Iob 40 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XL.Gallu Duw yn ymddangos yn yr Elephant. 20 A’r Lefiathan.

1A’r Arglwydd a attebodd Iob o’r corwynt, ac a ddywedodd,

2Gwregysa yn awr dy lwynau fel gŵr: a myfi a ofynnaf i ti, mynega dithe i mi.

3A wnei di fy marn i yn ofer? a fwrii di fi yn ang-hyfiawn i’th gyfiawnhau di?

4Neu a oes i ti fraich fel i Dduw? neu a wnei di darânau a’th lais fel yntef?

5Ymdrwssia yn awr â goruchafiaeth, ac â goruchelder: ac ymwisc â gogoniant ac â phrydferthwch.

6Tywallt gynddaredd dy ddigofaint: ac edrych ar bob balch, a thafl ef i lawr.

7Edrych ar bob balch a gostwng ef: a dryllia r rhai annuwiol yn eu llê.

8Cuddia hwynt yng-hyd yn y pridd: rhwym eu hwynebau hwy mewn cuddiedic.

9Yna hefyd myfi a gyfaddefaf i ti, mai dy ddeheu-law dy hun a’th achub.

10Yn awr wele’r Eliphant yr hwn a wneuthum gyd a thi: gwair a fwyttu efe fel ych.

11Wele yn awr ei gryfder ef yn ei lwynau: ei nerth ym mogel ei fol.

12Efe a gyfyd ei gynffon fel cedr-wŷdden: gewynnau ei arennau ef sy blethedic.

13Pibellion o ddûr ei escyrn ef: ei escyrn fel ffyn heirn.

14Pennaf o ffyrdd Duw efe: yr hwn ai gwnaeth ef a osododd ei gleddyf.

15Y mynyddoedd yn ddiau a ddygant laswellt iddo ef: ac yno y chwêru holl anifeiliaid y maes.

16Efe a orwedd dann goedydd cyscod-fawr: mewn lloches o gorsennau a siglennydd.

17Coedydd cyscod-fawr ai gorchguddiant ef yn gyscod iddo: helyg yr afon ai hamgylchant ef.

18Wele efe a orthrymma afon na phryssuro hi i efe a obeithie y rhuthre Iorddonen iw safn ef.

19[Yr heliwr] ai deil ef o flaen ei lygaid: a ddylla ei drwyn â bachau:

20A dynni di y Lefiathan allan â bâch? neu a rwymi di ei dafod ef â rhaff?

21A osodi di fâch yn ei drwyn ef? neu a dylli di ascwrn ei ên ef â mynawyd.

22A fawr ymbil efe â thi? a ddywed efe wrthit ti yn dêg?

23A wna efe ammod â thi? a gymmeri di ef yn wâs tragywyddol?

24A chwarei di ag ef fel ag aderyn? neu a rwymi di ef ith langcesau?

25A swpera cyfeillion arno ef? a gyfrannant hwy ef rhwng marsiandi-wŷr?

26A lenwi di fasced ai groen ef? neu gawell pyscod ai benn ef?

27Gosot dy law arno ef: cofia y rhyfel, na wna di mwy.

28Wele ofer ydyw ei obaith ef oni leddid gan ei olwg ef?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help