1Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, dos at Pharao: a llefara wrtho ef, fel hyn y dywed Arglwydd Dduw yr Hebræaid, gollwng ymmaith fy mhobl fel i’m gwasanaethant.
2O blegit os gwrthodi di gollwng ymmaith: ac attal o honot hwynt etto,
3Wele llaw’r Arglwydd fydd ar dy anifeiliaid, y rhai yn y maes, ar feirch, ar assynnod, ar gamelod, ar y gwarthec, ac ar y defaid: y daw haint drom iawn.
4A’r Arglwydd a nailltua rhwng anifeiliaid Israel, ac anifeiliaid yr Aiphtiaid: fel na byddo marw dim o gwbl eiddo meibion Israel.
5A gosododd yr Arglwydd amser nodedic gan ddywedyd: y foru y gwna’r Arglwydd y peth hyn yn y wlad.
6A’r Arglwydd a wnaeth y peth hynny drannoeth, canys bu feirw holl anifeiliaid yr Aiphtiaid: ond o anifeiliaid meibion Israel, ni bu farw vn.
7A Pharao a anfonodd, ac wele ni buase farw gymaint ac vn o anifeiliaid Israel: er hynny caledodd calon Pharao, ac ni ollyngodd y bobl.
8A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, ac wrth Aaron, cymmerwch iwch loned eich llaw o ludw ffwrn: a thaned Moses ef tua’r nefoedd yng-ŵydd Pharao,
9Ac efe fydd yn llwch ar holl dîr yr Aipht: ac a fydd ar ddyn ac ar anifail yn gornwyd llinoroc trwy holl wlad yr Aipht.
10Yna y cymmerasant ludw’r ffwrn, ac a safasant ger bron Pharao, a Moses ai tanodd tua’r nefoedd: ac efe aeth yn gornwyd chwysigennoc ar ddŷn ac ar anifail.
11A’r swyn-wyr ni allent sefyll ger bron Moses gan y cornwyd: o blegit yr oedd y cornwyd ar y swynwyr, ac ar yr holl Aiphtiaid.
12Er hynny’r Arglwydd a galedase galon Pharao fel na wrandawe arnynt: megis y Pen.4.21.llefarase yr Arglwydd wrth Moses.
13Yna’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, cyfot yn foreu, a saf ger bron Pharao: a dywet wrtho, fel hyn y dyweddodd Arglwydd Dduw’r Hebræaid, gollwng fy mhobl i’m gwasanaethu.
14Canys y waith hon yr anfonaf fy holl blagau ar dy galon, ac ar dy weision, ac ar dy bobl: fel y gwypech nad oes fyng-hyffelyb yn yr holl dîr.
15O herwydd yn awr mi a estynnaf fy llaw, ac a’th darawaf di, a’th bobl a haint y nodau: a thi a ddinistrir o’r tîr.
16Ac yn ddiau Rhuf.9.17.er mwyn hynn i’th gyfodais di i ddangos i ti fy nerth: ac i fynegu fy enw drwy’r holl dîr.
17Tithe ydwyt yn ymdderchafu ar fy mhobl: eto heb eu gollwng hwynt ymmaith?
18Wele mi a lawiaf yng-hylch yr amser ymma y foru genllysc trymmion iawn: y rhai ni bu eu mâth yn yr Aipht o’r dydd y sylfaenwyd hi hyd yr awr hon.
19Anfon gan hynny yn awr, cascl dy anifeiliaid, a phôb dim ar y sydd it yn y maes: pôb dŷn, ac anifail a gaffer yn y maes, ac nis casgler i dŷ, y descyn y cenllysc arnynt, ac a fyddant feirw.
20Yr hwn a ofnodd air yr Arglwydd o weision Pharao a yrrodd ei weision, ai anifeiliaid i dai.
21A’r hwn nid ystyriodd air yr Arglwydd: a adawodd ei weision ai anifeiliaid yn y maes.
22A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, estyn dy law tua’r nefoedd, fel y byddo cenllysc yn holl wlad yr Aipht: ar ddŷn ac ar anifail, ac ar holl lyssiau y maes o fewn tîr yr Aipht.
23Yna Moses a estynnodd ei wialen tua’r nefoedd, a’r Arglwydd a roddodd daranau a chenllysc, ac aeth tân ar hyd y ddaiar, a chafododd yr Arglwydd genllysc ar dîr yr Aipht.
24Felly’r ydoedd cenllysc, a thân yn ymgymmeryd yng-hanol y cenllysc: yn drwm iawn yr hwn ni bu ei fath yn holl wlad yr Aipht, er pan ydoedd yn genhedlaeth.
25A’r cenllysc a gurodd trwy holl wlad yr Aipht gwbl ar yn y maes, yn ddyn, ac yn anifail: y cenllysc hefyd a gurodd holl lyssieu y maes, ac a ddrylliodd holl goed y maes.
26Yn vnic yng-wlad Gosen yr hon yr ydoedd meibion Israel ynddi: nid oedd cenllysc.
27A Pharao a anfonodd, ac a alwodd ar Moses, ac Aaron, a dywedodd wrthynt, pechais y waith hon: yr Arglwydd sydd gyfiawn, a minne a’m pobl yn annuwiol.
28Gweddiwch ar yr Arglwydd, (canys digon na byddo taranau Duw na chenllysc, ac mi a’ch gollyngaf, ac ni arhoswch mwy.
29A dywedodd Moses wrtho, pan elwyf allan o’r ddinas, mi a ledaf fy nwylaw at yr Arglwydd: taranau a beidiant, a’r cenllysc ni bydd mwy, fel y gwypech mai’r Arglwydd piau yr ddaiar.
30Ond mi a wn nad ydwyt ti etto na’th weision yn ofni wyneb yr Arglwydd Dduw.
31A’r llin a’r haidd a gurwyd: canys yr haidd wedi hedeg, a’r llin wedi hadu.
32Ond y gwenith a’r rhŷg ni churwyd: o herwydd diweddar hwy.
33Yna Moses a aeth oddi wrth Pharao allan o’r ddinas, ac a ledodd ei ddwylo ar yr Arglwydd: a’r taranau a’r cenllysc a beidiasant, ac ni ddefnynnodd glaw ar y ddaiar.
34Pan welodd Pharao beidio o’r glaw, a’r cenllysc, a’r taranau, yna efe a chwanegodd bechu: canys caledodd ei galon ef ai weision.
35Ie caledodd calon Pharao fel na ollynge efe feibion Israel ymmaith: megis y llefarase’r Arglwydd trwy law Moses.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.