1Yn y nawfed flwyddyn, yn y decfed mîs, ar y decfed o’r ni’s y daeth gair yr Arglwydd attaf gan ddywedyd,
2Scrifenna it henw y dydd hwn (fab dŷn) îe corph y dydd hwn: nessaodd brenin Babilon yn erbyn Ierusalem o fewn corph y dydd hwn.
3A dihareba ddihared am y tŷ gwrthryfelgar, a dywet wrthynt: fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Dduw, gosot y crochan, gosot, a thywallt hefyd ddwfr ynddo.
4Cascl ei ddrylliau iddo, pob dryll têg, y morddwyd a’r yscwyddoc, llanw â dewis escyrn.
5Cymmer ddewys o’r praidd, a chynneu yr escyrn tano, a berw ef yn ferwedic, îe berwed ei escyrn oi fewn.
6Am hynny yr Arglwydd Dduw a ddywedodd fel hyn, gwae ddinas y gwaed, y crochan, yr hwn scumm ynddo, ac nid aeth ei scumm allan o honaw, tynn ef allan bôb yn ddryll: na syrthied coel-bren arno.
7O herwydd ei gwaed sydd yn ei chanol, a’r grîb y graig y gosododd ef, ni’s tywalltodd ar y ddaiar, i fwrw arno lwch.
8I beri i lid godi, ac i wneuthur dial, rhoddais ei gwaed hi ar grîb craig, rhag ei guddio.
9Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, gwae ddinas y gwaed, Nahu.3.1.|NAM 3:1. habac.2.12.minne a wnaf ei thân yn fawr.
10Gan amlhau y coed, gan gynneu yr tân, gan ddifa y cîg, a choginiaethu coginiaeth, fel y llosco yr escyrn.
11A chan ei roddi i sefyll ar ei farwar yn wâg fel y twymno, ac y llosco ei brês, ac y toddo ei aflendid ynddo: ac y darfyddo ei scumm.
12Blinodd â chelwyddau, ac nid aeth ei scumm lawer allan o honi; yn tân ei scumm hi.
13Yn dy aflendid screlerder, o herwydd glanhau o honof di, ac nid wyt lân o’th aflendid: ni’th lanheuir mwy, hyd oni lonyddwyf fy llîd wrthit.
14Myfi yr Arglwydd a lleferais, dâw, a gwnaf, ni pheidiaf, ac nid arbedaf, ac nid edifarhaf, yn ôl dy ffyrdd a’th weithredoedd y barnant di, medd yr Arglwydd Dduw.
15A gair yr Arglwydd a ddaeth attaf gan ddywedyd:
16Wele fab dŷn fi yn cymmeryd oddi wrthit ddymmiant dy lygaid, mewn plâ, etto nac alara, ac nac ŵyla, ac na ddeued dy ddagreu.
17Taw a llefain, na na wna farw-nâd, rhwym dy gap am dy a gosot dy escidiau am dy draed, ac na chae ar enau, na fwytta ychwaith fara dynnion
18Felly y lleferais wrth y bobl y boreu, a bu farw fyng-wraig yn yr hŵyr, a gwneuthum drannoeth fel y gorchymynasid i mi.
19Yna y bobl a ddywedasant wrthif fi, oni fynegi i ni beth hynny i ni, gan it wneuthur
20Yna y dywedais wrthynt: gair yr Arglwydd a ddaeth attaf gan ddywedyd.
21Dywet wrth dŷ Israel, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw. wele fi yn halogi fyng-hyssegr, rhagoriaeth eich nerth chwi, dymuniant eith llygaid chwi, ac annwyldra eich enaid: eich meibion, a’ch merched, y rhai a adawsoch a syrthiant ar y cleddyf.
22O nid fel y gwneuthum i y gwnewch, ni chaewch ar eich geneuau, ac ni fwyttewch fara nêb
23[Byddwch] a’ch cappiau am eich pennau, ’ch escidiau am eich traed: ni alerwch, ac nid ŵylwch, onid yn eich anwiredd y toddwch: ac ymdosturiwch bôb vn wrth ei gilydd.
24Felly y mae Ezeciel yn arwydd i chwi, yn ôl yr hyn oll a wnaeth efe y gwnewch pan ddelo hyn, fel y gŵypoch mai myfi yr Arglwydd Dduw.
25Tithe fab dŷn onid yn y dydd y cymmeraf oddi wrthynt eu llawenydd hyfryd, dymuniant eu llygaid, ac annwyldra eu henaid, eu meibion, ai merched,
26Y dydd hwnnw y daw yr hwn a ddiango attat â chwedl newydd.
27Yn y dydd hwnnw yr agorir dy safn wrth yr hwn a ddiango, lleferi hefyd, ac ni byddi fûd mwy: felly y byddi iddynt yn arwydd, fel y gŵypont, mai myfi yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.