Luc 5 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. V.Crist wedi dyscu’r bobl o’r llong yn peri helfa fawr o byscod. 12 Yn iachau y gwahanglwyfus. 18 Ac vn claf o’r parlys. 27 Yn galw Lefi. 33 Ac yn dangos pa ham nad ymprydiase ei ddyscyblion ef y pryd hynny.

1 Bu Math.4.18. Marc.1.16.hefyd a’r bobl yn pwyso atto i wrando gair Duw, ac efe yn sefyll yn ymyl llynn Genezaret,

2Weled o honaw ddwy long yn sefyll wrth y llynn, a’r pyscod-wŷr a aethent allan o honynt, ac oeddynt yn golchi eu rhwydau.

3Wedi iddo fyned i mewn i vn o’r llongau, yr hon oedd eiddo Simon, efe a ddymunodd arno ei gyrru hi ychydig oddi wrth y tîr, wedi iddo eistedd, efe a ddyscodd y bobl o’r llong.

4Pan beidiodd â llefaru, efe a ddywedodd wrth Simon, gyrr i’r dwfn, a bwriwch eich rhwydau am helfa.

5Yna yr attebodd Simon, ac a ddywedodd wrtho, ô feistr er i ni boeni ar hŷd y nos, ni ddaliasom ni ddim: er hynny ar dy air di mi a fwriaf y rhwyd.

6Ac wedi iddynt wneuthur hyn, hwynt hwy a ddaliasant liaws mawr o byscod: a rhwygodd a eu rhwyd hwynt:

7A hwynt a amneidiasant ar eu cyfeilliō, y rhai oeddynt yn y llong arall, fel y gallent ddyfod iw cynnorthwyo hwynt: ac hwynt hwy a ddaethant, ac a lanwasant y ddwy long onid oeddynt yn soddi.

8Pan welodd Simon Petr hyn, efe a syrthiodd wrth liniau’r Iesu, gan ddywedyd: dos ymmaith oddi wrthif, canys dŷn pechadurus wyfi.

9O blegit braw a ddaethe arno, ac ar y rhai oll oeddynt gyd ag ef, am yr helfa byscod a ddaliasent hwy.

10Felly hefyd ar Iaco, ac Ioan meibion Zebedeus, cymdeithion Simon. Yna y dywedodd yr Iesu wrth Simon: nac ofna, o hyn allan y deli ddynion.

11A phan ddugasant y llongau i’r tir, hwynt hwy a adawsant bob peth, ac a’i dilynasant ef.

12Ac Math.8.2. Marc.1.4.fel yr oedd efe mewn rhyw ddinas, wele ŵr yn llawn o’r gwahanglwyf, a phan welodd efe yr Iesu, efe a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymbiliodd ag ef gan ddywedyd, o Arglwydd os ewyllyssi di, ti a elli fyng-lanhau.

13Ac yntef gan estyn ei law a’i cyffyrddodd ef gan ddywedyd, yr wyf yn ewyllyssio, bydd lân: ac yn ebrwydd y gwahan-glwyf a’i gadawodd ef.

14Ac efe a orchymynnodd iddo na ddywede i neb: eithr dos (eb efe) ac ymddangos i’r offeiriad, ac offrwm tros dy lanhâd fel y gorchymynnodd Lefit.14.4. Moses yn destiolaeth iddynt.

15A’r gair a aeth fwy-fwy am dano ar llêd, a llawer o bobl a ddaethant yng-hyd iw wrando, ac i gael iechyd ganddo o’u clefydau.

16Yntef oedd yn cilio o’r nailltu yn y diffaethwch, ac yn gweddio.

17A bu ar ddiwrnod fel yr oedd efe yn athrawiaethu, fod o’r Pharisæaid a doctoriaid y gyfraith yn eistedd yno, y rhai a ddaethent, o bob tref yn Galilæa, ac Iudæa, ac o Ierusalem: ac yr oedd gallu’r Arglwydd iw hiachau hwynt.

18Ac wele Math.9.2. Mar.2.3.rai yn dwyn dŷn mewn gwely, yr hwn a oedd glaf o’r parlys: a hwynt a geisiasant ei ddwyn ef i mewn, a’i ddodi ger ei fron ef.

19A phryd na chawsant ffordd iw ddwyn ef i mewn gan y bobl, hwynt hwy a ddringasant ar y tŷ, ac a’i gollyngasant ef yn y gwely i’r llawr yn y canol trwy’r pridd-lechau ger bron yr Iesu.

20A phan weles efe eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd, y dŷn maddeuwyd i ti dy bechodau.

21Yna y ddechreuodd yr scrifennyddion a’r Pharisæaid ymresymmu gan ddywedyd, pwy yw hwn sydd yn dywedyd cabledd? pwy a ddichon faddeu pechodeu, ond Duw yn vnic?

22Pan ŵybu’r Iesu eu hymresymmiad hwynt, efe a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt: pa resymmu yn eich calonnau yr ydych?

23Pa vn hawsaf ai dywedyd, maddeuwyd i ti dy bechodau: a’i dywedyd, cyfot a rhodia?

24Ond fel y gŵybyddoch fod i Fab y dŷn awdurdod ar y ddaiar i faddeu pechodau, (ebr efe wrth y claf o’r parlys) yr wyf yn dywedyd wrthit: cyfot cymmer dy wely, dos i’th dŷ.

25Ac yn y man y cyfodes efe i fynu yn eu gŵydd hwynt, ac efe a gymmerth yr hyn y gorwedde arno, ac a aeth ymmaith iw dŷ ei hun, gan ogoneddu Duw.

26A syndod a ddaeth ar bawb: a hwynt a folianasant Dduw: ac hwy a lanwyd o ofn, gan ddywedyd: gwelsom yn ddiau bethau anhygoel heddyw.

27Yn Math.9.9. Marc.2.14 ôl hyn yr aeth efe allan, ac a welodd Publican a’i enw Lefi, yn eistedd yn y dollfa, ac efe a ddywedodd wrtho, dilyn fi.

28Ac yntef gan adel y cwbl, a gyfodes i fynu, ac a’i dilynodd ef.

29A gwnaeth Lefi iddo wledd fawr yn ei dŷ, lle yr oedd tyrfa fawr o Bublicanod, ac eraill oeddynt yn eistedd gyd â hwynt ar y bwrdd.

30A’r sawl o honynt oedd scrifennyddion a Pharisæaid a furmurasant yn erbyn ei ddiscyblion ef, gan ddywedyd: pa ham yr ydych chwi yn bwyta, ac yn yfed gyd â’r Publicanod a’r pechaduriaid?

31A’r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt: nid rhaid i’r rhai iach wrth feddig, ond i’r rhai cleifion:

32Ni 1.Tim.1.15. ddaethum i alw’r cyfiawn, ond pechaduriaid i edifeirwch.

33Yna y dywedasant wrtho: Math.9.14. Marc.2.18.pa ham y mae discyblion Ioan yn ymprydio yn fynych, ac yn gweddio, a discyblion y Pharisæaid hefyd, a’r eiddo ti yn bwytta, ac yn yfed?

34Yntef a ddywedodd wrthynt, a ellwch chwi beri i blant yr stafell briodas ymprydio, tra fyddo’r priodas-fab gyd â hwynt?

35Y dyddiau a ddeuant hefyd pan dynner y priodas-fab oddi wrthynt, ac yna yr ymprydiant yn y dyddiau hynny.

36Ac efe a ddywedodd wrthynt ar ddāmeg: ni rydd neb lain o wisc newydd mewn hên wisc: canys yna y newydd a’i rhwyg, a’r llain o’r newydd ni chyduna â’r hên.

37Ac nid yw neb yn bwrw gwin newydd i hên gostrelau, canys yna y dryllia’r gwin newydd a y costrelau, ac y rhed efe allan, a’r costrelau a gollir.

38Eithr gwin newydd sydd iw fwrw mewn costrelau newyddion, a phob vn a gedwir.

39Hefyd nid oes neb a ŷf win hên, ac yn y fan a gais y newydd, canys dywed, gwell yw’r hên.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help