1Y gair yr hwn a ddaeth at Ieremi oddi wrth yr Arglwydd gan ddywedyd:
2Fel hyn y llefarodd yr Arglwydd Duw Israel gan ddywedyd: scrifenna i ti yr holl eiriau y rhai a leferais i wrthit mewn llyfr.
3Canys wele y ddyddiau yn dyfod medd yr Arglwydd i mi ddychwelyd caethiwed fy mhobl Israel, ac Iuda medd yr Arglwydd: canys mi ai dygaf hwynt trachefn i’r wlâd a roddais iw tadau, ac hwynt ai etifeddant hi.
4Dymma hefyd y geiriau y rhai a lefarodd yr Arglwydd am Israel, ac am Iuda.
5O herwydd fel hyn y dywed yr Arglwydd, Esa.13.8.llef dychryn a glywsom ni, ofn, ac nid heddwch.
6Gofynnwch yr awr hon, ac edrychwch a escora gwryw, pa ham yr ydwyfi yn gweled pob gŵr ai ddwylo ar ei lwynau, fel gwraig wrth escor? ac y troiwyd yr holl wynebau yn lesni?
7Och rhac maint y dydd hwn, heb gyffelyb iddo, sef amser blinder hwn i Iacob: ond efe a waredir o honaw.
8Canys y dydd hwnnw medd Arglwydd y lluoedd y torrafi ei iau ef oddi ar dy warr di, ac mi a ddrylliaf dy rwymau, ac ni chaiff dieithriaid wneuthur iddo ef eu gwasanaethu hwynt mwyach.
9Eithr hwynt a wasanaethant yr Arglwydd eu Duw, Ezec.34.23. Ose.3.5.a Dafydd eu brenin yr hwn a godafi iddynt.
10Nac ofna di ô fyng-wâs Iacob medd yr Arglwydd, ac na ddychrynna di ô Israel: canys wele mi a’th achubaf di o bell, a’th hâd o dîr eu caethiwed hwynt, ac Iacob a ddychwel, ac a orphywys, ac a gaiff lonydd, ac heb dychrynnudd.
11Canys yr ydwyfi gyd â thi medd yr Arglwydd i’th achub di, o herwydd mi a wnaf dangc ar yr holl genhedloedd lle i’th wascerais: etto ni ddifethafi mo honot ti, eithr mi a’th gospaf di mewn barn, ac Ier.46.28.ni thorrafi di ymmaith yn llwyr.
12O blegit fel hyn y dywed yr Arglwydd anghefol yw dy yssigtod, a dolurus yw dy bla.
13Nid a farno dy gŵyn iachao: nid feddiginiaeth o iechyd i ti.
14Dy holl gariadau a’th anghofiasant, ni cheisiant mo honot ti, o herwydd i mi dy daro â dyrnod gelyn a chospedigaeth greulon: am amlder dy anwiredd: dy bechodau a’th orthfygasant.
15Pa ham y bloeddi am dy yssigtod? anghefol dy ddolur: am amlder dy anwiredd, dy bechodau a’th orchfygant, minne a wneuthum hyn i ti.
16Am hynny y rhai oll a’th yssant a yssir, a chwbl o’th holl elynnion a ânt mewn caethiwed: a’th anrheith-wŷr di a fyddant yn anrhaith, a’th holl yspeil-wŷr a roddafi yn yspail.
17Canys myfi a roddaf iechyd i ti, ac a’th iachaf di o’th friwiau medd yr Arglwydd: o blegit hwynt a’th alwasant di, yr hon a fwriwyd ymmaith Sion, yr hon nid yw yn ei cheisio.
18Fel hyn y dywed yr Arglwydd, wele myfi a ddychwelaf gaethiwed lluestai Iacob, ac a gymmeraf drugaredd ar ei anneddau ef: a’r ddinas a adailedir ar ei charnedd, a’r llŷs a erys ar ei iawn le.
19A moliant a aiff allan o honynt, a llais gorfoledd: ac mi ai hamlhaf hwynt, ac ni phrinheuir hwynt, ac mi ai hanrhydeddaf hwynt, ac na’s amherchir.
20Eu meibion hefyd fydd megis cynt, ai cynnulleidfa a siccrheuir ger fy mron: ac mi a ymwelaf ai holl orthrym-wŷr hwynt.
21Ai pendefig fydd o honynt ei hun, ai llywiawdr a ddaw allan oi mysc eu hun, ac mi a baraf iddo nessau a dyfod attaf: canys pwy yr hwn a glyw ar ei galon i nessau attafi medd yr Arglwydd?
22A chwi a fyddwch yn bobl i mi, a minne a fyddaf yn Dduw i chwithau.
23Wele ryferthwy yr Arglwydd yn dyfod allan digter corwynt parhaus: ar benn annuwiolion yr erys.
24Ni ddychwel digofaint llidioc yr Arglwydd nes iddo wneuthur, ac nes iddo gyflawni meddwl ei galon ef: yn y dyddiau diwethaf y deallwch hyn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.