Amos 4 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IIII.Cospedigaeth swyddogion Samaria (y rhai a eilw efe gwarthec Basan) am eu gau-dduwiaeth. 8 Eu cyndynrwydd hwythau i wellhau ar ôl eu holl gospedigaethau.

1Gwrandewch y gair hwn gwartheg Basan y rhai ydych ym mynydd Samaria, y rhai ydych yn treisio y tlawd, yn yssigo’r anghenog, ac yn dywedyd wrth y meistred, moeswch fel y gallom yfed.

2Tyngodd yr Arglwydd Dduw iw sancteiddrwydd, wele mai dyddiau a ddaw arnoch ac efe a’ch dŵg chwi ymmaith â drain, a’ch hiliogaeth â bachau pyscotta.

3Ewch allan i’r adwyau pob vn ar ei gyfer, ac ymadewch a’r palas, medd yr Arglwydd.

4Deuwch i Bethel, a throsseddwch, i Gilgal, a throsseddwch fwy-fwy, dygwch yn foreu eich aberthau, a’ch degymmau Deut.14 28.wedi tair blynedd.

5Offrymmwch Lefit.7.13.surdoes diolch, cyhoeddwch yspyswch aberthau gwirfodd: canys hyn a hoffwch meibion Israel, medd yr Arglwydd Dduw.

6A rhoddais iwch lendid dannedd yn eich holl ddinasoedd, ac eisieu bara yn eich holl leoedd, ac ni ddychwelasoch atafi medd yr Arglwydd.

7Myfi hefyd a luddiais i chwi law, pan etto dri mîs hyd gynhaiaf, glawiais hefyd ar vn ddinas, ac ni lawiais ar ddinas arall, vn rhan a gafodd law, a’r rhan ni chafodd law a wywodd.

8Gwibiodd dwy ddinas neu dair i vn ddinas i yfed dwfr, ond ni’s diwallwyd: etto ni ddychwelasoch attafi medd yr Arglwydd.

9Tarewais chwi â diflanniad, ac â mallder, eich aml erddi, a’ch gwinllanoedd, a’ch ffigusbrennau, a’ch oliwydd a yssodd y lindis: etto ni throesoch attafi medd yr Arglwydd.

10Anfonais arnoch haint megis yn ffordd Exod.9.10.yr Aipht, eich gwyr ieuaingc a leddais a’r cleddyf, gyd â chaeth-gludo eich meirch: codais ddrewi eich gwerssyllau i’ch ffroenau: etto ni throesoch attafi medd yr Arglwydd.

11Mi a ddymchwelais o honoch, fel yr ymchwelodd Duw Sodoma, a Gomorra, ac yr oeddech fel pentewyn wedi ei achub o losci: etto ni throesoch attafi medd yr Arglwydd.

12O herwydd hynny y modd ymma y gwnaf it Israel, ac o herwydd mai hyn a wnaf it, bydd barod Israel i gyfarfod a’th Dduw.

13Canys wele lluniwr y mynyddoedd, a chreawdur y gwynt, yr hwn a fynega i ddyn beth ei fyfyrdawd, a wnaiff y boreu yn dywyll, ac a gerdd ar vchelder y tîr: Arglwydd Dduw y lluoedd ei enw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help