1A Gair yr Arglwydd a ddaeth attaf gan ddywedyd:
2Prophwyda fab dŷn a dywet, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw: vdwch ôch rhac heddyw.
3Canys agos dydd, îe agos dydd yr Arglwydd: dydd cwmyloc, amser y cenhedloedd fydd efe.
4A’r cleddyf a ddaw i’r Aipht, a bydd gofid yn Ethiopia, pan syrthio yr archolledic yn yr Aipht, a chymmeryd o honynt ei gweryn hi, a dinistrio ei seiliau.
5Ethiopia, a Libia, a Lidia, ai gweryn oll, Chub hefyd, a meibion tir y cyfammod a syrthiant gydâ hwynt ar y cleddyf.
6Fel hyn y dywed yr Arglwydd, attegion yr Aipht a syrthiant hefyd: a balchder ei nerth hi a ddescyn. syrthiant ynddi at y cleddyf o dŵr Sefeneh, medd yr Arglwydd Dduw.
7A hwynt a wneir yn anghyfannedd ym mhlith gwledydd anghyfanneddol, ai dinasoedd fyddant yng-hanol dinnasoedd anrhaithiedic.
8A chânt ŵybod mai myfi yr Arglwydd, pan roddwyf dân yn yr Aipht, ac y torrer eu holl gymmorth hwynt.
9A’r dydd hwnnw cennadau a ânt allan o’m blaen mewn llongau i ddychrynu Ethiopia ddiofal, yna y bydd gofid arnynt fel nhir yr Aipht: canys wele ef yn dyfod.
10Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, yna y gwnaf i weryn yr Aipht ddarfod trwy law Nabuchodonosor brenin Babilon.
11Efe ai bobl gyd ag ef, cedyrn y cenhedloedd a ddugwyd i ddifetha’r tîr: am hynny tynnasant eu cleddyfau ar yr Aipht, a llanwasant y wlâd â chelanedd.
12Rhoddaf hefyd yr afonydd yn sychder, a gwerthaf y wlâd i law rhai drygionus, îe dinistriaf y wlad ai chyflawnder trwy law dieithriaid: myfi’r Arglwydd dywedodd.
13Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, yna y difethaf y delwau, a gwnaf i’r eulynnod ddarfod o Noph, ac ni bydd tywysog mwyach o dîr yr Aipht: eithr ofn a roddaf ar dîr yr Aipht.
14Pathros hefyd a ddinistriaf, a rhoddaf dân yn Zoan: a gwnaf farnedigaethau yn No.
15A thywalltaf fy llid ar Sin, cryfder yr Aipht: ac mi a dorraf ymmaith weryn No.
16Pan roddwyf dân yn yr Aipht, gan ofidio y gofidia Sin, a No fydd iw rhwygo, felly Noph elynnion beunyddol.
17Gwyr ieuaingc Afen, a Phibeseth a syrthiant ar y cleddyf, ac wele mewn caethiwed yr ânt hwythau.
18Ac ar Tehaphnehes y tywylla y diwrnod, pan dorrwyf yno drossolion yr Aipht: a balchder ei chryfder a dderfydd ynddi: cwmwl ai cuddia hi, ai merched a ânt mewn catthiwed.
19Felly y gwnaf farnedigaethau ar yr Aipht, fel y gwypont mai myfi yr Arglwydd.
20Ac yn y cyntaf o’r vnfed flwyddyn ar ddêc, ar y seithfed o’r mîs, y daeth gair yr Arglwydd attaf gan ddywedyd:
21Ha fâb dŷn, drylliais fraich Pharao brenin yr Aipht: ac wele ni’s rhwymir, i roddi meddiginniaethau gan osod rhwymyn i rwymo, er ei gryfhau i ymaflyd mewn cleddyf.
22Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, wele fi yn erbyn Pharao brenin yr Aipht, ac mi a dorraf ei fraich ef, yr hwn oedd gryf, ac y sydd ddrylliedic, ac a wnaf i’r cleddyf syrthio oi law ef.
23Yna y gwascaraf yr Aiphtiaid ym mysc y cenhedloedd, ac mi ai tânaf hwynt at hyn y gwledydd.
24Ac mi a gadarnhaf freichiau brenin Babilon, a rhoddaf fyng-hleddyf yn ei law ef: a thorraf freichiau Pharao, fel y llefo â llef vn archolledic oi flaen ef.
25Ie cadarnhaf freichiau brenin Babilon, a breichiau Pharao a syrthiant, fel y gwypont mai myfi yr Arglwydd, wedi i mi roddi fyng-hleddyf yn llaw brenin Babilon, ac iddo yntef ei estyn ef ar wlâd yr Aipht.
26Felly y gwascaraf yr Aiphtiaid ym mysc y cenhedloedd, ac y tanaf hwynt ar hŷd y gwledydd: fel y gwypont mai myfi yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.