Baruch 2 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. II.Y mae y bobl yn cyfaddef eu beiau am na chredasent i’r Arglwydd, ac na wasanaethasent frenin Babilon fel yr archase efe.

1AM hynny y cyflawnodd yr Arglwydd ei air yr hwn a lefarodd efe wrthym ni, ac wrth ein barn-wŷr y rhai a farnent Israel, ac wrth ein brenhinoedd, ac wrth ein tywysogion ac wrth wŷr Israel ac Iuda,

2Gan ddwyn arnom ni ddryg-fyd mawr, megis na bu tann y nefoedd fel y mae yn Ierusalem, yn ôl Deut.28.53.yr hyn a scrifennwyd yng-hyfraith Moses:

3Y bwytae dyn gnawd ei fab ei hun, a ch­nawd ei ferch ei hun.

4Efe hefyd ai rhoddes hwynt yn weision caethion i’r holl deyrnasoedd y rhai o’n hamgylch ni, i fod yn wradwyddus ac yn ang­hyfannedd ym mysc yr holl bobloedd y rhai a ydynt o’n hamgylch, lle y gwascarodd yr Arglwydd hwynt.

5Felly i’n dygwyd ni i wared, ac nid i fynu, am bechu o honom ni yn erbyn yr Arglwydd ein Duw heb wrando ar ei lais ef.

6Ein Harglwydd Dduw sydd gyfiawn: i ninnau ac i’n tadau Pen.1.15.[y mae] gwarthrudd goleu fel heddyw.

7Yr Arglwydd a ddychymygodd yr holl ddrygau hyn, y rhai a ddaethant arnom ni.

8Ac ni weddiasom ni ger bron yr Arglwydd ar droi o bob vn oddi wrth feddyliau eu calon ddrygionus.

9Am hynny y gwiliodd yr Arglwydd am ddrygfyd, ac ai dug arnom ni: o blegit cyfiawn yw ’r Arglwydd yn ei holl weithredoedd y rhai a orchymynnodd efe i ni.

10Ond ni wrandawsom ni ar ei lais ef, gan rodio yn ei orchymynnion ef y rhai a roddes efe o’n blaen ni.

11 Dan.9.15. Ac yn awr ô Arglwydd Dduw Israel yrhwn a ddugaist dy bobl allan o dir yr Aipht trwy law gadarn, trwy arwyddion a rhyfeddo­dau a thrwy allu mawr a braich estynnedic, ac a wnaethost it enw fel heddyw,

12O ein Harglwydd Dduw, nyni a bechasom, a fuom annuwiol, ac a wnaethom yn anghyfiawn yn dy holl gyfiawnder di.

13Troer dy lid ti oddi wrthym ni, oherwydd ychydig a adawed o honō ni ym mysc y cenhedloedd lle y gwasceraist ti nyni.

14Gwrando Arglwydd ein Gweddi a’n deisyf, a rhyddhâ ni er dy fwyn dy hun, a gwna i ni gael ffafr yng-olwg y rhai a’n caethgludasant ni,

15Fel y gŵypo pob gwlad mai ti ydwyt yr Arglwydd ein Duw ni, mai ar dy enw di y geilw Israel ai genedl.

16Edrych i lawr o’th dŷ sanctaidd, meddwl am danom ni, gostwng dy glust ô Arglwydd a gwrando.

17 Deut.26.15. esa.63.15. Agor dy lygaid a gwêl o herwydd nid y meirw yn vffern y rhai y dygwyd eu heneidiau ai cyrph a Psal.6.5. & 115.17. esa.38.18.roddant ogoniant a chyfiawnder i’r Arglwydd:

18Eithr yr enaid yr hwn sydd athrist am amldra yr hwn sydd yn peri iddo fyned yn grwm, ac yn llesc: a’r llygaid palledic, a’r enaid newynog a roddant ogoniant a chyfiawnder i ti ô Arglwydd.

19O blegit nid am gyfiawnder ein tadau a’n brenhinoedd yr ydym ni yn tywallt ein gweddi ger dy fron di ein Harglwydd Dduw,

20[Eithr] am anfon o honot dy lid a’th ddigofaint arnom ni, fel y dywedaist trwy law dy weision y prophwydi gan ddywedyd:

21 Ier.27.7. Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, gostyngwch eich yscwyddau a’ch gwarrau a gwasanaethwch frenin Babilon, fel yr arhosoch yn y wlâd yr hon a roddais i i’ch tadau chwi.

22Ac oni wrandewch ar lais yr Arglwydd gan wasanaethu brenin Babilon,

23Mi a wnaf ddinistr yn ninasoedd Iuda, ac allan o Ierusalem lais gorfoledd a llais llawenydd, llais priodfab a llais priod-ferch, a’r holl wlâd a fydd anghyfannedd heb drigolion.

24Ond ni wrandawsom ni ar dy lais di gan wasanaethu brenin Babilon, am hynny y cyflawnaist ti dy eiriau y rhai a leferaist trwy wenidogaeth dy weision y prophwydi y dugid escyrn ein brenhinoedd, ac escyrn ein tadau oi lle.

25Ac wele hwynt a daflwyd allan yng-wrês y dydd, ac yn oerni y nôs, ac a fuant feirw mewn gofid mawr trwy newyn a chleddyf, ac mewn herwriaeth.

26Dy dŷ hefyd (lle y gelwid ar dy enw) a wrthodaist di, fel heddyw, am ddrygioni tŷ Israel a thŷ Iuda.

27A thi a wnaethost â ni o Arglwydd ein Duw yn ôl dy gyfiawnder oll, ac yn ôl dy fawr drugaredd oll.

28Fel y lleferaist trwy dy wâs Moses y dydd y gorchymynnaist ti iddo ef scrifennu dy gyfraith di o flaen meibion Israel gan ddywedyd,

29 Lefit.26.14. Deut.18.15. Oni wrandewch chwi ar fy llais i, y dyrfa fawr luosoc hon a droir yn ddiau yn ychydic ym mysc y cenhedloedd lle y gwascaraf fi hwynt.

30Er hynny mi a wn na wrandawant hwy arnafi: o blegit pobl wargaled ydynt hwy: eithr yn y tir lle y caethgludir hwynt y meddyliant hwy am danynt eu hun,

31Ac y gwybyddant mai myfi ydwyf eu Harglwydd Dduw hwynt pan roddwyf fi iddynt hwy galon a chlustiau i wrando.

32Yna i’m moliannant i yn y wlâd lle y caeth-gludir hwynt, ac y cofiant fy enw i.

33Ac y troant oddi wrth eu hanufydd-dod ai drwg weithredoedd, o blegit mi a gofiaf ffordd eu tadau y rhai a bechasant yng-ŵydd yr Arglwydd.

34Felly y dygaf hwynt drachefn i’r tir yr hwn trwy lw a addewais i iw tadau hwynt i A­braham, i Isaac, ac i Iacob, ac hwy ai meddiannant, ac mi ai hamlhaf hwynt, ac ni’s lleiheir hwynt.

35Ac mi a wnaf â hwynt gyfammod tragywyddol, y byddaf fi yn Dduw iddynt hwy, ac y byddant hwythau yn bobl i mi, ac ni symudaf mwyach fy mhobl Israel o’r tîr yr hwn a roddais iddynt hwy.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help