43Yna Laban a attebodd, ac a ddywedodd, wrth Iacob, y merched fy merched mau fi, a’r meibion fy meibion mau fi, a’r praidd fy mhraidd mau fi: a’r hyn oll a weli eiddo fi oedd, ond heddyw pa beth a wnaf i’m merched hyn fy hun? ac iw meibion hwynt, y rhai a escorasant.

44Tyret gan hynny yn awr, gwnawn gyfammod mi a thi, a bydded yn destiolaeth rhyngofi a thithe.

45A Iacob a gymmerth garrec ac ai cododd hi yn golofn.

46Hefyd Iacob a ddywedodd wrth ei frodyr cesclwch gerric, a hwynt a gymmerasant gerric, ac a wnaethant garnedd, ac a fwyttasant yno ar y garnedd.

47A Laban ai galwodd hi Iegar Sahadutha: ac Iacob ai galwodd hi Gilead.

48O blegit Laban a ddywedase: y garnedd hon a fydd dyst rhyngofi a thithe heddyw: am hynny y galwodd ei henw hi Gilead.

49A Mispah hefyd, o blegit efe a ddywedase, edryched yr Arglwydd rhwngofi a thithe, pan fôm ni bob vn o olwg ei gilydd.

50Os gorthrymmi di fy merched, neu os cymmeri wragedd heb law fy merched i: nid gŵr gyd a ni, edrych, Duw dŷst rhyngofi a thithe.

51Dywedodd hefyd Laban wrth Iacob: wele y garnedd hon, ac wele y golofn hon, ac wele y golofn yr hon a osodais rhyngofi a thi.

52Tŷst y garnedd hon, a thŷst y golofn na ddeuafi tros y garnedd hon attat ti, ac na ddoi dithe tros y garnedd hon, neu’r golofn hon attafi, er niwed.

53Duw Abraham, a Duw Nachor a farno rhyngom ni ([sef] Duw eu tadau hwynt) felly y tyngodd Iacob i ofn ei dâd Isaac.

54Hefyd Iacob a aberthodd aberth yn y mynydd, ac a alwodd ar ei frodyr i fwytta bara, a hwynt a fwyttasant fara, ac a drigasant tros nôs yn y mynydd.

55A Laban a gyfododd yn foreu, ac a gusanodd ei feibion, ai ferched ef, ac ai bendithiodd hwynt: felly Laban a aeth ymmaith, ac a ddychwelodd iw frô ei hun.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help